Adolygiad : Sioe blant Melangell
Awr o fwynhad pur yn sioe blant Melangell.
Roedd bod yng nghefn y llwyfan yng nghanol y cast o 160 o blant, wrth iddynt gael cyngor munud olaf gan Geinor Jones, Cyfarwyddydd sioe Melangell yn argoeli'n dda. Roedd pob un o'r cast yn eistedd yn gwrando ar y cyfarwyddiadau 芒 brwdfrydedd ar eu wynebau, cyn troedio yr un mor frwdfrydig ar y llwyfan.
Chwedl leol :
Adrodd y chwedl leol am Felangell yr oedd sioe blant ysgolion cynradd dalgylch yr Eisteddfod. Daw Melangell a'i ffrind Mari i ddyffryn hudol o wlad Erin, a gwneud ffrindiau gyda'r anifeiliaid maen nhw'n eu cyfarfod yno.
Ond mae Brochwel, y dyn cas, o gwmpas, ac yn barod i hela'r anifeiliaid. Ond gyda help Melangell a Mari mae tynged yr anifeiliaid yn ddiogel.
Chwedl ramantus, a'r plant yn amlwg wedi eu hymroi eu hunain yn llwyr i'r stori.
Prif gymeriadau : perfformio rhagorol
Gall sioeau plant fod braidd yn anodd eu deall weithiau - mae'r canu a'r llefaru yn dueddol i fod yn aneglur, ond nid felly sioe Melangell - o gwbwl. Cafwyd actio a chanu rhagorol drwyddi draw.Rhaid canmol perfformiad y prif gymeriadau. Roedd Steffan Jones, sef Brochwel yn arbennig o dda. Llais cryf a chlir am blentyn ysgol cynradd. Roedd ei lais canu yn creu argraff hefyd. Mae'r un peth yn wir am Catrin Evans oedd yn chwarae Melangell a Sara Rhys Vaughan, sef Mari. Roedd pob un o'r prif gymeriadau "wedi tynnu'r stops i gyd allan!"
Sioe gan gwmni proffesiynol
Cafodd y sioe hon ei chynhyrchu gan gwmni Theatr Na n'Og, Geinor Jones oedd y Cyfarwyddydd Artistig, Dyfan Jones yn Gyfarwyddydd Cerdd a sgrifennwyd geiriau'r caneuon gan Tudur Dylan Jones. Roedd hi'n werth cael cwmni proffesiynol i gynhyrchu, yn fy marn i, roedd yn sicr yn ychwanegu at broffesiynoldeb y sioe.
Gwisgoedd a set : creu argraff
Roedd y gwisgoedd a'r set - er yn ddigon syml - yn argyhoeddi. Pob un o'r plantos bach wedi gwisgo fel anifail, neu rywogaeth o fyd natur. Ddim yn aml y byddech chi'n disgrifio caws llyffant, yn "ciwt" , ond roedd y ddau blentyn bach yn eu gwisgoedd, yn werth eu gweld!
Yr unig gwyn, neu siom oedd gan y gynulleidfa wrth iddyn nhw adael y pafiliwn, nos Sadwrn, oedd bod y sioe braidd yn fyr. Prin awr oedd ei hyd, ond i mi, roedd yn gorffen yn ei flas. Roedd y plant yn ffresh ac yn bloeddio canu tan y nodyn ola'. O ystyried oed ifanc rai ohonyn nhw, byddai bod ar y llwyfan yn hirach, o bosib yn eu blino ac yn gostwng lefel y perfformiad.
Fel adolygwr y sioeau nos yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, roeddwn yn gadael y pafiliwn ar fy noson gynta' wedi fy mhlesio ac yn edrych ymlaen nawr at y wledd sydd gan yr wythnos i'w chynnig.
Adolygiad gan : Elin Wyn Davies.