| |
Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4
Mae Hywel Gwynfryn yn cadw dyddiadur Eisteddfod ar gyfer 91热爆 Cymru'r Byd. Dyma'r ail ddetholiad - dydd Mercher.
Allan neithiwr i Bishop's Castle. Dim ond wyth milltir o Drefaldwyn, ond cannoedd o filltiroedd o Gymru. Adeiladau hynafol o oes Elizabeth rownd pob cornel. Dychmygu gweld Liz ei hun yn camu allan o un o'r tai ac yn gofyn, Sut hwyl mae'r Esgob William Morgan yn ei gael ar y cyfieithu, tua Llanrhaeadar ym Mochnant, 'na?
"Canmolwn ef am ei ddygnwch, ei ddewrder, a'i sancteiddrwydd Ac am ei gymorth i gadw'r genedl a'r iaith lenyddol yn fyw Gan roddi arni yr urddas ac iddi'r anrhydedd mwyaf Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd Datguddiad Duw."
Dyna ateb Gwenallt yn ei gerdd I'r Esgob sydd wedi ei chynnwys yng Ngherddi Powys.
Emyr Griffith oedd wedi fy ngwadd allan am y noson. Roedd o'n yn arfer gweithio i'r Bwrdd Croeso ond ers deuddeng mlynedd mae o'n byw yn Nhrefaldwyn ac yn rhedeg cwmni teithio a gwyliau, ac yn cyhoeddi cylchgrawn Welsh Rarebit sy'n llawn o wybodaeth am westai da yng Nghymru.
Ac os wyt ti'n darllen y geiriau yma Emyr-拢20, pl卯s, fel y gwnest ti addo am yr hysbys.
Cannoedd o angylion Mae Angela Jones o Lanerfyl, yn dipyn o Welsh Rarebit, er efallai ddim mor rare a hynny chwaith ar 么l meddwl.
Mae na gannoedd o Angelas o gwmpas y maes, yn rhoi o'u hamser yn rhad ac am ddim i sicrhau llwyddiant yr wyl.
Roedd Angela ar ddyletswydd bore ma yn y maes parcio, pan gyrhaeddais y cae am saith. "Glywish i Jonsi yn mynd drwy'i betha yn y siop yn Llanerfyl bore ddoe" oedd ei chyfarchiad. "Mi na i s么n amdanoch chi yn y dyddiadur Angela" medda fi. "Cofiwch neud," medda hi, efo gw锚n lydan ar ei hwyneb. Diolch Angela.
Ffoli ar denor Hwyl garw yn y bocs heddiw yng nghwmni'r Tenor Aled Hall. Roedd o'n cadw cwmni i Rhiannon a minna yn ystod yr unawdau operatig.
Mae o'n ddireidus ac yn dynnwr coes heb ei ail. Tae o'n byw yn Lloegr yng nghyfnod Harri'r wythfed, fo heb os fyddai'r Ffwl yn y llys.
Ac fe allai ddysgu'r brenin sut i ganu Greensleeves, mewn tiwn.
Wyddo chi, gyda llaw, beth ydi tarddiad teitl y g芒n? Wel, sdim rhyfedd fod y brenin yn canu "Greensleeves is my delight" oherwydd roedd puteiniaid yng nghyfnod Harri yn gwisgo darn o frethyn gwyrdd a'r eu llewys i ddynodi mai merched y nos oeddan nhw. A dyna ddiwedd y ddarlith hanesyddol.
Neges i'r merchenogi Ond fe gafwyd darlith hanesyddol wych heddiw, yn rhan o araith llywydd y dydd Yr Athro Sioned Davies. Fe gyfeiriodd at Freuddwyd Rhonabwy - gan ei bod hi'n awdurdod ar chwedlau'r Mabinogi.
Ac roedd ganddi neges i bob mab a merchinogi oedd yn gwrando - peidiwch a breuddwydio yn yr Eisteddfod am neud petha mawr, ewch adra o'r Steddfod a gwnewch bethau bychain yn eich ardaloedd.
Hambygio Ond diwrnod Gwich yn Gwichian oedd hi heddiw.
Dyna ffugenw Cefin Roberts a fo enillodd y fedal lenyddiaeth .
Arwr y stori ydi mochyn ond welais i ddim y pennawd "Cefin brings home the bacon" hyd yn hyn!
Mae 'na son fod S4C yn mynd i droi'r stori yn ffilm .
Fydd hi ddim yn anodd ffeindio rhywun i chwarae prif ran y mochyn, rhyw Babe Cymreig, wedi'r cwbwl, mae na ddigon o hen Hams yng Nghymru.
|
|
|
|