| |
Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2
Mae Hywel Gwynfryn yn cadw dyddiadur Eisteddfod ar gyfer 91热爆 Cymru'r Byd. Dyma'r ail ddetholiad - dydd Llun
Ar y maes jyst mewn pryd i beidio a gweld Ioan Gruffydd yn gadael i fynd am y Meini i gael ei urddo i'r wisg wen. . Suddodd fy nghalon, megis y Titanic gynt, pan glywais fod Nia Lloyd Jones i'w holi ar y rhaglen yn nes ymlaen. . Weithiau mae bywyd yn rhy gormod fel dudodd cynyrch un o'n hysgolion Cymraeg ni. . . Ar 么l meddwl - ella mai'r mab oedd o!
Cofio gweld cartwn nath i mi wennu. Pen blaen y Titanic wedi taro letusen yn y m么r a'r capten yn gweiddi Damn, We've struck an Iceberg! Dowch draw i le'r 91热爆 ar y maes os da chi angen esboniad.
Meddwl yn dda. Yn y Gell Boeth yn y Pafiliwn drwy'r bore. Teimlo fel Alec Guiness yn y ffilm Bridge on the River Kwai, pan gafodd ei gosbi a'i luchio i gell debyg. Ond o leia roedd Rhiannon Lewis yn gwmni i mi.
A chwmni difyr ydi hi hefyd. Mae hi'n llwyddo i roi gw锚n ar fy wyneb i drwy ddeud petha heb feddwl. .
Wyddoch chi be, Hywel, roedd y nodyn ola na yn F uchel . .Finna'n meddwl yn dawel, ond heb agor fy meic Mmm. Mi oedd o'n swnio'n Finguchel i finna hefyd. .
Pleserau'r funud Owain Gwilym yn crwydro'r maes ac yn siarad efo hwn ar llall. Bu bron i mi a thagu pan glywais o'n dweud Dwi yn y babell yma yn cael massage llaw A dim ond chwarter i unarddeg oedd hi. .
Patagonaidd Cyfarfod Gwyn a Monica, Geraldine Macsen a Morgan. Cymro ydi Gwyn, ond fe syrthiodd mewn cariad efo Monica, a anwyd yn y Wladfa. . . Mae hi'n siarad Cymraeg yn berffaith efo acen Sbaenaidd felfedaidd ddeniadol ac erbyn hyn maen nhw'n byw draw yma yn y Gogledd, oherwydd fod petha'n dal yn ddrwg yn economaidd yn Ariannin. . . Cefais y plser o aros efo'r teulu yn eu gwesty pan es i draw efo Rhisiart Arwel i ddarlledu eu heisteddfod yn fyw ar Radio Cymru.
Gyda llaw, enw fy nhadcu o Gydweli oedd Dai Patagonia.
Fe aeth o allan yno ar yr ail long. Y rheswm nad aeth o ar y Mimosa oedd i fod o wedi clywed fod Idris Charles yn cynnal cabare arni hi.
Cael cwmni y Prifardd Jim Jones, Parc Nest yn y pafiliwn ar gyfer seremoni'r coroni, a chael y pleser o weld Mereid Hopwood, y ferch gynta i ennill y gadair, yn cael ei choroni. . Hapus Hopwood Bydd yn rhaid i rywun gyfansoddi ail g芒n y coroni, sy'n addas i gyfarch merch. Dan ei glog tywysog teg meddai'r g芒n. Naci wir tywysoges. Werin hoff, coroni hwn Naci wir, meddaf eilwaith Coroni hon. Beth bynnag Hapus yw Mrs Hopwood, a ninna hefyd o glywed fod y gerdd yn un y gellwch ei darllen a'i deall.
Nol i'r gwesty. Fe allai hi fod yn noson fawr. Mae Rhisiart Arwel yn aros yno ond dwi'n deall i fod o wedi dwad a'i gitar efo fo, felly ella mai noson gynnar fydd hi!!!
|
|
|
|