| |
Beirdd mewn nics yn codli
Gyda'r geiriau nicyrs a thr么ns ynddynt eu hunain yn siwr o godi gw锚n ar wyneb Cymry yr oedd y cyfle i weld rhai o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru yn gwisgo rhai ar Faes Eisteddfod yn demtasiwn y method rhai eisteddfodwr a'i gwrthsefyll bnawn Mawrth
Trefnwyd y temtiad yn niffeithwch poeth Meifod gan gwmni pishyn.com yr unig wefan gwbl Gymraeg yn y byd i rai sy'n chwilio am gariad.
Sefydlwyd Pishyn fis Ionawr gan Sioned Wyn Morys a ddywedodd fod yna fil o bobl sy'n chwilio am gwmni neu gariad wedi cofrestru erbyn hyn. Ac maen hw i gyd unai yn meddru Cymraeg neu'n dysgu'r iaith.
Ac fel ymgais i dynnu mwy o sylw at bishyns Pishyn bu'r cwmni yn gwerthu nics a thronsiau pwrpasol y bu mynd mawr arnyn nhw o'i stondin ym Meifod.
"Ar hyn o bryd yr ydym yn gwerthu rhyw 150 y dydd," meddai Sian gan ychwanegu fod y nics benywaidd a'r tronsiau gwrywaidd yn gwerthu gystal 芒'i gilydd.
Neiniau yn eu prynu i'w hwyrion, gwragedd i'w gwyr a gwyr i'w gwragedd. Maen nhw'n boblogaidd iawn," medda Sian.
Ac ar garped coch wel mat mewn gwirionedd bnawn Mawrth yr oedd yna gnwd o feirdd wedi dod ynghyd i ddod a rhywfaint o ddiwylliant - wel, odl a mydr efallai - i fyd nics a thronsiau gan beri i'r entendres fod yn ddyblach na'r rhan fwyaf o welyau.
Gyda'r beirdd yn llefaru arddangoswyd nics yn eu holl ryfeddod gan ferched glandeg - ond er bod y merched yn wir yn eu nics eu siomi gafodd y foiyriaid eisteddfodol hynny a ddaeth yno yn disgwyl gweld rhyw Farbra Windsors gorseddol yn strejio pwyntiau.
Ond chawson nhw mo'u siomi yng ngherddi rhai fel Twm Morys (sydd yn berthynas!) a Geraint Lovgreen.
Ac er nad oedd o yno ei hun cafwyd cerdd gofiadwy i Nia Powell a oedd yno - gan Mei Mac.
Llawer mwy sinister na Chernobyl a SARS Llawer mwy dychrynllyd na'r dynion o Mars, Llawer mwy brawychus na triads Hong Kong Ydi Nia Watkin Powell yn dangos ei thong.
Mwy o ddrychiolaeth na Frankhenstein, Llawer mwy anghynnes na dolur rhydd Nain. Llawer peryclach na mobail ff么ns Yw Nia Watkin Powell yn paredio'n ei throns.
Mwy o ryfeddod na thwr mawr Eiffyl A llawer mwy wobli nac ambell dreiffyl Mwy o olyugfa na thwr cam Pisa Yw Nia Watkin Powell yn ei dillad isa.
Mae Nia am eu dangos, medda hi, yn gyson - Felly dwi'n filch mod i'n gorfod mynd i'r ymryson.
Ond er cymaint o ddychryn fyddai Nia Watkin Powell yn 么l bardd arall ar yr achlysur
Ond gwaeth o lawer na hyn yn y b么n Fasa gweld Mei Mac yn tynnu ei drons.
Gwefan Pishyn
|
|
|
|