"Steddfod yn Stuffy"
Mae Gwenno Saunders am greu trwbl meddai. Mae'r "Steddfod yn stuffy" a "mas o gysylltiad gyda phobl ifanc". Darllenwch ei sgwrs ar lein ar 91热爆 Cymru'r Byd ddydd Iau, yn llawn...
Cymru'r Byd : Helo a chroeso i'r sgwrs ar lein heddiw, gyda Gwenno.
Y Gymraeg a'r Gernyweg
David Williams : Mae diddordeb gennyf yn y cysylltiadau rhwng y Gymraeg a Chernyweg. Ych chi'n rhugl yn y ddwy iaith, a sut gawsoch chi afael ar y Gernyweg?
Gwenno : Iaith gynta' fi yw Cernyweg achos mae dad yn siarad Cernyweg gyda fi. Bardd Cernyweg yw e, yn rhan o'r adfywiad yn y 1970au. Mae dad wastad wedi siarad Cernyweg gyda fi .. dw i erioed wedi siarad unrhyw beth arall gyda fe.
Glen Batchelor : Hoffwn i wybod a ydi bod yn rhugl yn y Gymraeg yn help o gwbwl wrth ddysgu'r iaith Gernyweg?
Gwenno : Mae'n anodd achos bo fi wastad wedi siarad y ddwy iaith, ond mae'r ddwy iaith yn debyg iawn. Mae'r seiniau yn debyg, felly byse gwybod un iaith yn help i ddysgu'r llall.
Lisa Williams: Faint o bobl sy'n siarad y Gernyweg yng Nghernyw?
Gwenno : Literally, fi wir yn meddwl mai cwpwl o gannoedd sy'n siarad e o ddydd i ddydd. Mae miloedd yn lled wybod e yng Nghernyw ond bach iawn sy'n ei siarad yn rhugl.
Eleri : Pam wnest ti feddwl am ganu yn y Gernyweg?
Gwenno : Achos, y g芒n ar yr EP newydd Vodya .. cerdd Gernyweg yw hi y mae dad wedi sgwennu. Mae dad wedi bod yn cyhoeddi barddoniaeth Gernyweg ers blynydde, felly os o'n i'n mynd i ganu yn y Gymraeg o'n i'n mynd i ganu yn y Gernyweg hefyd, achos mae'r ddwy iaith yr un mor bwysig i fi.
Martin : Ym mha iaith wyt ti'n fwynhau canu fwya'? Cymraeg, Cernyweg neu Saesneg?
Gwenno : : Hmm ... mae'n agwedd i wedi newid lot ers i fi ddechrau canu. O'n i'n eitha dismissive o bethau yn Gymraeg ond ers i fi ddechrau canu yn y Gymraeg, fi wedi gweld pwysigrwydd neud e, yn enwedig yn y Gernyweg .. achos does neb lot yn canu yn y Gernyweg. Pan fi'n sgwennu caneuon ar ben fy hunan, yna fi'n neud yn Saesneg, ond os rwy'n cyd-sgwennu, yna neud e'n Gymraeg a Chernyweg .. dim ond os oes rhywbeth gwerth ei ddweud wnaf i wneud e yn Saesneg.
Annes : Weles i dy fideo yn Top Shop Bangor. Oedd o'n sioc i weld dy fideo yno?
Gwenno : Fi ffonoidd Top Shop lan a dweud bod da fi fideo amazing o'dd rhaid iddyn nhw chwarae. O'n i ddim wedi gweld hi yno o gwbwl achos does dim sgrin yn Top Shop Gaerdydd.
Bethan : Pam nes ti benderfynu droi at ganu?
Gwenno : Rheswm penodol achos o'n i moyn dweud rhywbeth .. dw i'n dod o gefndir eitha gwleidyddol, mae mam mewn c么r sy' yn canu dros achosion gwahanol ers blynydde', C么r Cochion, felly dyna pam. Dyna'r cefndir sydd gen i ac mae wedi bod yn ddylanwad mawr arna i. Hefyd o'n i yn Lord of the Dance ac o'n i'n methu dweud unrhyw beth ...odd e wir yn frustrating.
Rhian : Beth wyt ti wedi mwynhau mwyaf ar hyd dy yrfa (actio, canu, dawnsio etc)?
Gwenno : Canu ..definitely achos rwyn cael rhyddid creadigol gyda cherddoriaeth.
Lowri : Beth yw dy gynlluniau am y dyfodol?
Gwenno : Peth mwya' pwysig yw , dynai gyd fi eisiau neud yw i sgwennu caneuon gwell. Sdim rheolaeth gyda fi dros y ffaith os mae pobl yn mynd i licio beth dw i'n neud neu beidio. Canolbwyntio ar wella fy ngrefft yn fwy nag unrhyw beth arall.
Lisa : Pa gyngor fyddech chi'n rhoi i rhywun sydd am ddechrau gyrfa canu neu actio?
Gwenno : Fi'n meddwl mai y peth pwysica' yw gwybod beth yn gwmws wyt ti, achos mae'n rhwydd cael dy ddylanwadu i fod yn rhywbeth gwahanol. Y peth pwysica' yw bo ti yn mwynhau beth wyt ti yn neud, achos does neb arall yn mynd i fwynhau e os nad wyt ti'n ei fwynhau e.
Gethin : Rwyt ti wedi gwneud llawer o bethau mewn ychydig o amser - dawnsio, modelu, actio, canu a cymryd gorchmynion wrth robot. Oes yna rhywbeth na fyddet ti yn fodlon gwneud?
Gwenno : Mae lot o bethe bysen i ddim yn fodlon neud actually! Peth pwysica yw bo fi'n cael profiad a mwynhau beth fi'n neud.. os na fydden i'n mwynhau bysen i ddim yn neud e.
Eleri : A oedd rhywbeth neu rywun penodol wedi dy ysbrydoli i ganu a pherfformio?
Gwenno : Hmm ... Freddy Mercury a Pink Floyd.
Angharad : Er mai canu sydd agosa' at dy galon, hoffet ti wneud mwy o gyflwyno, ar wahanol mathau o raglenni?
Gwenno : Na. Fi'n meddwl gyda unrhyw beth, os ti yn mynd i gyflwyno .. ddylet ti roi 100% mewn iddo fe .. bysen i ddim yn chaso jobsus cyflwyno.
Eleri : Rwyt ti'n s么n am y tlodi yn ardal Riverside yng Nghaerdydd, lle magwyd ti - sut brofiad oedd hi i dyfu i fyny mewn ardal "multicultural" ac ydi'r fagwraeth wedi dylanwadu ar dy ffordd o fyw?
Gwenno : Mae wedi dylanwadu yn fawr ar y ffordd fi'n byw.. roedd lot o fwslemiaid a phobl wyn .. wedi rhoi persbectif wahanol i fi o beth sy'n digwydd yn y byd ar hyn o bryd .. mae'n hala ti yn fwy tolerant a ti'n gallu deall pobl eraill hefyd a does dim ofn da ti.
Eleri : Faint o dy ffrindiau yn Riverside sy'n cymryd diddordeb, neu yn ymwybodol o'r "pethe" fel yr Eisteddfod Genedlaethol?
Gwenno : Dim un ohonyn nhw. Sai wedi byw yno ers o'n i'n dair ar ddeg, so sai wir mewn cysylltiad da nhw.
Profiad Fame Academy
Elin : Dw i'n siwr fy mod wedi dy weld ar y teledu ar Fame Academy. Pa mor bell es ti yn y clyweliadau?
Gwenno : Odd Polydor wedi gofyn i fi neud e heb weud wrtho fi mai Fame Academy oedd e. O'n nhw eisiau i fi fod yn y ty, ac o'n i ddim. Fi jyst yn teimlo fi wedi bod yng Nghymru a gweithio'n galed, a wedyn fi ddim moyn gadel rhywun arall i reoli fi .. fi'n gallu neud e fy hunan.. mae Fame Academy yn crap anyway, it's embarrassing !
Elin : Gyda pwy fyddi di yn canu yn yr Eden Project?
Gwenno : Afro Celts a lot o bethau gwahanol. Fi wir yn edrych ymlaen i fynd lawr i Gernyw. Set Gernyweg, Cymraeg a bach o Saesneg hefyd fydd gyda fi.
Elin : Oeddet ti wedi mwynhau dy r么l yn Pobol y Cwm?
Gwenno : O'dd en olreit.
Martin : Sut brofiad oedd teithio gyda "The Lord of the Dance"?
Gwenno : Anhygoel.. ma fe fel darllen y manual a mynd mas i neud e fy hunan.
Gambo Roberts : Lle di'r gig gwaethaf i ti rioed chwarae, ar gorau?
Gwenno Y gig gwaetha' ...ymm.. S4C Aberteifi achos oedd neb yno, a'r gig gorau oedd supporto Reef gyda'r band .
Tim : Beth yw dy brif ddylanwadau cerddorol?
Gwenno Siwr o fod byswn i'n dweud, cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth Geltaidd.. o'n i ddim yn ymwybodol o'r byd pop Saesneg pan o'n i'n tyfu lan.. d'on i ddim yn gwybod pwy oedd y Beatles tan o'n i'n 14 oed.
"Steddfod yn Stuffy."
Pa : Beth wyt tin feddwl o'r Steddfod?
Gwenno : Fi'n meddwl bod y Steddfod mas o gysylltiad da pobol ifanc. Mae'r syniad yn un da, ond mae e'n gadael lot fawr o'r Cymry mas sydd yn siom achos mae dyfodol yr iaith mewn pethau fel hyn. Fi'n meddwl bod angen newid agwedd pobl syn rhedeg y peth - nhw yw'r unig bobol sy'n mynd i allu newid unrhyw beth.. dyw e ddim yn gynrychioladol o Gymry Cymraeg a rhai di-Gymraeg. Mae'n rhy ddrud, mae pobl sydd yn byw yn yr ardal yma ddim yn gallu fforddio dod siwr o fod. Mae'r gwir Gymry ddim yn cael y cyfle i neud dim byd 芒 fe.
Pa : Fues di'n cystadlu pan oeddet ti'n iau?
Gwenno : Ers o'n i'n 5 oed. Dw i wedi bod yn cystadlu mewn cystadleuthau o gwmpas Prydain.
Mari : Pryd wyt ti yn rhyddhau dy albwm?
Gwenno : Mae EP yn dod mas da fi fis nesa', gyda ch芒n Gernyweg fi wedi neud gyda Llwybr Llaethog, a lot o dracs. Dyna'r peth cynta' ni mynd i fod yn neud.. fi dal yn teimlo bo fi yn datblygu beth fi'n neud a fi'n gweithio at greu albwm.. mae'n broses.
Martin : Am beth mae dy g芒n "Raindrops"?
Gwenno : Mae'r g芒n Raindrops ambiti ysgariad fy rhieni. Jyst ti'n gwybod bod e am y gorau ond mae e dal yn drist.
Gareth : Beth yw dy hoff fand?
Gwenno : Ar hyn o bryd The Darkness ma nhw yn amazing.
Pa : Wyt ti'n hoffi canu ar dy ben dy hun neu oes well gen ti weithio gyda grwpiau eraill?
Gwenno : achos bo fi yn canu ar ben fy hunan, fi'n hoffi cyd-weithio, yn enwedig pan mae'n naturiol gyda'r Llwybr Llaethog. Ti wir yn dod lan da rhywbeth da a ti'n dysgu cymaint wrth gyd-weithio. Rwy'n mwynhau'r ddau.
Gambo Roberts : Os fase ti'n cael dy urddo i'r wisg werdd, fase ti'n derbyn?
Gwenno : Dyw e ddim yn unrhyw beth fi'n gallu uniaethu gyda. Dyw e ddim yn golygu dim i fi .. so na.. mae'n drist achos that's the point, dyw e ddim yn golygu dim i rywun fel fi.
Pa : Pwy fyddet ti'n hoffi gweithio gyda nhw? Rhywun sy'n fyw neu farw?
Gwenno : Ymm ... cwestiwn anodd. Aphex Twin achos mae e'n dod o Gernyw .. mae e wir yn anhygoel. Mae'n neud dancy stuff, wir yn genius.
Pa : Wyt ti'n cyfansoddi dy holl ganeuon i gyd?
Gwenno : Ydw... yn enwedig nawr fi wedi bod yn cyd-sgwennu fy EP gynta' i. Ond fi wedi dechre sgwennu yn gyfan gwbl ar ben fy hun, sydd wedi bod wir yn satisfying Mae e i gyd i wneud 芒 ennill hyder.
Gareth : Pwy oeddet ti eisiau ennill Big Brother?
Gwenno : Dim diddordeb. Mae Big Brother yn crap. Mae jyst bach yn hen het .. o'n i wir yn mwynhau e y flwyddyn diwetha', ond nawr mae e jyst mor formulaic.
Pa : Pwy yw'r gorau Britney neu Christina Aguilera?
Gwenno : Britney all the way! Mae Britney Spears yn lysh, fi'n meddwl mae jyst yn berfformwraig anhygoel.
Pa : Wham neu Duran Duran?!
Gwenno : Don't care! Fi yn rhy ifanc!!
Dylan : Ydych chi am weld bach o booze ar y maes?
Gwenno : Byse fe yn ddiddorol, ac yn ymlacio bach. Mae'r Steddfod mor stuffy .. mae pawb, yn enwedig pobl hyn yn rhy barchus.
Si芒n : Beth yw dy obeithio am y dyfodol?
Gwenno : Fi jyst eisiau achosi trafferth gymaint a fi'n gallu .. o'n i fel na yn yr ysgol, yn cwestiynur system. Dyna sut ydw i ar fy ngorau really!
Pa : Wyt ti'n perfformio yr wythnos yma?
Gwenno : Ydw .. Maes B nos fory (nos Wener) am 10.30 ..pl卯s dewch!
Pa : Pwy arall sydd yn Maes B fory(nos Wener) ?
Gwenno Zabrinski, Jakakoyak.
Pa : Wy ti wedi mwynhau gwneud sgwrs ar y we?
Gwenno : Ydw y tro cynta' i fi neud e .. mae e wedi bod yn cool.
Si芒n : Oes da ti wefan?
Gwenno : Ymm.. mae angen i fi setio un lan.. fe fydd un gyda fi cyn diwedd y flwyddyn.
Si芒n : Oes gyda ti sboner?
Gwenno : Oes, mae gen i sboner, maen lysh.
Pa : Fyddet ti'n hoffi gwneud mwy o waith actio?
Gwenno : Bysen. Licen i os bydden i'n cael y cyfle i neud cymeriadau mwy diddorol na beth fi wedi neud hyd yn hyn.
Si芒n : Lle yw dy le gorau di yng Nghymru?
Gwenno : Gosh, ymm... sai'n gwybod. Caerdydd siwr o fod achos bo fi'n byw yna. Fi'n trafeili lot gyda gwaith, mae Cymru mor bert a mae'n neis i weld mwy ohoni.
Si芒n : ble ti di bod i gyd?
Gwenno : Vegas, Awstralias, Ewrop, Dwyrain Ewrop a dros Prydain i gyd a lawr yng Nghernyw.
Pa :Oes gen ti agent?
Gwenno : Bydd agent gyda fi.Pa : Beth oeddet ti'n feddwl o Vegas?
Gwenno : Golles i fy mhen yn Vegas .. profiad oedd e'n anodd dod o Gymru i'r anialwch, does dim diwylliant yno.. sdim byd yna, hollol soleless, ond mae'n brofiad though.
Si芒n : Wyt ti'n hoffi mynd mas i dafarndai etc?
Gwenno : Fi'n hoffi mynd gormod! Fi yn mwynhau cymdeithasu!