Cerddi Rownd 3
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cais am Gymhorthdal
Y Chwe Mil
Talcen yn tampio a’i galon yn curo.
Ceisia gamu wrth i lais y ddynes ’na
fynnu canu’n ei glust:
‘Jyst llenwi form s’isio...’Na’r oll.’
’Na’r oll.
Gareth Evans Jones 8.5
Y Gler
Pan fwyf yn iau a rheibus,
heb arian yn y banc,
a’r teulu dal yn tyfu
ac egni yn y tanc,
oes siawns i brynu bwthyn
a’r byd tu ôl i’w ddôr,
uwch creigiau Aberdaron
a thonnau gwyllt y môr?
Osian Rhys Jones 8
Cynigion ychwanegol
Cynllun blaengar (rhowch arian)
a mawr (nid rhyw newid mân)
a hirfaith a thrawsffurfiol
(y moolah oer, a dim lol).
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘coch’
Y Chwe Mil
Nodiwch ‘Hen Wlad fy Nhadau’
a gwisgo’ch coch (ar y cae.)
Osian Owen 8.5
Y Gler
Rhag difrawder, rhown eroch
Y seiliau gwyrdd is wal goch.
Hywel Griffiths 8.5
Cynigion ychwanegol
Golau coch, a glaw. Y car.
Cariad. Eiliad o alar.IT
Adlais o noson waedlyd
a’i ffrog goch yn ffrae i gyd OO
Pa gynfas a lapiasoch
Am fory Cymru? Drake coch.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n siwr fod ’na enw i’r cyflwr’
Y Chwe Mil
Y fo aeth a chadair Casllwchwr
a’r Tymbl, a Phen’bont ar Ogwr;
a chadair Tre-saith
efo’r un darn o waith;
mae’n siwr fod ’na enw i’r cyflwr.
Iestyn Tyne 8.5
Y Gler
'Mae’n si诺r fod ’na enw i’r cyflwr,’
Meddwn innau, a’m hysbryd fel merddwr,
Yn englyna’n y glaw
Ers 2019.
Meddai’r meddyg, ‘Ti’n llwyr-ymrysonwr.’
Hywel Griffiths 8.5
Cynigion ychwanegol
Mae gan holl drigolion Cwm Cletwr
(a’u cefndryd sy’n byw yng Nghasllwchwr)
dri thrwyn, pedwar bawd,
a thad sydd yn frawd.
Mae’n si诺r fod ’na enw i’r cyflwr.OO
Mae’n wir, dydwi’n fawr o limrigwr.
d’eud gwir, dydw i’n fawr o englynwr
mae d’eud ’mod i’n wael
yn sylw reit hael,
mae’n si诺r fod ’na enw i’r cyflwr.OO
Pendronodd y meddyg o’r parlwr,
‘Mae’n si诺r fod ’na enw i’r cyflwr,’
Nes gwelodd symptomau
(Fi’n cyfri sillafau),
Medd hithau, ‘O na! Cynganeddwr …’ORhj
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys ‘Mae ’na wahaniaeth rhyngom ni heno’
Y Chwe Mil
Mae ’na wahaniaeth rhyngom ni heno;
rhannu’n anoddach, er i ni addo …
heb yr awydd, mae’n sgyrsiau ni’n breuo
fel briwsion englyn ar becyn baco
a rhywbeth heb ei roi heibio’n canlyn
dau grwydryn fu’n ffrindiau gorau, rhywdro.
Iestyn Tyne 10
Y Gler
Mae ’na wahaniaeth rhyngom ni heno,
p诺er a phryder; y grym a’i herio;
ffynhonnau gloyw, a phoen y glawio;
yn s诺n y lladd, pa dacteg sy’n llwyddo;
rhifau’r cyrff ar furiau’r co’ – ac o hyd,
pa weddi o fywyd, pa Dduw i’w feio.
Hywel Griffiths 10
5 Triban beddargraff dylifrwr neu ddylifwraig prydau têcawê
Y Chwe Mil
Wrth gludo’r boneless banquet
a’r ugain chicken nugget
Tro’dd cawod law y lôn yn slic,
rhoth gic i’r bargain bucket.
Osian Owen 9
Y Gler
Anwadal gludwr kormas,
Canfuwyd, yn reit addas,
Yn lle dy holl ddaearol lwch
Lond blwch o lamb samosas.
Hywel Griffiths 8.5
Cynigion ychwanegol
A’r gynulleidfa’n llwgu
ar ol y maith deyrngedu,
caed mewn deng munud, ar fy llw,
ddeliveroo-te-claddu.IT
Ar fap yr ap, fynychaf,
yn gwnaet bob siwrne’n araf.
7 stops away, diflannaist ti
 ’nghyri, un tro olaf. ORhJ
6 Cân ysgafn: Y Gwaith Addurno
Y Chwe Mil
Cefnogi cynnyrch Cymru lle bo modd, heb os, yw nghred;
dewisais felly roi fy ffydd yn Welsh range Dulux Trade,
a chyda’r bildio drosodd, a’r plastar oll yn sych
mi es i ati efo ’mrwsh, a breuddwyd chwaethus, wych.
Paentiais waliau’r landin o’r nenfwd hyd y llawr
a’r cyntedd yn drawiadol mewn Flirtations with Merched y Wawr;
mi gymrith amser i arfer efo’r Wrexham lager (light)
ond mae’r sgyrtins yn y gegin yn sioe mewn Gorsedd white.
Lliwiau niwtral yn y stydi, sef Toasted Mr. Urdd
a Gentle Snowdon slopes (sy’n debyg iawn i wyrdd);
ymlaciol iawn yw’r lolfa mewn Bluebells by Eifion Wyn
a ffram y ffenest wedyn mewn Coastal old ladies and ffyn.
Pavilion pink a deimlai fel lliw o’r oes o’r blaen
ond gweithiai’n dda o’i baru gydag ambell beth mwy plaen
fel Shades of carthen covid mask a Penrhyn Quarry grey;
mi setlais yn y diwedd gyda Walrus of Tenby Bay.
Ond i beth y paldaruaf? Os gall hon eu curo nhw
mi baentia i dros y cwbwl lot yn yr hyfryd Talwrn blue.
Iestyn Tyne 9.5
Y Gler
Ro'n i ar fin ymlacio, roedd diod yn fy llaw,
y marcio wedi bennu a gwynfyd jyst gerllaw,
pan grynodd fin fy llawes, a phingiodd sgrin y ffôn …
‘Addurna’r gacen heddiw. Sws sws. Cyn 5. C’mon.’
Anfynych y gofynnir fawr gennyf cyn dweud ‘paid’,
fy ngwraig nid ymddirieda fawr ynof heb fod rhaid,
a bwriais ati’n selog … ond, wir, ni wyddwn shwt,
ni fedrwn gofio yn fy myw beth ddiawl oedd oed y crwt.
Fe gofiwn iddo gael ei eni yn reit si诺r,
a gwyddwn na chyrhaeddodd hyd yma oedran g诺r,
ond rhwng y deupen eithaf roedd taro ar un rhif
fel codi owns benodol o dd诺r o ganol llif.
A chofiwn ganu’r pennill i'w ffrindiau lawer gwaith,
ond enwau neb ohonynt ni allwn gofio chwaith,
ac roedd eu holl benblwyddi fel eisteddfodau ddo’
i'w gilydd yn ymdoddi fel cytgan yn y co’.
Yn llesg a thrwm fy nghalon i'r siop yr es yn hwyr,
ond daeth achubiaeth, wele, yng nghanol eil y cwyr ...
a thrannoeth, dyma f’ateb i'r crwt a'i gwestiwn ffôl,
‘Wel, yn y siop, fy mhlentyn, nid oedd ond un ar ôl.’
Eurig Salisbury 9
7 Ateb llinell ar y pryd - ‘Rhwydd ydyw mewn breuddwydion’
Y Chwe Mil
‘Zoomio Mam o Ynys Môn
Rhwydd ydyw mewn breuddwydion’
Osian Owen 0.5
Y Gler
Rhwydd ydyw mewn breuddwydion
Wneud un well na'r llinell hon.
Eurig Salisbury
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Digwyddodd. Darfu.
Y Chwe Mil
Digwyddodd, darfu,
blwyddyn a deimlai fel blodyn menyn yn dechrau gwenu
wrth inni, bawb yn y t欧, gyfarfod yn y cyntedd
a’n goriadau’n oer mewn llaw.
Meddyliodd pawb am rywbeth i’w ddweud,
ceisio’n ofer gwpanu dwylo am bilipala o sylw,
rhyw frawddeg a grisialai’r amser a lifodd mor
feichus o fân rhwng bysedd bob un ohonom.
Bu yno gymaint o s诺n, unwaith; siarad rwtsh,
athronyddu dros botel neu bump, canu i gyfeiliant
Candelas a grygai yn y gornel,
a’r nos wastad yn chwerthin yn chwil o’n blaenau.
Fi roddodd y goriad ar y bwrdd yn gyntaf,
yn simsan fwriadus, a gwnaeth y lleill hefyd,
fesul un, gan gloi’r bennod gyfoethog o gwta,
fel tynnu blodyn menyn o’i wraidd.
Gareth Evans Jones 9.5
Y Gler
Twyllodrus yw tonnau.
Nes eu bod yn nesáu at y tir
wnân nhw ddim cymryd eu ffurf cyfarwydd:
ochneidio’n ewynog
a’u lli’n llawenhau.
Buost tithau hefyd ar gefnfor gobeithiol,
yn ymchwydd anweledig
heb fod yn ddigon hyd yn oed
i siglo cwch fel crud.
Ond roeddet ynof yn llawn,
yn bryder hallt, yn sibrwd ryw hud.
Gan mai twyllo wna’r tonnau
ni wnân nhw esgor weithiau ar ddim,
dim ond dod i’r lan cyn pryd
yn gwaedu’u gwymon cochddu
a’m gadael innau’n gragen wag;
dy lais yn dal i sisial o’m mewn
a neb yn clywed.
Osian Rhys Jones 10
9 Englyn yn cynnwys enw unrhyw fynydd
Y Chwe Mil
Yn annorfod o nerfus – yn y llwch
yn dal llaw yn betrus
a rhith Awst fel gwawr o thus
oren ar Fynydd Parys.
Osian Owen 8.5
Y Gler
Mae’r haul yn llym ar wely’r enwau oll,
A’r nant fu’n rhaeadru
Fel o lyn sy’n diflannu
I anwedd d诺r y Mynydd Du.
Hywel Griffiths 9.5
Cynigion ychwanegol
Down Gymry i gopa’r Dduallt – y Garn
Foel-goch, Bwlch y Ddwyallt
a down i Gallt y Wenallt
i ddweud pob enw, a’i ddallt.