Mae criw o ddysgwyr o fro'r Eisteddfod wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi llyfr o gerddi ac o straeon.
Bydd Gwerth Chwech yn cael ei gyhoeddi ym mhabell Canolfan Ty Newydd ar faes yr eisteddfod ddydd Llun.
Ymhlith y rhai sydd wedi cyfrannu i'r gyfrol mae Alison Layland o Langynog a oedd yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 1999.
Dywedodd Alison fod y chwech sydd wedi cyfrannu i'r gyfrol yn aelodau o grwp sgrifennu creadigol a sefydlwyd rhyw chwe blynedd yn 么l dan arweiniad y Prifardd Cyril Jones.
Pan symudodd ef o'r ardal parhaodd y grwp i gyfarfod bob mis yn Hen Gapel John Hughes Pontrobert gyda Nia Rosier sy'n gofalu am y capel ac sydd hefyd wedi cyfrannu tuag at y gyfrol.
Y cyfranwyr eraill ydi Barbara Gillespie, Bernard Gillespie, Ann Hirst a Pamela Towlson.
"Bydd unrhyw elw mae'r gyfrol yn ei wneud yn cael ei rannu rhwng Ty Gobaith yng Nghymru a Chronfa Hen Gapel John Hughes," meddai Alison sydd ym Mhabell y Dysgwyr ar faes yr Eisteddfod yr wythnos hon.
Yn Bradford y magwyd Alison ac wedi cyfnodau yn Lloegr ac Iwerddon ymsefydlodd hi a'i gwr a dau o blant yn Llangynog. Mae'n gyfieithydd wrth ei gwaith ac ers dod yn Ddysgwr y Flwyddyn enillodd goron Eisteddfod Powys.
Daw Barbara a Bernard Gillespie o Wolverhampton ac o Lerpwl ac maen nhw'n briod er 1963 ac yn byw yng Nghymru er 1992.
Un o swydd Efrog ydi Pamela Towlson a symudodd i gefn gwlad Sir Drefaldwyn yn 1996 gyda'i gwr ar 么l byw ar gyrion Llundain. Dywedodd fod cefn gwlad a bywyd gwyllt yn symbyliad cyson iddi.
O Loegr y daw Ann Hirst hefyd ac yn byw gyda'i gwr yn Nhrefaldwyn lle mae hi'n rheolwr prosiect gydag Age Concern.
Wrth gyflwyno Gwerth Chwech dywed Cyril Jones mai dysgu'r Gymraeg 芒 sbardunodd yr awydd i sgrifennu ynddyn nhw.
"Cyn cael y profiad o diwtora dysgwyr i ysgrifennu yn greadigol roeddwn innau braidd yn sinicaidd ac yn credu mai dim ond trwy gyfrwng eich mamiaith y gallwch chi fwrw'ch bol yn go iawn. Mae'r grwp hwn wedi profi mai myth ydi'r haeriad hwnnw.
Mewn dyddiau pan fo s么n parhaus am fewnfudwyr mewn ffordd negyddol, mae'r gyfrol hon yn ddathliad o'r modd y gallan nhw roi trallwysiad o waed ffres i hen wythiennau'r Gymraeg."
Ac fel pe i gadarnhau geiriau Cyril Jones dywedodd Alison Layland mai dim ond yn y Gymraeg y mae hi'n sgrifennu'n greadigol ac nid yn ei mamiaith.
"Dydw i ddim yn siwr pam ond rwy'n ei chael yn haws sgrifennu'n greadigol yn y Gymraeg er fy mod i'n gyfieithydd dydw i ddim yn sgrifennu ffuglen yn Saesneg efallai fy mod i'n rhy swil i wneud yn fy iaith fy hun," meddai.
Pris Gwerth Chwech ydi 拢4.75 ac mae ar werth ar stondin Ty Gobaith, Menter Maldwyn, Antur Dwy Afon, Awen Meirion, Yr Academi lle mae Ty Newydd a stondin papurau bro Maldwyn.