| |
Prysurdeb trefnydd
Holi Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Gogledd.
A: Faint o amser gymerodd o i drefnu'r Steddfod ym Meifod? A: Fe wnaethom ni ddechrau chwilio am faes yn 1995. Y syniad gwreiddiol oedd dychwelyd i Fachynlleth lle'r oedd yr Eisteddfod yn 1981. Yna, cynigiodd rywun Fferm Mathrafal ym Meifod ac ar 么l cerdded y caeau daethom i ddealltwriaeth gyda'r diweddar David Jones a'i briod, Beryl. Cafodd Meifod s锚l bendith mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llanfair Caereinion fis Mai 1997 ac agorwyd swyddfeydd yn Y Trallwng fis Hydref 2001.
A: Faint mae'n ei gostio i gynnal yr Eisteddfod? A: Ar gyfartaledd, mae'r gost tua 拢2.5m gyda rhyw 10% yn cael ei godi'n lleol. Y nod yma oedd 拢210,000 ac y mae 拢220,000 wedi ei godi.
Yn ogystal 芒 phwyllgorau ap锚l ym Maldwyn fe fu yna bwyllgorau dros y ffin yng Nghroesoswallt, Amwythig, Wolverhampton, Coventry, Newcastle under Lyne a Stoke on Trent hefyd.
Mae Meifod yn un o'r lleoedd agosaf ar gyfer Cymry sy'n byw yn Lloegr.
A: Faint o bobl fu'n trefnu? A: Rhwng swyddogion yr Eisteddfod a phobl leol rhyw 500 o bobl. Bu trigolion Maldwyn yn wych ac wedi ymfalch茂o yn y ffaith fod yr Eisteddfod yn ymweld 芒'u hardal.
Dyma'r tro cyntaf iddi fod yn y cylch er 1965 pan gafodd ei chynnal yn Y Drenewydd.
A: Faint o brysurdeb fuo yna? A: Bu'n wyllt iawn y misoedd diwethaf. Allai'r postman ddim credo faint o lythyrau oeddem ni'n eu derbyn!
Mae mwy wedi cystadlu eleni nag erioed o'r blaen gydag o gwmpas 700 o ymgeision ysgrifenedig - bron i 200 yn fwy na'r record a dorrwyd yn Ninbych yn 2001.
Mae 45 wedi cystadlu am y goron a naw am y Gadair.
Mae yna nifer fawr o gystadleuwyr llwyfan hefyd.
A: Pam yr holl ddiddordeb ym Meifod? A: Mae'n anodd dweud ond mae Meifod yn lle hawdd ei gyrraedd o bob rhan o Gymru dim ond ychydig dros awr o Gaernarfon ac Aberystwyth a rhyw ddwyawr a hanner o Gaerdydd. Mae'n lle sy'n gyfleus i bawb.
|
|
|
|