| |
Gwilym Owen: Briwsion dydd Llun
Sylwadau dyddiol Gwilym Owen - y dyn sy'n clywed y cyfrinachau i gyd. Ac yn eu rhannu wedyn!
Sut Steddfod fydd hon ym mwynder Maldwyn tybed?
A all Sian barablus, cariad yr aelod seneddol lleol, y Bonwr Opik, drefnu'r tywydd fel ei bod hi'n wythnos gyfan yn wyneb haul llygad goleuni fel na fydd yn rhaid iddi hi na Jennie Ogwen wisgo welingtons Gucci melyn efo sodlau tair modfedd fel yn Nhyddewi y llynedd?
Ymryson pleidiol Ac ysgwn i a ydi'r Sanhedrin Eisteddfodol wedi ystyried y gallai'r Maes yma ym Mathrafal gael ei ddefnyddio fel maes ymryson ar gyfer ymgyrchoedd arweinyddiaeth Plaid Cymru yn ystod y dyddiau nesaf yma.
Dafydd Iwan a'i gyfarfod personol ym Mhabell y Cymdeithasau, Cynog Dafis efo undebau'r athrawon, Rhodri Glyn Thomas yn darlithio ar r么l Plaid Cymru dros y deng mlynedd nesaf a Helen Mary Jones yn deud ei deud ar amrywiol achlysuron.
Ond, mae un dyn bach ar 么l. Does dim s么n am Ieuan Wyn Jones yn unman. Sgwn i ai ei gynllun o ydi trefnu swper cyri cyfrinachol ym mhabell Dolen un noson.
Ac o s么n am hoelion with The Party of Wales, tybed sawl un ohonyn nhw fydd yn bresennol ym Mhabell y Cymdeithasau yn ddiweddarach heddiw pan drafodir y pwnc embaras hwnnw, Senedd i Gymru.
Colofnydd Machen Ac aros efo politics, tybed faint o ddefnydd o'r iaith Gymraeg a wnaiff y gorseddol wleidydd Ron o Fachen pan fydd o a Dafydd Wigley yn ymddangos ar stondin Cymdeithas yr iaith y bore ma.
Ac yntau, bellach yn golofnydd yn y wasg Gymraeg mae'n siwr na fydd pall ar ei sgwrs yn iaith y nefoedd. Wel, gobeithio, beth bynnag.
Ac o s么n am y rheol iaith, tybed a fydd comisiwn llugoer yr Arglwydd Richard yn derbyn tystiolaeth mewn Cymraeg yn unig yn y Brifwyl hon?
Anrhydedd i bwy? A gadewch imi ofyn hefyd pam bod pwysigion y Sanhedrin a'r Orsedd yn glafoerio cymaint am gael y fraint o anrhydeddu'r actor Ioan Gruffudd a threfnu seremoni arbennig ar ei gyfer y bore ma.
Onid braint yr actor yw derbyn gwisg wen yr Orsedd ac oni ddylai fod wedi ymdrechu i dreulio mwy o amser ar faes y Brifwyl yn hytrach na dianc mor ddisymwth?
Problem gymdeithasol? Ddeuda i ddim mwy dim ond troi at Babell y Cymdeithasau. Pabell, medda nhw, y gellid ei dileu er mwyn arian.
Bobol bach, beth ddigwyddai i'r genedl os na chynhelid cyfarfodydd o Gymdeithas Brodwaith Cymru, Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, Cymdeithas Carnhuanwc ac, wrth gwrs, Cymdeithas Cledwyn.
A phrif siaradwr y gymdeithas honno, eleni, ydi'n Prif Weinidog hoff, Rhodri Morgan.
Sgwn i a fydd o'n ddigon blaengar i ymateb yn enw ei lywodraeth i argyfwng ariannol presennol y jyncet fawr flynyddol ar yr amod, wrth gwrs, fod y Sanhedrin, hefyd, yn mynd ati i dwtio, caboli a chynilo.
Mi fyddai'r diweddar Arglwydd Cledwyn yn dweud Amen dwi'n siwr.
Tan yfory gweinier y cledd!
|
|
|
|