Main content

Cerddi Rownd 1

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cyhoeddiad

Y Gwylliaid Cochion

Fy mwyn gyfeillion dewch ynghyd
cyhoeddaf ichi sc诺p
sy'n werth dim byd, ond spwc-i iawn -
mae'n anagram o C诺ps

Rhiain Bebb 8

Y C诺ps

Twitter 8 Ionawr 2021
Aeth hyn rhy bell o lawer iawn,
Trodd drydar yn FYTHEIRIO.
Ni'n sefyll ar egwyddor fawr.
Ni'n codi pais rôl piso.

Rocet Arwel Jones 8

Cynigion ychwanegol

Y gwanwyn ddaw i Fawddwy fwyn,
danteithion lond ein seler.
Gwahanol iawn i dîm y C诺ps,
bareli gwag sy’n Aber.

I feirdd y Talwrn mae’n dra hysbys-
o’r Foel daw Dafydd Morgan Lewis,
ond sleifia heibio Tegs a’i dr诺ps
er mwyn hob-nobio hi ‘da’r C诺ps.
Cyhoeddiad i'r sawl sy'n brin o ran amser:
Y C诺ps sydd yn ennill, o ddeg marc a hanner
GW.

Ar gerdded mae llygedyn – o obaith,
Awn heibio ein dychryn.
I’w wâl, cilio mae’r gelyn.
Ar ei hynt, daw haul ar fryn.. IBJ

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dal’

Y Gwylliaid Cochion

Dal wrth y wal mae William
a phwy 诺yr i be na pham?

Gwion Aeron 8.5

Y C诺ps

Pan dyr fy mad anwadal
Raffau’r cei, a wnei fy nal?

Huw Meirion Edwards 9

Cynigion ychwanegol

Cymer ofal dal yn dynn
a gwynnach fydd y gwanwyn.

Dal dy dir, cyn delo dydd
y drin, rhy hwyr fydd drennydd.

Rwy'n dal i flasu'r halen
o'r brad ar y briwiau hen.
Rwy'n dal wrth log cyfalaf
holl oriau hir llawer haf. DPJ

Rwy’n dal I glywed alaw
Yn wylo o hyd yn y glaw.DPJ

Mae'n dileit mewn dal ati
hefyd yn ynfyd i ni.GW

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe drefnwyd cyfarfod i drafod’

Y Gwylliaid Cochion

Fe drefnwyd cyfarfod i drafod
os dylem gyd-drefnu cyfarfod
i drafod os 欧m- ni
am lunio ‘committee’
i drafod ai cwrdd sy’n anorfod.

Alun Jones 8.5

Y C诺ps

Fe drefnwyd cyfarfod i drafod
Pa limrig i'w ddewis. Bu diwrnod
o ddadlau reit big
ond hwn ddaeth i'r brig
sef cynnig yr Is-bwyllgor Smaldod.

Geraint Williams 8.5

Cynigion ychwanegol

Un bore wrth gyfri ei bysgod
mi gwympodd rees mogg i bwll siarcod
“Help! Help! Rwyf yn boddi!”
a weiddodd y penci;
Fe drefnwyd cyfarfod i drafod.

Fe drefnwyd cyfarfod I drafod
I drefnu I drafod cyfarfod,
Cynigiwyd ac eiliwyd,
Yn wir penderfynwyd.
Aildrefnwyd. Fe gollwyd y cofnod.

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Partneriaeth

Y Gwylliaid Cochion

Elfyn Evans a’i Yaris

Yn ei sedd mae’r Evans iau'n
troedio drwy'r un troadau,
yn barod i dro'i beiriant,
lledu, ar sgiw, ‘mhell dros gant
drwy’r naid oer a’i war yn dynn.
A’i ordors? Dawnsio’r sbardun,
dal nôl, cusanu’r olwyn.
Drwy’r gwyll heb ffrewyll na ffrwyn,
eu dabio uwch y dibyn.
Ei ddawn yw troi’r ddau yn un;
o rali i rali drwy hynt
eu diwrnodau ‘run ydynt.

Tegwyn Pugh Jones 9.5

Y C诺ps

Cywydd yn ateb cais gan saer maen y pentre am help llaw efo’r arysgrifau Cymraeg ar gerrig beddi

Hawdd yw troi’n addewid triw
Dy wahoddiad di heddiw.
Hardda faen, rhoddaf innau
I’w serio’n ddwys air neu ddau.
O barhad y garreg brudd
Saernïa gysur newydd,
Cymer inc o ’meiro i
A’i estyn yn aur drosti.
Ymrwymo ar yr amod
Hwn yr wyf tra bwyf, sef bod
I minnau’n rhodd mewn maen rhad
Yng nghost angau ostyngiad.

Huw Meirion Edwards 9.5

5 Pennill ymson mewn canolfan arddio

Y Gwylliaid Cochion

Artemisia Abrotanum,
ger border bach wyf i
a boenwyd gan y Taraxacum
i ffeindio Lavotrî.

Ifan Bryn Du 8

Y C诺ps

Mae gennyf enaid tyner,
pruddglwyfus, megis Bardd.
I ba beth y’m
tynghedwyd
I fod yn gorrach gardd?

Geraint Williams 8

Cynigion ychwanegol

O Dad, rho imi gyngor doeth
Wrth ddewis fy mhlanhigion,
Nac arwain fi at hadau chwyn
Fel gardd fy nghyn-gymdogion;
Deled dy nerth drwy ddirgel ffyrdd
I gochi pob dim cochion,
Ac er mwyn lliwio blodau'r haf
Rho haul, a rho dy dendron. Amen

Ga'i wenyn gwneud a blodau smal
Di brandio'n Percy Thrower.
Ga'i acer dda o laswellt ffug
A chlamp o ride-on mower.

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Y Rota

Y Gwylliaid Cochion

Nid pob babi ddymuna gael mensh gan Al Huws-
jest “un Cymro bach arall”; a beth yw yr iws
bod ond un enw eto ar rôl
“Cân y Babis” - pwy a sych ei ben ôl?!
Ond dyna yw’r drefn, felly fel yna mae’i fod-
os wyt wedi dy eni – ‘ti’n haeddu pob clod.

Cei dy roi mewn meithrinfa fel miloedd o’th flaen
(mae cael plantos bach gartref yn ufflon o straen!)
a chyn iti wybod rhaid codi dy bac
a throi am y coleg, cael swydd, wedyn sac
am beidio byhafio a dilyn y drefn,
cans fel yna y bu hi drachefn a thrachefn.

Efallai cei gymar a theulu ac ati
ond un peth sy’n sicr cyn gyrhaeddi di’r “fifty”
mi fyddi di’n nacyrd ac angen ymddeol,
a thoc rhaid it farw - cans dyna yw’r rheol.
Os gafr ei i uffern, os dafad i’r Ne’,
cyn daw babi bach arall i gymryd dy le.

Nid pob babi ddymuna gael mensh gan Al Huws...

Alun Jones 8

Y C诺ps

“Rhaid codi’n fflat-pac,” meddai’r Pennaeth un pnawn,
“Mae’n hen bryd ymadael am byth â Waun Mawn”.

Roedd ceisio lle arall yn iawn am wn i,
Ond pam dod a’r Cerrig a’r daith efo ni?

A dwi’n rhan o’r rota, er yn wan a di-fudd,
Yn ymrowlio y diawled am ran o bob dydd.

Amesbury yw’r nod! Lle pell o bob man,
Ac mae’n synnwyr cyfeiriad ni’n hynod o wan.

Collasom ein ffordd a landio ym Mawddwy,
Lle roedd ‘na drigolion gwyllt ac ofnadwy.
Bu Waldio go galed cyn bod Oes yr Harn
Yn handi ofnadwy mewn annibyniaeth barn.

Ond mae misoedd o lusgo y sled efo’i chargo,
Erbyn hyn mae’n rhaid dweud yn fy ngyrru yn wallgo.

Mae’r Hafren o’n blaen ,nid wyf am ei chroesi,
Ni allaf nofio, rwy’n reit si诺r o foddi.

Rhof naw wfft i’r rota a’r sôn am wlad well,
Mae dau gae yn Wiltshire yn llawer rhy bell.

Nid yw y byd newydd addewir ond ffug,
Af yn ôl i’r Preseli a’r gelaets a’r grug.

Dafydd Morgan Lewis 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd : Anodd iawn y dyddiau hyn

Y Gwylliaid Cochion

Anodd iawn y dyddiau hyn
yw gwylio campau’r gelyn

Gwion Aeron 0.5

Y C诺ps

Anodd iawn y dyddiau hyn
Mynd yng nghar Mistar Mostyn

Geraint Williams 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cyfrif neu Cyfrifon

Y Gwylliaid Cochion

Drwy Groe fe ddaeth y tasgau'n ôl y drefn
a’r criw’n cyfarfod yma ‘ngwres y sgrin,
ond oerach tân o bell na'r 'stafell gefn.

A ninnau heb ein bardd daw'r tîm drachefn
ynghyd i baratoi a chwilio'r min
i naddu cerdd na ddaw ond wysg ei chefn.

Rwyf i'n dreuliedig megis carreg lefn
yn hercio'r mydr dros fy ngeiriau crin
heb lygaid un oedd yma'i gadw trefn.

Mae'n anodd creu heb glydwch byrddau pîn
y Red a hithau'n mwytho'i gwydraid gwin.
Heno bu'r naddu'n flêr heb Mari'n gefn,
ond rhaid eu gyrru'n ôl - cans dyna'r drefn.

Tegwyn Pugh Jones 10

Y C诺ps

Mae hi’r union awr o’r dydd
i arllwys ystadegau yr achosion newydd
a’r marwolaethau.

Mae hi’n amser, felly, mynd am dro.

Rwy’n adnabod siapiau, ystum, bellach.
Ni allaf dreiddio hwnt i fur y masgiau
lle gall dagrau gronni mewn dyfnderoedd du.

Fe welais hwn, sy’n astudio’i gysgod prin,
droeon erbyn hyn; a dwi’n siwr
mai hon yw’r unig gôt a welais ganddo.

A hon, a’i thri o blant, yn ceisio prysur
gerdded tir y ffin rhwng chwerthin pram
a chrïo; a chrib o wynt yn wefr
drwy walltiau blêr.

Mae sibrydion cyffyrddiadau’r ddau
sy’n rhannu mainc fan hyn
yn ynys beryglus o normal.

Mae’n amser cinio.

Dafydd John Pritchard 9.5

9 Englyn: Anifail Anwes


Y Gwylliaid Cochion

Bwyta’r rhaff a wnei bob tro i ryddid
er iddynt dy fwydo;
mynnu ffynnu, mynd ar ffo
draw o’u hundeb di-wrando.

Gwion Aeron 10

Y C诺ps
Gelert sy’n gwmni gwylaidd – ac ufudd,
Mae’n gyfaill mor waraidd,
Ond dan siaced felfedaidd
Y blew, deil genynnau’r blaidd.
Iwan Bryn James 9

Cynigion ychwanegol

Huriais Stan am bris pur stiff, – y Bwda
O bwdl cynffonstiff,
Fy ngwas ciwt mewn siwt ... as if –
Y mistar oedd y mastiff.
Tawelwyd y rotweilar hwn, o bawb,
gan ryw bug bach, clyfar,
a byw mae’r ddeugi yn bâr
diofid, diedifar.

Dafydd John Pritchard

CYFANSWM MARCIAU

GWYLLIAID COCHION 71
Y C糯PS 70.5