| |
Yr arddangosfa Gelf a Chrefft
Ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod, Jon Gower, gohebydd y celfyddydau, 91热爆 Cymru, yn rhoi ei ymateb i rai o weithiau celf a chrefft yr Eisteddfod
Wrth edrych ar lle rwyf yn ei adnabod yn dda y gwaith gan Tim Davies a enillodd y Fedal Aur Mewn Celfyddyd Gain ynghyd a 拢5,000 mae dyn yn gweld cyfresi o weithiau twt a destlus.
Ar un wal mae yna gyfres o ddelweddau o gestyll Cymru mewn niwl o olau glas.
Maer bardd lleol, Cyril Jones, wedi ceisio crisialu effaith y gwaith mewn cerdd newydd: llen ddulas dros gastell rhith o ffurf dieithr a phell dan wawd, fel ffawd cnaf ar ffo o olwg heddiwn cilio lwyr ei din iw slawer dydd yn 么l i lyoi gwilydd
Rhan arall or gwaith yw cardiau post wedi eu torri, gan ddileur Ladi Gymreig o bob un gan awgrymu colled tran gofyn ar yr un pryd beth yw gwerth yr un sydd ar goll.
Mi roedd yr arlunydd yn falch iawn o ennill ac yn y'i gweld hin bwysig iw yrfa - er ei fod yn gwobrwyor gwaith penodol hwn rwyn gobeithio ei fod yn rhyw fath o gydnabyddiaeth or gwaith dwi wedi wneud dros y blynyddoedd.
Gemwaith Arian a diemwntau yw deunyddiau Mari Thomas o Lanelli sydd wedi creu cyfres o emweithiau dan y teitl Strata.
Ar un olwg mae nhwn weithiau syml a chlir ond mae na bethau wedi eu cuddio cymhlethdodau syn cael eu datgelu wrth edrych yn fanylach.
Maer broses o gynllunio yn gorfod cymryd i ystyriaeth y ffordd maer corff yn symud ac maen rhaid ir gwaith fod y gyfforddus meddair artist. Dylair gwaith gael ei weld ar fodel yn ddelfrydol a phe byddai modd i mi gael Catherine Zeta Jones i wisgor gwaith mi fyddai hynnyn gr锚t!
Gwobr newydd Mi roedd na un wobr newydd ar gyfer celf eleni, gwobr Ivor Davies. Pan enillodd yr artist o Benarth y Fedal Aur y llynedd rhoddodd yr arian yn 么l irSteddfd er mwyn cyflwyno gwobr o 拢600 bob blwyddyn dros gyfnod o bum mlynedd i rywun syn cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru.
Yr roedd Ivor yn synnu gweld cymaint o luniau yma oedd yn gwneud hynny. Sylweddolais i mai pethau cuddiedig yn yr isymwybod syn cadwr ysbryd yn fyw yn rhai or gweithiau yma.
Rhoddodd y wobr ir artist ifanc Carwyn Evans, o Geredigion ond syn byw bellach yng Nghaerdydd am ei waith Unlliw pentyrrau o flychau adar bychain wedi ei gwneud o gardbord a phob un yn cynrychioli ty sydd iw hadeiladu yn y sir yn 么l y cynlluniau diweddara.
|
|
|
|