91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur Maes B: Mercher

Johnny PanicLowri Johnston sydd ym Maes B ar ran 91热爆 Cymru'r Byd. Ac mae hi'n cael amser i gadw dyddiadur hefyd. Dyma ei thrydydd cyfraniad

Gan fy mod i wedi cael noson dda o gwsg nos Fawrth, dwi'n teimlo'n reit ffres ar gyfer gweithio ddydd Mercher felly draw at y 91热爆 yn eitha cynnar er mwyn ysgrifennu fy adolygiad o'r parti foam.

Mae'r bore'n hedfan, ac mae'n amser cinio o'r diwedd. Ar 么l llenwi fy mol, dwi'n treulio'r prynhawn yn y babell roc yn tynnu lluniau a gwylio Brwydr y Bandiau.

Gogz sy'n chwarae gynta, ac mae'n set acwstic wych. Mae'r lle yn llawn a dwi'n mwynhau yn fawr iawn.

Fe fydd gan Gogz albwm newydd allan ar ddiwedd yr haf - edrych ymlaen!

GogzBand gwych arall sy'n dilyn, sef Johnny Panic. Band o Orllewin Cymru yw rhain, ac mae nhw wedi gwneud yn dda iawn yn ddiweddar. Dwi'n gobeithio mynd i weld Johnny Panic ym maes B yn y nos a dwi'n edrych ymlaen yn fawr ar 么l eu gweld nhw ar y maes heddiw.

Rydyn ni'n aros i weld diwrnod olaf cystadleuaeth Brwydyr y Bandiau yn y babell roc ac mae'r safon yn uchel. Pedwar band sy'n cystadlu prynhawn ma' ac maent i gyd yn gerddorion abl iawn.

Kawasaki Banjo a Blinkin I Do oedd y ddau sy'n aros yn y co' er bod Feedback a Lira Fyn yn dda iawn hefyd. Mi oedd y pedwar aelod yn Kawasaki Banjo - band o Rydaman - yn wych ar eu offerynnau ond treni nad oedd y canu yn ddigon cryf.

Blinkin I Do oedd yn cau y gystadleuaeth ac roedd yn bleser eu gweld! Roedd y chwaraewr gitar fas wedi gwisgo dim ond sgert arian dyn - diddorol!

"Y rheswm am hyn yw bod dim merched wedi cystadlu flwyddyn yma yn y gystadleuaeth felly ni wedi dod 芒 un ein hunan!", dwedodd prif leisydd y band.

Beth o'n i'n hoffi am y band yma oedd y ffaith eu bod yn cyfathrebu gyda'r gynulleidfa - daeth y chwaraewr bas i ganol y gynulleidfa i chwarae ei git芒r ac fe ddawnsiodd y drymiwr o gwmpas yr ystafell hefyd!

Ar 么l prynhawn da o gerddoriaeth, nol i'r babell er mwyn ymlacio ychydig yn yr haul. Dwi wedi bod yma am dri diwrnod nawr ond mae'n teimlo fel pythefnos! Ond dwi'n dechrau cael digon o fyrgyrs, byrgyrs a mwy o fyrgyrs felly rydyn ni'n penderfynu mynd i Feifod i gael pryd iawn o fwyd - yr un cyntaf ers i ni gyrraedd yma!

Ac mae'n werth yr aros! Mae Meifod yn bentre hyfryd a'r bobl yn groesawgar. Rydyn ni'n cael bwyd yn y King's Head cyn mynd draw i gael cawod yn nhy fy ffrind sydd 芒 bwthyn yn agos. Dwi'n teimlo llawer gwell ar 么l ymolchi ac yn teimlo'n eitha' effro am unwaith!

Brysio n么l i faes B wedyn (ar 么l mynd ar goll rhwng Meifod a'r maes!) i weld Johnny Panic unwaith eto.

Mae'r lle yn llawn erbyn i ni gyrraedd, a Johnny Panic ar eu gorau. Dwi'n cwrdd 芒 ffrindiau dwi heb weld ers sbel fawr - neis iawn eu gweld nhw!

Rydyn ni gyd yn dawnsio'n wyllt i Elin Fflur a'r Moniars a pawb yn mwynhau!

Ond uchafbwynt y noson heno yw Meic Stevens sy'n hollol wych. Mae'r lle yn llawn ar ddechrau ei set ond mae'n dechrau gwaghau erbyn y diwedd.

N么l i'r babell yna ymlwybro draw at y goelcerth. Dydyn ni ddim yn aros yn hir gan ein bod ni gyd wedi blino - wedi cael diwrnod prysur o gerddoriaeth a joio mas draw!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy