Cerdd am fyrhoedledd ac am freuder y gwreiddiau sy'n angori ein bywydau a enillodd ei hail brif wobr farddonol i Mererid Hopwood.
Ddwy flynedd yn 么l yr oedd y ferch o Gaerdydd yn dathlu bod y fenyw gyntaf erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ddydd Llun, yr oedd y bedwaredd ferch i ennill y goron.
"Yr oeddwn yr un mor nerfus yn y ddwy seremoni allai ddweud hynny," meddai wedi'r seremoni ar bnawn chwilboeth ym Meifod.
"Ac yn bendant yr oedd yn llawer cynhesach," ychwanegodd.
Daeth yn fuddugol yn y gystadleuaeth fwyaf niferus erioed am Goron y Genedlaethol gyda 45 wedi cystadlu.
Ond doedd y gystadleuaeth ddim yn newyddion da i gyd gyda'r Prifardd Cyril Jones yn cwyno am safon nifer o'r ymgeision wrth draddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd feirniaid, Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.
Yn wir, allan o'r 45 dywedodd mai dim ond hanner dwsin oedd yn haeddu cael eu hystyried yn oreuon a dim ond tair ymgais arall yn agos at y brig.
Dywedodd i'r tri beirniad ffafrio gwahanol un o'r tair ond eu bod yn unfarn ynglŷn a phedwaredd ymgais - un Mererid Hopwood.
"Ysgrifennodd gerdd nad yw'n perthyn i le nac i amser penodol . . . Mae'n gerdd delynegol dynn ei gwead," meddai Cyril Jones.
Ac wrth gloi ei feirniadaeth gwnaeth ap锚l arbennig am i hyd yn oed y rhai hynny nad ydynt fel arfer yn darllen barddoniaeth ddarllen gwaith Mererid.
"Os nad ydych yn darllen ond un peth yn y cyfansoddiadau darllenwch hon," meddai.
Disgrifiodd y gerdd fel un sy'n darlunio bywyd drwy gyfrwng "rhawd perthynas dau aderyn a chyw" a'i bod trwy hynny "yn rhoi cyfle gwych i'r bardd danlinellu'i weledigaeth o freuder bywyd boed i aderyn neu ddyn ac yn rhoi cyfle i'r gerdd weithio a darllen ar fwy nag un gwastad."
Dywedodd Mererid Hopwood fod y rhigwm Ar y bryn y mae pren yn ailgodi'n thema drwy ei cherdd.