Adolygiad : Un C锚s a sawl lodes L猫n
"Noson fywiog o gerddoriaeth a barddoniaeth, am deulu, arwyr, teithio, tr枚edigaethau, serch, cenedlaetholdeb, ac ambell i bwnc amheus iawn!"
Dyna ddisgrifiad y poster yn hysbysebu noson yr Academi ym Maes C, Eisteddfod Genedlaethol Meifod, ac felly roeddwn yn disgwyl noson amrywiol a hwylus iawn. Ac felly yr oedd hi.
Arwyn Groe oedd y c锚s - a tipyn o g锚s oedd e hefyd - braf oedd ei glywed yn adrodd ei gerddi yn ei dafodiaith leol. A'r saith lodes oedd Mererid Hopwood, Sian Northey, Gwyneth Glyn, Fflur Dafydd, Nia M么n, Nici Beech a Karen Owen. A chyda 'lein yp' felly, does dim syndod mai amrywiol iawn oedd cynnwys y cerddi.
Noson hwyliog
Agorodd y noson yn hwyliog iawn gyda Gwyneth Glyn wrth y meic a Fflur Dafydd wrth y piano, yn cyflwyno'r chwe bardd arall ar g芒n, a'r beirdd yn ymddangos un wrth un, o du 么l y llenni ar y llwyfan.
Amrywiaeth - a'r amheus!
Fformat digon str锚t oedd i'r noson, o ran adrodd y cerddi. Pob bardd yn dod at y meic yn eu tro i adrodd eu gwaith eu hunain, a'r gynulleidfa yn eistedd o gwmpas byrddau. Aethpwyd 芒 ni ar sawl trywydd hollol wahanol. O gerddi dwys a theimladol Mererid Hopwood a Karen Owen, i gerddi ysgafn a doniol, Arwyn Groe, Si芒n Northey, Nia M么n a Fflur Dafydd.
Ac yna fe ddaeth yr ambell i bwnc amheus iawn fel yr oedd y poster hysbysebu yn ei awgrymu. Roedd ambell i gerdd gan Si芒n Northey yn ddigon i beri'r mwya meddwl agored i gochi! Ac ambell i gerdd yn mynd yn bersonol iawn!
Roeddwn yn hoff iawn o ganeuon Fflur Dafydd a Gwyneth Glyn, roedd yn torri ar y farddoniaeth yn hwylus, a thalent y ddwy ferch yn rhagorol, ar y git芒r a'r piano.
Er i mi fwynhau perfformiad Gwyneth Glyn yn fawr, ar y gorau - mae'n amlwg yn berfformwraig naturiol, ond weithiau teimlais fy mod yn colli peth o'i llefaru. Naill ai yr oedd yn sefyll yn rhy agos i'r meicroff么n neu bod yna nam ar y system sain. Roedd hyn yn drueni gan fy mod yn gorfod canolbwyntio mwy ar glywed yn hytrach na mwynhau y cerddi.
Uchafbwynt
Un o'r uchafbwyntiau i mi, oedd un o gerddi Mererid Hopwood yn s么n am y mewnlifiad i'w phentref genedigol yn Sir Benfro. Saif ar ben y bryn yn edrych i lawr dros y pentref, a gweld nad oes golau yn y tai bellach, am mai cartrefi tymhorol ydyn nhw gan fwyaf. Roedd yma ddelweddau trawiadol iawn, a'r gerdd yn nhafodiaith Sir Benfro yn drawiadol iawn.
Croeso i noson o'i math
Dw i'n meddwl bod croeso mawr i nosweithiau tebyg i hon a gafwyd ym Maes C nos Sul. Mae angen llawer iawn mwy o nosweithiau tebyg, ac o ystyried cynifer yn y dorf yn Neuadd y Trallwng, dw i' siwrbod hon yn farn gyffredin.
Adolygiad gan Elin Wyn Davies.