| |
Enwogion Bro'r Eisteddfod
Mae bro'r Eisteddfod eleni yn un gyfoethog ei phobol yn ogystal 芒'i thraddodiadau. Dyma rai o'i henwogion gan gychwyn gyda'r pennaf o'n harwyr cenedlaethol, Owain Glyndwr. Ac mae cyfle i chwithau ychwanegu at y rhestr
Owain Glyndwr arwr cenedlaethol enwocaf Cymru. Bydd darlith amdano gan Rees Davies yn y Babell L锚n am 11.00 ddydd Llun yr Eisteddfod, Owain Glyndwr, Gwr y Gororau. Mae ei gartref Sycharth ger Llansilin yn agos i faes yr Eisteddfod.
Melangell y santes a achubodd yr ysgyfarnog rhag Brochfael Ysgithrog. Cysegrwyd eglwys Llanfihangel y pennant iddi. Hi yw testun sioe blant yr Eisteddfod yn y pafiliwn nos Sadwrn, Awst 2.
Iorwerth Cyfeiliog Peate Brodor o Bandy Rhiwsaeson ym mhlwyf Llanbryn-mair a ddaeth yn fardd ac ysgolhaig amlwg gan ennill ei enwogrwydd pennaf fel y gwr a greodd yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Bydd cyflwyniad amdano yn y Pagoda brynhawn Iau am 2.00.
Ann Griffiths emynyddes a anwyd ar fferm Dolwar Fach yn Llanfihangel-yng-ngwynfa sy'n agos iawn at faes yr Eisteddfod. Y mae ymhlith y fwyaf blaenllaw o holl emynwyr Cymru yn arbennig ar sail dwyster arbennig ei phrofiad ysbrydol. Cyn ei thr枚edigaeth grefyddol yr oedd yn cael ei hystyried yn benchwiban oherwydd ei hoffter o fwynhad cymdeithasol a dawnsio yn arbennig.
Edward Lhuyd gwyddonydd, naturiaethwr a ieithydd a anwyd yn 1660 yn fab siawns i Edward Lloyd, Llanforda ger Croesoswallt. Fe'i haddysgwyd yng Nghroesoswallt a Choleg Iesu, Rhydychen. Yn fachgen yn Llanforda lluniodd lyfr nodiadau o'r blodau a welai. Awdur Archaeologia Britannica. Bydd darlith amdano gan Goronwy Wynne yn y Babell L锚n am 11.00 ddydd Mawrth.
Gwyn Erfyl darlledwr, bardd, athronydd a gweinidog a anwyd yn Llanerfyl. Daeth i amlygrwydd fel holwr teledu praff a chyflwynydd rhaglenni nodwedd. Bu'n olygydd Barn R. Alun Evans Llywydd llys yr Eisteddfod Genedlaethol. Brodor o Gwm Nant yr Eira. Cyn bennaeth y 91热爆 yng ngogledd Cymru ac awdur cyfrol am ragflaenydd iddo yn y swydd, Sam Jones.
Sian James cantores boblogaidd ac actores o Lanerfyl. Ei CD ddiweddaraf ydi Pur sy'n arddangos ei doniau nid yn unig fel cantores ond fel telynores. Ei llais hi sydd i'w glywed ar sg么r y ffilm The Englishman who went up a hill and came down a mountain. Bydd yn canu yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.Nerys Jones: soprano o Lanfair Caereinion a fydd yn perfformio gyda Ch么r yr Eisteddfod yn y pafiliwn nos Wener, Awst 8.
Plethyn grwp gwerin a ffurfiwyd yn 1974 ac a ail-ffurfiodd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod hon ar 么l chwalu yn 1999. Magwyd Roy a Linda ar fferm Penybryn, Meifod, a'r aelod arall, Jac, ar fferm Rhosfawr gerllaw. Maent wedi cyhoeddi wyth CD/cas茅t ac fel cantores unigol mae Linda wedi cyhoeddi tair CD. Byddant yn canu yn y cyngerdd agoriadol nos Wener.
Nansi Richards Telynores Maldwyn. Un o delynorion mwyaf lliwgar Cymru. Awdur Cwpwrdd Nansi. Sefydlwyd ysgoloriaeth er cof amdani. Bydd teyrnged iddi gan ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanfyllin yn y Babell L锚n am 2.00 dydd Sul, Awst 3.
Frances M么n Jones telynores o fri. Bydd disgyblion Ysgol Uwchradd Caereinion yn talu teyrnged iddi yn y Babell L锚n 1.00 ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod.
Ieuan Jones telynor a mab fferm Mathrafal lle cynhelir yr Eisteddfod. Astudiodd wrth draed Marisa Robles yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle yr enillodd yr holl brif wobrau gan gynnwys un myfyriwr disgleiriaf y flwyddyn. Am 13 mlynedd bu'n delynor Ty'r Cyffredin ac mae'n awr yn Athro'r Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Mae ei CD newydd yn cynnwys Concerto D'Aranjuez gan Rodrigo a fydd yn ei berfformio yn y pafiliwn nos Sul wedi ei drawsffurfio ar gyfer y delyn gan Ncanor Zabaleta.
Emrys Roberts prifardd a anwyd yn Lerpwl ond sydd wedi hen gartrefu ym Maldwyn lle bu'n athro. Enillodd Gadair y Genedlaethol yn 1971 a bu'n archdderwydd rhwng 1987 a 1990. Cyhoeddodd nifer o lyfrau gan gynnwys straeon antur a barddoniaeth i blant. Bydd rhaglen i'w gyfarch yn y Babell L锚n am 2.00 ddydd Llun yr Eisteddfod
|
|
|
|