Mwyniant Maldwyn - Eisteddfod y 91热爆
Mari Jones-Williams yn sgrifennu am ddarpariaeth 91热爆 Cymru o Faes y Brifwyl ym Meifod.
Flwyddyn ar 么l blwyddyn mae 91热爆 Cymru yn gymaint o ran o'r Eisteddfod Genedlaethol a'r pafiliwn ei hun, o ran yr amrywiol gyflwynwyr sy'n gwibio o gwmpas y maes yn dod ag ysbryd a hwyl yr wyl i gartrefi Cymru, y darlledu di-baid ar deledu analog a digidol, radio ac ar-lein, yn Gymraeg a Saesneg, heb anghofio canolfan 91热爆 Cymru sydd wastad yn ganolfan amlwg, fywiog ar y maes.
Ar y maes Eleni, bydd canolfan 91热爆 Cymru ar y maes yn cynnig mwy nag erioed, wrth i 91热爆 Cymru annog eisteddfodwyr Meifod i gymryd cip ar yr hyn sy'n digwydd y tu 么l i'r llen a gweld y rhaglenni yn cael eu hymarfer, eu cynhyrchu a'u darlledu'n fyw.
Bydd cyfle i ymwelwyr gael eu tywys gan reolwr llawr o amgylch y stiwdio agored, a bydd yn egluro yn union sut mae rhaglenni yn cael eu creu. Bydd modd gweld y rhaglenni yn cael eu cyflwyno yn fyw, gweld y gwahanol gorneli y mae'r camer芒u yn ffilmio ohonynt a chael tro yn cymysgu lluniau i olygu rhaglen eich hun.
O dan yr un to hefyd, bydd sgr卯n i wylio'r perfformiadau o'r llwyfan, cyfle i weld y sylwebwyr wrth eu gwaith a digonedd i'w weld a'i wneud. Bydd cownter yn gwerthu nwyddau gan gynnwys gwydrau peint Cic Mul, sef bragdy Cwmderi, a llieiniau llestri Caffi Anita.
Bydd cyfle hefyd i gyfarfod actorion Pobol y Cwm, wrth iddyn nhw bicio i mewn yn eu tro.
Bydd llwyfan Radio Cymru yn amlwg iawn, yn f么r o firi a pherfformiadau cyffrous gyda band byw yn perfformio am 1.30 bob dydd ac yn cael eu cyflwyno gan Owain Gwilym a Dylan Wyn.
Yn eu tro, bydd Pheena, Rhydian, Acoustique, Gwenno, John ac Alun a Bryn F么n yno gyda chyfle i unrhyw un sydd a ffansi bod yn dipyn o DJ droelli gyda Dylan bob prynhawn.
Bydd bws 91热爆 Cymru hefyd wedi ei leoli y tu allan i ganolfan 91热爆 ar y maes, lle mae cyfle i roi tro ar gyfrifiaduron a derbyn pob math o hyfforddiant difyr a defnyddiol.
91热爆 Radio Cymru Os methwch chi 芒 bod ym Meifod does dim rhaid colli dim o'r hwyl, y cystadlu, cyngherddau, gigs nac awyrgylch y prif faes, Maes B a'r maes carafanau.
Ar y Sadwrn cyntaf yn y Babell L锚n am 3.00pm, bydd gornest derfynol Y Talwrn, Crannog yn erbyn Y Waunfawr. Go brin y gwnaiff pawb lwyddo i gael sedd, ond bydd cyfle i glywed y cyffro eto ar y 10fed o Awst, pan gaiff y rhaglen ei darlledu.
Hywel Gwynfryn ddaw 芒 holl hanes y cystadlu, Nia Lloyd Jones sy'n dod a hwyl a thensiwn cefn y llwyfan ac Owain Gwilym sy'n dod 芒 rhialtwch y maes yn rhaglen O'r Maes yn ddyddiol am 10am a 2.30pm. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys holl brif seremon茂au'r dydd: Coroni'r dydd Llun, Gwobr Daniel Owen ddydd Mawrth, seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaeth ddydd Mercher, Croesawu Cymru'r Byd ddydd Iau, a'r Cadeirio ddydd Gwener.
Bydd Beti George ynghanol y gweithgareddau fel arfer, yn cyflwyno Tocyn Wythnos am 5.00 ddydd Sadwrn, 6.40 ddydd Sul a 6.30 weddill yr wythnos heblaw dydd Iau, pryd mae'r rhaglen yn dechrau am 7.00.
Gydol yr wythnos hefyd bydd Alun Thomas a Garry Owen yn trafod newyddion y byd a'r Eisteddfod, yn fyw o'r maes yn Post Cyntaf am 7.00 bob bore gyda Rhian Haf yn adrodd ar y traffig ar ffyrdd yr Eisteddfod, a gweddill Cymru wrth gwrs, a Heledd Sion yn dod ag adroddiadau dyddiol o ddigwyddiadau'r maes hollbwysig arall hwnnw, Maes B.
Bydd Alun Thomas yn darlledu ei raglen yn fyw o'r maes ddydd Sul (10.15), a bydd Oedfa'r Bore (11.30) hefyd yn dod o'r pafiliwn gyda'r Parchedig R Alun Evans yn arwain oedfa ar y thema A Oes Heddwch?.
Nos Sul hefyd bydd un o uchafbwyntiau'r wythnos yn cael ei ddarlledu yn fyw o'r Pafiliwn. Mae Ieuan Jones yn delynor rhyngwladol, ac yn y perfformiad arbennig hwn o weithiau Tchaikovsky a Rodrigo bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆 yn ymuno ag o.
Bydd rhaglen hanner awr eisteddfodol o Taro'r Post yn cael ei darlledu yn ddyddiol am 1pm, gyda Dylan Jones a'r t卯m gohebu yn crwydro'r maes am bynciau llosg y dydd. Bydd Post Prynhawn am 5.45pm hefyd yn rhoi sylw i'r Eisteddfod bob prynhawn.
Ac ar ddydd Iau, bydd rhifyn arbennig o Manylu yn trafod pwnc dyrys ac amserol, sef dyfodol yr Eisteddfod. Gwilym Owen fydd yn cadeirio'r drafodaeth yn y neuadd ddawns ar y maes am 4.15pm, gyda'r darllediad am 6.30pm.
Ym Maes B bydd cyflwynwyr C2 yn crwydro'r maes pebyll a'r gigs, yn dod 芒 rhialtwch y gornel fywiog hon o'r byd eisteddfodol i'r criw gartref. Daf Du, Beca Evans, Huw Stephens, Jeni Lyn, Steve a Terwyn, Heledd Sion a Kevin Davies bydd y llu yno yn dod 芒 chyfweliadau gyda'r bandiau, adolygiadau o CDs a chylchgronau'r wythnos, adolygiadau o'r Babell Roc ar y maes, ryff geid i ardal Meifod, y sbri o'r gorlan goffi ac wrth gwrs, uchafbwynt gig y nos gyda'r prif fand yn perfformio'n fyw. Yn ystod yr wythnos bydd Estella, Meic Stevens, Anweledig, Bryn F么n a Geraint Jarman oll i'w clywed.
Am 8.30 ar nos Iau a nos Wener bydd Cabare Carafannau yn dod 芒 pherfformiadau byw, cystadlaethau, gwesteion a llond adlen o adloniant gydag Idris Charles.
91热爆 Cymru ar S4C Bydd 91热爆 Cymru yn gofalu bod gan wylwyr s锚t flaen yn y pafiliwn yn ogystal 芒 safle ynghanol bwrlwm y maes a'r gweithgareddau ymylol, a hynny heb symud o'r soffa.
Huw Llywelyn Davies fydd yn llywio rhaglenni'r prynhawn ar 91热爆 Cymru ar S4C rhwng 3.30 a 6.00 ac yn cadw cwmni iddo yn y stiwdio bydd Lisa Gwilym.
Bydd Sh芒n Cothi yng nghefn y llwyfan yn sgwrsio gyda'r cystadleuwyr ac ambell i feirniad, tra bo Ffion Dafis yn crwydro'r Maes yn cyflwyno'r newyddion diweddaraf o bob twll a chornel.
Lisa Gwilym fydd yn cyflwyno'r uchafbwyntiau gyda'r nos gan ddarlledu cystadleuaeth Ysgoloriaeth W Towyn Roberts yn fyw o'r Pafiliwn am 7.45 ar nos Fercher. Bydd uchafbwyntiau'r dydd yn y Babell L锚n hefyd i'w gweld ar raglenni'r hwyr ar S4C Digidol yn ystod yr wythnos.
Bydd 91热爆 Cymru hefyd yn recordio rhan o'r arlwy nosweithiol ar gyfer eu darlledu yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gan gynnwys cyngerdd Ieuan Jones a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y 91热爆 a chyngerdd y Corau Meibion a Sh芒n Cothi.
Gan gychwyn am 10.00 bob bore ar S4C Digidol bydd Alwyn Humphreys hefyd yn sylwebu o'i unfed-eisteddfod-ar-hugain.
|