| |
Y prif lenor - nofel gyntaf Cefin
"Dwi'n dal yn methu coelio'r peth," meddai Cefin Roberts wrtho'i hun gymaint ag wrth neb arall wrth gael ei dywys i ystafell y wasg ym Meifod yn dilyn y seremoni i'w urddo yn brif lenor yr eisteddfod.
Yr oedd yn fuddugoliaeth mor annisgwyl ag yr oedd hi o boblogaidd ymhlith eisteddfodwyr gyda rhyw wefr arbennig cael merch y prif lenor, Mirain Haf, i ddarllen detholiad o'r gwaith buddugol ar y llwyfan.
Yn un cwbl gyfarwydd a llwyfan y Genedlaethol cyfaddefodd hithau ei bod "yn fwy nerfus nag erioed".
"Roedd fy ngheg yn grimp sych," meddai.
Daeth hi i eistedd wrth ochr ei thad gydol y gynhadledd i'r wasg sy'n dilyn y seremon茂au hyn.
Yr oedd mwy nag un emosiwn ar y llwyfan bnawn Mercher. Yn traddodi'r feirniadaeth yr oedd enillydd arall y Fedal, Eurig Wyn, sydd yn ymladd brwydr lem a chyhoeddus yn erbyn canser.
Ac yn traddodi heb bill ar bapur ar ran ei gyd feirniaid, Gwyn Erfyl a Jane Edwards, manteisiodd ef ar y cyfle nid yn unig i gynnal, fel pob nofelydd da, dyndra'r amgylchiad ond hefyd i roi gair o gerydd i feirniaid hirwyntog.
Beth bynnag oedd ym meddwl Mr Wyn pan ddywedodd mai'r peth olaf oedd y gynulleidfa ei eisiau oedd llith hir hanner awr y gellid ei ddarllen yn y Cyfansoddiadau ddydd Gwener beth bynnag yr oedd beirniadaeth y Goron ddydd Llun yn dal yn fyw iawn yng nghof y gwrandawyr.
Edrychai pethau'n go ddrwg pan ddisgrifiodd Mr Wyn y gystadleuaeth rhwng 14 fel un llwydaidd, di-liw a dichwa.
Fodd bynnag yr oedd dwy nofel wedi plesio'r beirniaid nofel dditectif a nofel "afaelgar a darllenadwy . . . hynod o ffres yn datgelu llawer am ein cymdeithas" gan Cefin Roberts, Brwydr y Bradwr.
Wedi'r Seremoni dywedodd Cefin Roberts iddi fod bron gymaint o syndod iddo sgrifennu nofel o gwbl ag oedd hi i'r nofel honno ennill y wobr. Ond ychwanegodd iddo fwynhau ei sgrifennu.
"Mi wnes i fwynhau ei sgrifennu yn ofnadwy. Yr oedd yn brofiad hollol newydd a dydw i ddim yn gwybod beth wnaeth imi ddewis ffordd mor wahanol i ddehongli fy nheimladau," meddai Cefin sydd wedi canolbwyntio ar sgript a drama hyd yn hyn gan ennill y brif wobr ddrama yn y Genedlaethol y llynedd.
Yr oedd yn hynod o feirniadol o'r gwahaniaeth sydd yna yn y sylw a gaiff enillydd y naill wobr o gymharu 芒'r llall.
Dywedodd iddo gael llawer iawn mwy o sylw gan y cyfryngau eleni fel enillydd y Tlws Llenyddiaeth o gymharu a'r sylw a gafodd y llynedd o ennill y tlws drama.
"Be sydd wedi fy rhyfeddu i ydi gymaint o sylw mae'r fedal lenyddiaeth gyda gwobr o 拢750 yn ei gael o gymharu ag enillydd y fedal ddrama pan enillais i 拢4,500 a neb yn fy holi i am y peth. Mae gen i ofn fod y ddrama yn cael ei gwthio i'r cyrion ac fel cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol mi fydda i'n cymryd hynny i fyny."
Yn dilyn y fath lwyddiant annisgwyl gyda'i nofel gyntaf does ryfedd i Cefin ddweud y byddai "wrth fy modd" yn sgrifennu mwy o nofelau a rhannodd gyfrinach ei fod wedi "sgetsio" tair nofel arall tra yn y Steddfod yr wythnos hon. "Efallai y daw rhywbeth o un ohonyn nhw ond dydw i ddim am rysio rwan," meddai.
|
|
|
|