91热爆

Cynnal yr ysbrydYmgyrchoedd ac apeliadau

Roedd cynnal yr ysbryd yn her fawr i Lywodraeth Prydain. Heb gynnal yr ysbryd a gobaith efallai na fyddai buddugoliaeth wedi bod yn bosibl, yn arbennig o gofio bod angen sifiliaid i helpu gyda鈥檙 ymgyrch ryfel. Pa mor bwysig oedd cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Ymgyrchoedd ac apeliadau

Roedd yna ddwy ap锚l fawr yn ystod y rhyfel er mwyn dangos sut y gellid defnyddio er mwyn helpu Prydain i ymdopi.

Poster gyda darlun o fasged o lysiau iach. Y geiriau yw 'Your own vegetables all year round鈥 if you dig for victory now.
Image caption,
Poster Tyllu am Fuddugoliaeth (Dig for Victory)

Tyllu am Fuddugoliaeth (Dig for Victory)

Y rheswm am hyn oedd bod y Weinyddiaeth Fwyd eisiau i bobl wastraffu llai o fwyd a thyfu eu bwyd eu hunain. Byddai hynny hefyd yn eu helpu i ymdopi 芒 dogni.

Roedd yr ymgyrch hon yn annog pobl i ddefnyddio unrhyw dir dros ben i dyfu llysiau. Defnyddiwyd parciau, clybiau golff a hyd yn oed y ffos o gwmpas T诺r Llundain.

Gofynnwyd i bobl droi eu gwelyau blodau yn rhandiroedd. Hefyd, rhannwyd rysetiau oedd yn awgrymu ffyrdd newydd o goginio llysiau, yn cynnwys 鈥榗yri moron鈥 a 鈥榗arotade鈥.

Erbyn 1943, roedd yna 3.5 miliwn o randiroedd ym Mhrydain, a chynhyrchwyd dros filiwn tunnell o lysiau.

Poster gyda darlun o fasged o lysiau iach. Y geiriau yw 'Your own vegetables all year round鈥 if you dig for victory now.
Image caption,
Poster Tyllu am Fuddugoliaeth (Dig for Victory)
Poster yn darlunio awyrennau'r RAF; Hurricane, Spitfire, Beaufighter, Tomahawk a Whirlwind. Geiriau; Wings for victory. The sky's the limit for war savings.
Image caption,
Poster Cronfa Spitfire (Spitfire Fund), 1943

Cronfa Spitfire (Spitfire Fund)

Cr毛wyd apeliadau er mwyn annog pobl i roi arian tuag at gynhyrchu鈥檙 awyrennau Spitfire cyffrous a phoblogaidd. Roedd yn costi rhwng 拢8,000 a 拢12,000 (bron i hanner miliwn o bunnoedd heddiw) i adeiladu awyren Spitfire.

Roedd papurau newydd lleol yn rhestru pobl a grwpiau oedd wedi rhoi arian. Mewn gwirionedd, roedd gan bron bob tref ym Mhrydain eu henwau ar awyrennau Spitfire, oedd yn dangos eu bod wedi rhoi yn hael.

Byddai hynny wedi gwneud i bobl deimlo eu bod yn rhan o鈥檙 ymgyrch ryfel, a defnyddiwyd delweddau o鈥檙 digwyddiadau codi arian yn glyfar fel propaganda.

Poster yn darlunio awyrennau'r RAF; Hurricane, Spitfire, Beaufighter, Tomahawk a Whirlwind. Geiriau; Wings for victory. The sky's the limit for war savings.
Image caption,
Poster Cronfa Spitfire (Spitfire Fund), 1943

Defnydd o鈥檙 Iaith Gymraeg gan y Llywodraeth

Roedd yna dros 40,000 o Gymry Cymraeg nad oedden nhw鈥檔 gallu siarad Saesneg, ac roedd San Steffan yn cydnabod yr angen i gyhoeddi a darlledu propaganda a gwybodaeth arall yn y Gymraeg. Yn ystod y rhyfel, roedd y 91热爆 yn darlledu am 20 munud bob dydd yn y Gymraeg, sef newyddion, sgyrsiau, rhaglenni plant a gwasanaethau crefyddol yn bennaf.