Sgwrs Elfed
Fe fu Elfed Roberts yn sgwrsio ar lein ddydd Mercher gyda chriw Cymru'r Byd. Dyma sut aeth hi...yr holl gwestiynau ac atebion...
Cymru'r Byd : Helo a chroeso i'r sgwrs ar lein heddiw, gyda Elfed Roberts. Rydyn ni yma am y 45 munud nesaf, felly manteisiwch ar y cyfle ac anfonwch eich cwestiynau at Elfed Roberts nawr!Elin:Cwestiwn amserol iawn. Ydych chi yn credu y dylai alcohol gael ei werthu ar Faes yr Eisteddfod?
Elfed Roberts : Mae hwnna yn gwestiwn anodd, mae dwy farn bendant. Mae yna bobl o blaid a phobl yn erbyn. Mae pobl o blaid yn honni y byddai yn helpu yr Eisteddfod yn ariannol .. dydw i ddim yn credu hynny yn bersonol ... dw i yn meddwl y byddai'n helpu i chwalu y myth ynglyn 芒 delwedd yr Eisteddfod. Mae yna lawer o bobol yn credu bod yr Eisteddfod yn wyl hen ffasiwn ac sydd heb ddatblygu o gwbwl.. efallai y byddai caniat谩u bar ar y maes yn helpu i gael gwared ar y myth hynna.
Ann: Sut mae denu mwy o bobl ifanc i'r Eisteddfod - heb iddyn nhw ddod gyda'u hysgol i gystadlu?
ER : Dan ni wedi gweithio yn galed ar geisio denu rhagor o bobol ifanc i'r Steddfod ac wedi datblygu cynlluniau fel Maes B .. i wneud hyn. Mae yna hefyd, brisiau gostyngol i bobol ifanc yn cael eu cynnig i ddod i'r maes, a rydyn ni hefyd wedi gwella safon ar y maes carafannau a phebyll. Beth hoffwn i wybod ydi beth yw barn pobol eraill ar y mater yma achos dan ni eisiau denu rhagor o bobol i'r Steddfod yn sicr.
Sian : Ydi trefnu Eisteddfod ar 么l y llall yn gallu bod yn ddiflas ac ailadroddus weithiau?
ER : Nac ydi yn bendant! Mae pob Eisteddfod yn hollol wahanol am ein bod ni yn gweithio efo pobl wahanol. Dyma un o fanteision gwyl symudol.
Eleri : Efallai y dylai'r Eisteddfod ddenu pobl ifanc drwy gael cystadlaethau drwy gyfrwng y "ff么n l么n" ? Tecstio'r atebion? Dyddiadur Diwrnod (drwy tecstio)?
ER : Dan ni wedi bod yn defnyddio'r ff么n lon i geisio denu pobl ifanc i'r Maes B, mae wedi bod yn llwyddiannus. Dan ni'n sicr yn edrych ar bob math o ffyrdd i wella marchnata'r Steddfod i ieuenctid.. un o'r pethau ydan ni wedi neud yw ail ddylunio safle gwe yr Eisteddfod, ac yn gobeithio y bydd hyn yn ffordd dda i ddenu rhagor yma.
Sychedwr : Pam oedd yna bobl yn cael yfed lager ar y maes - yn ystod cystadleuthau'r bandiau ddydd Sul?
ER : Wydden i ddim bod yna bobl yn yfed alcohol... yn sicr wnaethon nhw ddim ei brynu fo yma, mae'n rhaid eu bod nhw wedi dod ag ef i mewn heb yn wybod i ni.
Sian : Ar 么l Eisteddfod Meifod, pryd fyddwch chi'n dechrau trefnu Eisteddfod y flwyddyn nesaf neu ydi'r gwaith hwnnw wedi dechrau'n barod?!
ER : Mae o wedi dechrau ers tua deunaw mis! Dan ni hefyd wedi dechrau ar drefnu Steddfod 2005, ac ym mis Hydref mi fyddwn ni yn dechrau ar Steddfod 2006.
Jane : Faint o farchnata sydd yna i nosweithiau nos yr Eisteddfod? Roedd Gwyn Hughes Jones yn canu yn y Pafiliwn nos Fawrth - a'r lle yn gymharol wag.
ER : Mi yden ni'n ceisio gwario cyn gymaint ag y medrwn ni ar farchnata .. ac yn sicr mae marchnata cyngherddau eleni wedi cychwyn ers Ionawr. Mae cymharol wag Jane yn golygu bod bron i fil o bobol yn y Pafiliwn, felly mae mil mewn rhan fwya' o lefydd yn eithriadol o dda, ond mewn pafiliwn i dair mil o bobol, mae'n ymddangos yn fwy gwag nad ydio o.
Clwyd : Beth ydych chi'n ei feddwl am yr Archdderwydd yn gwneud datganiad gwleidyddol yn ystod Seremoni'r Coroni?
ER : Dw i'n meddwl fod gan bawb ryddid i ddatgan eu barn ar bynciau pwysig y dydd... ond efallai nad llwyfan yr Eisteddfod ydi'r lle gorau i wneud hynny oherwydd mai anrhydeddu llwyddiant bardd neu lenor ddylai ddigwydd yn y seremon茂au.
Lowri : Ers pryd ydych chi wedi bod yn Gyfarwyddwr yr Eisteddfod?
ER : 1993.
Heledd : Ydy hi'n swydd anodd?
ER : Weithiau! ond rhan fwyaf o'r amser mae'n swydd ddiddorol oherwydd dw i'n cael cyfarfod efo cannoedd o bobol a chael digon o amrywiaeth.
Bethan : Beth sydd wedi bod y sialens fwyaf i chi yn ystod eich gyrfa?
ER : Ymm.. cael y swydd yn y lle cynta! neu wneud y sgwrs yma!
Cwestiwn :Beth ydy uchafbwynt eich amser fel cyfarwyddwr?
ER : Yr uchafbwynt ydy cynnal y Steddfod bob blwyddyn.. mae diwrnod agoriadol yr Eisteddfod yn rhoi gwefr fawr i fi a'r t卯m sy'n gweithio efo ni oherwydd ei fod yn golygu ein bod wedi llwyddo i gyrraedd y nod.
Cwestiwn : Ydych chi'n meddwl y dylen ni gael gwyl y banc yng Nghymru wythnos y steddfod fel bod PAWB yn gallu mynd yno?
ER : Ydw yn bendant. Ddylai'r ddau benwythnos fod yn wyliau cyhoeddus.
Lowri : Beth, yn eich barn chi, sy'n gwneud cyfarwyddwr Eisteddfod da?
ER : Parodrwydd i wrando ... a awydd i gyd-weithio efo pobl ac yna wedyn y gallu i fod yn gymodwr.
Lisa : Sut ydych chi am ddenu mwy o bobl ifanc i Faes yr Eisteddfod ym Meifod?ER : Dyma'r un o'r sialensau mwya' o'r herwydd mai pobl ifanc ydy Steddfodwyr y dyfodol, ond rhaid i ni beidio meddwi gormod ar bobol ifanc, oherwydd mae'r rhan fwya' o'r boblogaeth , 60% dros 50 oed yng Nghymru. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn trefnu gwyl sy'n apelio at ystod eang o bobol o bob cefndir ac oedran,
Cwestiwn : Sut ydych chi'n meddwl y bydd technoleg yn newid yr Eisteddfod yn y dyfodol?
ER: Mae technoleg eisoes wedi newid llawer iawn ar yr Eisteddfod, ac mae'r hyn sy'n digwydd yma rwan (y sgwrs hon) yn enghraifft o hynny.. hefyd wrth gwrs mae dyfodiad teledu digidol wedi galluogi pobl o bob rhan o Gymru sy'n methu a bod yma i fwynhau y Steddfod, heb s么n am y bobol o bob rhan o'r byd sydd yn gallu dilyn yr Eisteddfod diolch i we-ddarlledu. Mae technoleg yn cynnig llawer iawn o gyfleoedd ychwanegol i ni, a'r sialens ydy ein bod ni yn manteisio arnyn nhw.
Lisa : Ydy e'n wir y bydd yr Eisteddfod yn cael gwared ar lwyfan Maes B?
ER: Mae gan yr Eisteddfod broblemau ariannol ar hyn o bryd .. ac oni bai ein bod ni'n llwyddo i ddenu rhagor o incwm mi fydd yn rhaid ystyried a fedrwn ni gario ymlaen i gynnal yr holl weithgareddau yr ydyn ni'n wneud ar hyn o bryd. Yn bersonol, dw i'n gobeithio na fyddwn ni'n gorfod cwtogi dim, ac yn sicr tydw i ddim o blaid cael gwared ar Maes B.
Alun : Petai chi'n ifancach, fyddech chi yn aros ar Maes B?
ER: Byswn, yn BENDANT! Oherwydd dw i wedi aros ar faes pebyll yr Eisteddfod yn y gorffennol.
Janet : Beth yw cynlluniau'r Eisteddfod o ran y ddrama? Mae'r arlwy yn denau iawn eleni.
ER: Dw i'n synnu fod Janet yn meddwl fod yr arlwy yn denau eleni. Mae yna ddrama gomisiwn sydd yn 么l pobl sydd wedi ei gweld hi, yn ddrama gafaelgar iawn. Mae yna hefyd weithgareddau eraill yn y nosweithiau yn ogystal 芒 phob dydd ar y Maes. Wedi dweud hyn mae'n wir fod y ddrama Gymraeg wedi mynd trwy gyfnod annodd yn ddiweddar ond dw i'n ffyddiog y bydd sefydlu Cwmni Cenedlaethol a phenodiad Cefin Roberts fel Cyfarwyddwr yn mynd i wedd newid y sefyllfa mewn chydig o amser.
Janet : Yn dilyn o'r cwestiwn blaenorol ... beth yw dyfodol y ddrama gomisiwn?
ER: Dw i'n bendant o'r farn fod yna ddyfodol i'r ddrama gomisiwn, ond efallai y bydd gan y cwmni cenedlaethol fwy o r么l i chwarae yn y penderfyniad ynglyn 芒 r么l y ddrama gomisiwn bob blwyddyn.
Gareth : Oes na siawns y bydd y Steddfod yn mynd i Lerpwl ym mlwyddyn 2007?
ER: Na! Dim i Lerpwl, er ein bod ni'n hapus i gyd weithio efo cyngor Lerpwl i drefnu gweithgaredd yn y ddinas i gydnabod pwysigrwydd Lerpwl 芒 Gogledd Cymru yn ogystal 芒 Cymry a'r ddinas.
Gareth : Ai dim ond unwaith y flwyddyn fydd y pafiliwn newydd yn cael ei ddefnyddio?
ER: Unwaith y flwyddyn gan yr Eisteddfod, mae'n siwr y bydd De Boer y cwmni sy'n berchen y pafiliwn yn dymuno ei weld yn cael ei ddefnyddio mor aml 芒 phosib.
Gareth : Pam nad oes 'reception' i ff么ns symudol O2 ar y Maes?
ER: Oherwydd fod cwmni O2 wedi penderfynu peidio 芒 gwneud unrhyw beth i sicrhau reception, yn wahanol i Orange a Vodafone.
Cwestiwn : A ddylen ni feddwl am ddod a seremoni prif dramodydd yr Eisteddfod yn 么l?
ER: Mae'r cwestiwn yn cael ei ystyried o bryd i'w gilydd.. ac efallai y daw y seremoni yn 么l rhyw ddydd. Ond tydi drama ddim yn waith orffenedig hyd nes ei bod wedi cael ei llwyfannu, ac felly mi oedd yna lawer o bobol yn dadlau fod cynnal seremoni i wobrwyo gwaith anorffenedig yn llyffethair i'r gystadleuaeth.
Cwestiwn : Sut mae niferoedd ymwelwyr eleni i gymharu 芒 llynedd?
ER: Falch o ddweud eu bod nhw'n uwch.
Eleri : Sut allai'r Eisteddfod gymryd mantais o'r diwylliant, dylanwadau a diddordebau cymuned fel Riverside yng Nghaerdydd, a'u hymgorffori i mewn i weithgareddau'r Eisteddfod?
ER: Mae hon yn sialens yr ydyn ni eisoes yn ei wynebu yng Nghasnewydd lle cynhelir yr Eisteddfod y flwyddyn nesa'. Rydyn ni'n gobeithio y byddwn ni'n cydweithio gyda gwyl a gynhelir yng Nghasnewydd yn flynyddol, ac yn rhoi llwyfan i bobol o gefndiroedd ethnig i arddangos eu talentau y flwyddyn nesa'.
Cwestiwn : Beth am y rheol Gymraeg? Fydda i'n prynu fy mwyd trwy gyfrwng y Saesneg eleni eto?
ER: Dan ni'n trio gwella hyn bob un blwyddyn, ac er nad ydy hi'n berffaith mae'r sefyllfa yn well eleni, y broblem ydy nad oes yna ddigon o Gymry Cymraeg yn rhedeg cwmn茂au arlwyo a hefyd does dim digon o gwmn茂au Cymraeg yn fodlon dod i'r Eisteddfod i weithio i'r arlwywyr.
Ymunwch mewn sgwrs fyw gyda Gwenno, y gantores yma brynhawn ddydd Iau am 3 o'r gloch.
Ewch i ddarllen mwy am sgwrs Gwenno.