91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003

91热爆 91热爆page
Cymru'r Byd

Eisteddfod 2003
Mwy o'r Maes
Newyddion
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau



Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Dyddiadur Maes B - 1

Maes BLowri Johnston sydd ym Maes B ar ran 91热爆 Cymru'r Byd. Ac mae hi'n cael amser i gadw dyddiadur hefyd. Dyma ei chyfraniad cyntaf.





O'r diwedd, dyma gyrraedd maes B! Rhaid cyfaddef fy mod i wedi bod yn edrych ymlaen ers blwyddyn gron at yr wythnos hon (ers yr Eisteddfod ddwethaf!) ac yn sicr mae'n werth yr aros!

Gyda'r haul yn disgleirio yn yr awyr, y peth cyntaf sydd angen gwneud ar ol cyrraedd yw codi'r babell. Ar 么l ychydig o drafferth - does dim un o ni'n giamstar ar godi pebyll - mae'n barod a gallwn ni ddechrau ymlacio!

Gan ein bod ni wedi gorfod gadael Caerfyrddin am hanner awr wedi chwech y bore er mwyn bod yno erbyn hanner awr wedi naw, rydyn ni wedi blino'n barod felly yn falch o'r cyfle i ddiogi am ychydig!

Crwydro'r Maes
Ond dim am sbel gan fy mod ar brofiad gwaith gyda 91热爆 Cymru'r Byd yr wythnos hon ac felly rhaid mynd draw i ddweud helo!

Y br卯ff oedd crwydro'r maes i weld beth sydd gan Eisteddfod Meifod i'w gynnig.

Mae'r maes yn un da ac mae'r tywydd poeth yn sicr yn helpu. Mae digon o amrywiaeth o stondinau yma, rhywbeth at ddant pawb. Un peth gwael yw pa mor ddrud yw'r bwyd yn enwedig i fyfyriwr chweched dosbarth tlawd fel fi!

At y babell roc
Ar 么l treulio cwpwl o oriau yn yr haul, rydyn ni'n penderfynu crwydro draw at y babell roc i gael ychydig o gysgod. Estella sy'n chwarae pan rydyn ni'n cyrraedd ac mae eu caneuon swynol yn gwneud i ni deimlo'n reit gysglyd yn y tywydd poeth.

Ashokan, grwp o Bontypridd, sydd nesaf i chwarae. Fe welais i Ashokan yn y Cnapan gwpwl o wythnosau yn 么l, ac mi oeddent yn wych.

Eithaf siomedig yw eu perfformiad heddiw, efallai i'r ffaith fod cwpwl o aelodau ar goll wneud gwahaniaeth.

Rydyn ni'n gwylio brwydr y bandiau am ychydig cyn mynd yn 么l i'r babell. Mae'r awyrgylch ar y maes ieuenctid yn gr锚t - pawb yn cymdeithasu ac yn ymlacio.


Maes Pebyll

Amser swper
Erbyn hyn mae'n amser swper felly draw i'r Gorlan i lenwi ein boliau. Credwch chi fi, does dim byd gwell na byrgyr o'r Gorlan ar 么l gig!

Penderfyniad anodd yw dewis pa gig i fynd iddo heno, Cymdeithas yr Iaith (gyda Vanta a Brwydyr y Bandiau) neu maes B (gyda Gabrielle 25, Gogz ac Estella). Ar ol llawer o drafod rydyn ni'n penderfynu mynd i maes B.

Mae'r gig yn un da ond mae'r awyrgylch yn wahanol blwyddyn yma rywsut. Blwyddyn dwethaf dim ond un llwyfan oedd, ond tro yma mae yna ddau ac mae'r stafelloedd yn llai. Hefyd, dyw'r gigs ddim yn dechrau tan ddeg felly mae yna fwy o bobl yno i weld y bandiau, sy'n beth da.

N么l i'r babell ar 么l y gig ac mae rhai ohonon yn crwydro draw i weld y goelcerth. Blwyddyn yma mae yna ffens o gwmpas y tan - trueni gan mai un o'n hoff bethau i ar y maes yw eistedd o gwmpas y tan a cael sing-along bach! Ond rydyn ni dal yn cael hwyl a braf yw gweld pobl nad ydyn ni wedi gweld ers yr Eisteddfod dwethaf.

Neis yw bod n么l yn maes B ac ar ol noson o joio dwi'n edrych ymlaen yn arw at weddill yr wythnos!






Yn fyw o'r llwyfan


Gwegamera'r Maes

Ble mae'r Bardd ?
Sgyrsiau ar lein

Geiriau Croesion

Eisteddfod Celf a Chrefft 2003

Dydd Sadwrn a Sul
Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
Cefndir

Cofio helynt coron Dyfnallt

Cyhoeddi Cerddi Powys

Dau lyfr am Faldwyn

Enwau lleoedd diddorol

Geiriau bro'r Eisteddfod

Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd

Prysurdeb trefnydd

Syched am wybodaeth yn Sycharth

Enwogion Bro'r Eisteddfod

Adnabod yr ardal - wyddech chi hyn?

lluniau'r wythnos
Eisteddfod Meifod - lluniau dydd Sadwrn

Lluniau dydd Gwener

Mwy o luniau o'r Orsedd wedi ymgynull

Gorsedd y Beirdd yn paratoi i ymgynull

Lluniau dydd Iau

Lluniau dydd Mercher

Oriel "Nics"

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Llun

Ioan Gruffudd ym Meifod (2)

Ioan Gruffudd ym Meifod (1)

Lluniau dydd Sadwrn a Sul

Lluniau'r ardal

O'r Maes

"Steddfod yn Stuffy"

Llawenydd Patagonaidd am fuddugoliaeth Twm

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 4

Gwisgo Ioan Gruffudd ar gyfer yr Orsedd!

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 2

Yr arddangosfa Gelf a Chrefft

Hywel Gwynfryn - dyddiadur Steddfod 3

Cysylltiadau eraill


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy