| |
Syched am wybodaeth yn Sycharth
Mae olion un o hen gartrefi enwocaf Cymru o fewn tafliad carreg i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.
Ond er cymaint o enwogrwydd sydd i Sycharth ychydig iawn ohonom allai ddod o hyd i safle llys enwog Owain Glyndwr yn hawdd.
Ac o ddod o hyd i'r fan - a ganmolwyd mor llaes gan hen feirdd yr uchelwyr - ar ochr y B4580 o Lansilin i Lanrhaeadr ym Mochnant ychydig sydd yna i'w weld ar wah芒n i dwr o goed ar godiad tir a chwpwl o byllau llonydd islaw.
Ond i lygaid craffach mae gan Sycharth yn 'dweud' llawer mwy.Ac un sydd wedi treulio oriau'n archwilio'r safle ydi archeolegydd o'r enw Spencer Smith.
Mae cael eich tywys o gwmpas y safle yn ei gwmni ef yn daith i'r gorffennol wrth iddo ddehongli cyfrinachau ffurf y tir a chanlyniadau archwiliadau geoffisegol y mae wedi eu cynnal yno.
Yn 么l Spencer Smith yr oedd y codiad tir lle safai'r llys ei hun yn gnewyllyn pentref prysur gyda'i lys, ei efail, ei felin a'i lynnoedd magu pysgod.Safai llys cyfraith lle mae adeiladau fferm Bryn Derw heddiw gyda rhai o'r troseddwyr euog yn cael eu cludo i'w crogi ar lechwedd gyferbyn - sy'n cael ei nodi fel 'golfa' ar rai mapiau.
Tra bo archwilwyr eraill wedi canolbwyntio ar y bryncyn ei hun mae diddordeb Spencer Smith wedi cyfeirio ei archwiliadau tuag at yr hyn sydd ynghudd dan wyneb y tir o gwmpas y bryn.
Mae o'n barod wedi cynnal archwiliadau geoffisegol sydd wedi esgor ar lawer o wybodaeth ddifyr a phwysig.
Does yna ddim llawer o bwrpas cynnal mwy o archwiliadau ar y domen ei hun gan ein bod yn gwybod yn barod beth sy'n mynd i gael ei ddatgelu.
"Mae'r cyfrinachau pwysig yn y tir o gwmpas y bryn," meddai.
Ei gasgliad hyd yn hyn yw fod Sycharth yn ganolbwynt i faestref brysur o rhwng 100 a 150 o werinwyr.
Byddai'r faestref wedi ei lleoli i'r gogledd o'r llys ac yn y fath fodd fel na fyddai'r uchelwyr yn y llys yn gorfod edrych arni.
"Mae hynny'n dangos dull soffistigedig o gynllunio ac ymwybyddiaeth o drefn gymdeithasol bendant ar ran Owain, meddai gan ychwanegu fod cyfeiriadau at Cae Pentre ar hen fapiau fel pe byddent yn cadarnhau ei ddamcaniaeth am leoliad y faestref.
Tuag at greu ei ddarlun o lys Owain dywed iddo bwyso'n drwm ar gywydd adnabyddus Iolo Goch i Sycharth.
Yr hyn ydan ni'n ei gael yn y cywydd hwn ydi disgrifiad manwl a ffeithiol o lys Owain gyda Iolo yn eich tywys dros bont sy'n arwain at brif borth ac wedyn o gwmpas y llys ei hun ac mi allwch chi ddychmygu hyd yn oed heddiw beth oedd o'n ei weld o sefyll ar y safle," meddai.
Mae'n mynd mor bell a dweud fod cywydd Iolo yn gwneud iawn am y ffaith nad oes yna arolwg swyddogol wedi goroesi am Sycharth, yn wahanol i rai o gestyll eraill Cymru.
"Mae cywydd Iolo yn llenwi y bwlch hwnnw gan fod Iolo yn rhestru yr hyn a w锚l o gyrchu am Sycharth o'r de lle'r oedd y prif borth," meddai.
Mae hefyd yn amau i'r cywydd gael ei gyfansoddi i ddathlu gwelliannau i'r llys wedi i Owain ddychwelyd yn eithaf cyfoethog o ryfeloedd tramor.
Yr oedd Sycharth yn adeilad trawiadol, does dim amheuaeth am hynny. Mi gafodd ei ddisgrifio gan y Tywysog Harri fel well built.
. Mae'n rhaid iddo fod yn lle go sylweddol i greu y fath argraff ar etifedd coron Lloegr," meddaiRhannodd Spencer Smith ei syniadau am Sycharth mewn darlith i Gymdeithas Hanes Llansilin yn gynharach eleni - 600 mlynedd i'r mis i'r adeg y llosgwyd y llys i'r llawr gan y Saeson.
Ers hynny y mae wedi codi rhywfaint yn rhagor o arian i gynnal archwiliadau pellach.
Pwysleisiodd nad yw hynny'n golygu gwaith tyllu ond archwiliadau geoffisegol a fydd yn datgelu faint mwy o gyfrinachau sydd yna dan ddaear las Maldwyn..
|
|
|
|