| |
Enwau lleoedd diddorol
Rhai enwau lleoedd diddorol a'u hystyron.
gan Richard Morgan wedi ei addasu gan Dai Hawkins.
Aberriw - Aber Afon rhiw
Yr Ardd-lin - Fe'i gwelir fel Arddleen ar arwyddion ffyrdd. Arferid tyfu llin yn nyffryn Hafren. Felly, Yr ardd lle'r oedd llin yn cael ei dyfu.
Afon Banw - Ystyr banw ydi mochyn neu porchell mae Richard Morgan yn awgrymu yn ei lyfr i'r afon gael ei henwi oherwydd y ffordd y mae'n twrio.
Blowty - cyfuniad o blawd a ty. Ty nithio.
Bryn amlwg - un hawdd i bawb. Bryn uchel rhwng Carno a Llanbryn-mair.
Bwlchycibau - Bwlch a cibau yn lluosog cib yn golygu llestr, caweg, cwpan neu luosog cibyn yn golygu plisgyn croen. "Gallai gyfeirio at y tirwedd lleol gan ddynodi 'pantiau' neu, efallai, ansawdd coediog y bwlch."
Caersws - Caer a'r enw personol Swyswen neu Swsan. Bu caer Rufeinig yma.
Clatter - Tollborth yn cloncian neu efallai ddwr garw calet-ddwr.
Dolannog - ardal o ddolydd bychain o bosib.
Y Drenewydd - o Newtown a ddisodlodd Llanfair-yng-Nghedewain.
Ffordyn - o'r geiriau Saesneg Ford a tun.
Garthmyl - cyfuniad o garth yn golygu cefn a'r gair Saesneg mill o bosib.
Machynlleth - ma yn golygu maes neu wastadedd a'r enw personol Cynllaith.
Manafon - ma eto a'r enw personol Anafon.
Meifod - cyfuniad o mei yn golygu canol a bod, cartref. Un esboniad arall yw ei fod yn cynnwys enw'r mis, Mai, ac mai cartref y byddai pobl yn symud iddo ym Mai ydoedd yn nhraddodiad yr hafod
Mochnant - ystyr moch yn y cyd-destun hwn ydi buan neu gyflym. Nant yn ffrydio'n gryf felly.
Pennant Melangell - pennant yn golygu pen uchaf cwm a'r enw personol, Melangell, y santes a achubodd ysgyfarnog.
Pen-y-bont-fawr - lleoliad pen pont fawr dros Afon Tanad.
Pontrobert - ar 么l rhyw Robert ap Oliver a gododd bont gerrig yn 1669 yn lle un a gafodd ei golchi i ffwrdd mewn storm.
Powys - o'r Lladin Pagus yn golygu gwerin neu bobl y wlad.
Trallwng - Pwll budr, man corsiog. O hyn y cafwyd y pool Saesneg yr ychwanegwyd y gair Welsh ato rhag cymysgu a Poole yn Dorset. Ymddangosai fel Le Pool ar un adeg.
|
|
|
|