Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn i Atgoffa
Aberhafren
Cyn dechrau rhoi brecwast i’r misus,
rhoi’r Zoom ’mlaen i ddelio â chreisus,
bytheirio a theipio
a miwtio a sobio,
paid eto anghofio dy drowsus.
Owain Rhys 8.5
Y Chwe Mil
Traed brain ar damaid o ddaleb
a’r neges mor
glymog o gwta.
Y geiriau’n gleisiau ar wyneb
y papur -
mor hawdd oedd ei gymryd
yn sbwriel.
Gareth Evans Jones 9
Cynigion ychwanegol
1. Sodro Gareth efo’r englyn ✔
2. Cân Ysgafn: Iestyn ✔
3. Trydargedd: Elis ✔
4. Osian Bonc mewn plastar paris
5. Dod o hyd i chweched aelod o’r tîm er mwyn cael mwy o ddewis
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘troi’
Aberhafren
Troi’n haws i’n ffrindiau triw ni
wna olwynion haelioni.
Llion Pryderi Roberts 9
Y Chwe Mil
Yn ara’ ar yr oriawr
tua’r haf rhaid troi yr awr
Caryl Bryn 9
Cynigion ychwanegol
Trwy’r nos ti’n troi a throsi
i ddadwneud ein breuddwyd ni.
Hen orthrwm go anorthrech
Troi o hyd nes taro rhech
Heddiw, wir, yr oeddech
Trwy ryw wyrth yn taro rhech.
Yn y Ffôr, tractor yn troi
Y ferlen mewn i forloi
Troi a throi a throi o hyd
Wna olwyn, fy anwylyd.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘O ydy, mae’n amser buddsoddi’
Aberhafren
’Sdim teigrod yn Sblot – chi ’di sylwi?
’Sdim pengwins ’na chwaith, ’na drueni.
’Sdim eliffant tyner
na meercat na phanther;
o ydy, mae’n amser buddsoddi.
Aron Pritchard 8
Y Chwe Mil
O ydy, mae'n amser buddsoddi
mewn bwthyn yn Sir Aberteifi;
er y sôn sydd gan rai
am y creisus ail dai
does na'm bai arna i - dwi o Bwllheli.
Iestyn Tyne 8
Cynigion ychwanegol
O ydy, mae’n amser buddsoddi,
a Boris, y tlotyn, am inni
roi’n hael at ei fflat;
caiff e’r awtocrat
a’i giwed top hat fynd i grafu.
Anffafriol i mi yw'r tafoli -
o ydy, mae'n amser buddsoddi
mewn Meuryn robotig
â chwaeth safonedig
sy'n ffafrio limrigau go giami.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Celfyddyd neu Celfyddydau
Aberhafren
Drudws Aber
I’r un awyr o’r newydd,
ger y don, lle gwyra’r dydd
i’w liw nos, chwyrlïo’n haid
reit ystwyth wna’r artistiaid,
twrw mawr o batrwm Å·nt,
stribedi’n strobio ydynt.
Rhwng yr heli a’r pier
eith hi’n sioe, a hwythau’n sêr
uwch y traeth mewn cylchau tro
yn selog, cyn noswylio’n
eu toreth, yn bleth o blu
niferus. Tan yfory.
Aron Pritchard 9.5
Y Chwe Mil
Dychmyga fod mewn ’stafall
ddu, ddu lle mae pawb yn ddall
a lliwiau ha’n ddim ond llwch
tu allan. Dim ond t’wllwch
di-ffenest yn ymestyn
fel nos, fel y nen ei hun.
Ond mae ’stafall arall, wen
’stafall glir, ’stafall glaerwen
i ni’n gynfas wag, enfawr,
i’w lliwio hi o’r to i’r llawr.
Mae ’stafall, ac mi alli
wthio’r ddôr, a’i hagor hi.
Osian Owen 10
Cynigion ychwanegol
Mae ’na oes sy’n goroesi
fy merch, mewn ogof i mi –
olion hen anifeiliaid,
olion bys lliw llus a llaid,
a dy bôs yw gweld o bell,
milenia ’mhob amlinell.
O’r archaeoleg, egin
oes o greu rhwng bys a sgrîn,
o fesur a defosiwn.
Creu wyt ti ar App cartŵn
yn ddeg oed, yn ddigidol,
newyddion oes na ddaw’n ôl.
5 Pennill ymson wrth agor cwpwrdd dillad
Aberhafren
Fe driais i weithio’n fy swyddfa
ond mae braidd yn rhy fychan i saith,
symudais i’r gegin, dilynon nhw fi
a sarnu sôs coch dros fy ngwaith;
symudais i wedyn i’r lolfa
a chynnal cyfarfod reit braf
tan ddaeth un o’r fintai i ddawnsio’n ei bants
fel petai hi yn ddiwrnod o haf;
o’r diwedd dw i wedi darganfod
rhyw guddfan rhwng trowsus a chrys
rhwng cotiau a sgertiau a sgarffiau a socs
i sgwennu rhyw ymson ar frys.
Mari George 8.5
Y Chwe Mil
Pennill Ymson: Cwpwrdd Dillad
A ŵyr y ferch fu’n magu’r shôl
na adawodd ei bysedd cignoeth eu hôl
ac a ŵyr y bachgen fu’n crudo’r esgid
nad oes arni ôl ei awydd am ryddid?
...ond gwaeth pwy biau’r cwpwrdd dillad
ceir twll pry’, gwaeth be, mewn dillad sidan.
Caryl Bryn 8
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Tynnu Enwau o’r Het
Aberhafren
Roedd Boris O! mor unig pan gollodd o ei Dom,
ar dân i brofi cysur ar ôl hen flwyddyn lom,
a chi bach oedd yr ateb, siriolodd Nymbar Ten,
anghofiwyd am bandemig, problemau’r Steddfod Gen,
pysgotwyr dyfroedd Dyfnaint, holl walltiau’r cyfnod clo,
y rhwyg rhwng gwledydd Prydain, a sgandal LlÅ·r Am Dro.
Bu Carrie am beth amser yn ei alw o yn ‘Ci’
(y mwngrel hynny ydy, nid Bozzo’i phartner hi)
gan nad oedd gan y Boris ’run syniad yn y byd
beth ddylai alw’r cr’adur; fe aeth trwy’r enwau i gyd –
gwleidyddion Fictorianaidd, hen arwyr yr iaith fain,
holl gymeriadau Shakespeare, cariadon ei hen nain,
athronwyr hanesyddol, rhai Groeg, ac ambell sant,
ond rhain ddefnyddiwyd eisioes i enwi rhai o’i blant.
Roedd Carrie’n anobeithio, a hithau yn ben set,
a dim un math o enw’n cael ei gynnig gan yr het.
Achubiaeth ddaeth o’r diwedd, a chafwyd enw tlws
trwy agor tudalennau, ar hap, eiriadur Bruce.
Mae Dilyn nawr yn trydar, wel dyna beth yw ci,
ac rydw i’n dilyn Dilyn, a Dilyn yn dilyn fi.
Owain Rhys 9
Y Chwe Mil
Naw mis a aeth heibio mewn dim o dro,
Naw mis o gicio, dadlau a ffraeo.
Naw mis o feddwl a phoeni -
O jyst bali analluogi!
A’r elfen anoddaf i ni
Oedd meddwl am enw’r babi.
Daeth syniad imi un pnawn:
Tynnu enwau o het a wnawn.
Dyna Tomos a Huw ac Osian,
A Nia, a Mari a Rhian,
Yn enwau cry’, digon o sioe,
Ond bob un yn teimlo fel enwau ‘ddoe’.
Be am Diz neu Miz neu Mackenzie?
Neu Shazza os mai hogan fydd hi?
Er yr awgrymiadau, doeth, i’m tyb i,
Rhwygo’r tameidiau o bapur wnaeth hi.
Ac yna, fe wagiwyd yr het.
Nid oedd ’run enw bellach yn net.
Dienw fydd y bychan neu’r fechan o fri.
Dienw fydd yr un a wna ni’n dau yn dri.
Gareth Evans Jones 8.5
7. Llinell ar y pryd
Aberhafren
Ar frigyn mae deryn du
a gwanwyn yn ei ganu.
Aron Pritchard
Y Chwe Mil
Ar frigyn mae deryn du
Ceri Wyn sydd yn crynnu
Osian Owen 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cerdded
Aberhafren
Ni fynnwn fynd yn bell heb dywydd braf
o’r blaen, doedd ’sgidiau gwlyb ddim at fy nant,
a’r byd yn llawer tecach ganol haf
pan fyddai dŵr yn glir mewn pwll a nant,
yr heulwen ar ei gorwedd yn y coed,
yn troi pob cwyn yn wên, pob crawc yn gân,
a’m byd yn mynd o’m blaen yn ysgafn droed,
yn gadael dim o’i ôl ond llwybr glân.
Ond nawr, rwy’n deall braint cael mynd am dro
i ganol cae pan fydd hi’n bwrw glaw
a rhydio mwd a chorsydd gwlyb y fro,
arogli storm ar ddail a blasu baw,
byseddu gwe plentyndod rhwng y drain
a dod o hyd i’r byd mewn brigau main.
Mari George 9.5
Y Chwe Mil
Aeth y pnawn â ni a’n gollwng ar draeth
lle nad oedd neb, neb i wadu na chadarnhau
y buom, ein bod. A chymerais yng nghledr
fy llaw gragen wen fel asgwrn migwrn sant;
cymerais olion dy draed a’u lapio’n dyner
dan fy nghôt, i gofio’r daith ddirybudd;
cipiais dy lais o hafnau’r clogwyni,
a cheisiais, cyn dychwelyd at y gegin faith
a’r lolfa orflodeuog, ddwyn hen wybod y môr
o’r haul a’r halen yng nghraciau’r wefus;
dwyn ffydd pererin fod ynys o’n blaenau,
y deuai ein llestr i’r lan heb ei ddarnio
gan y don, ac y caem ni, cariad, godi
ein haddoldy’n gadarn ar y graig ddu.
Iestyn Tyne 10
9 Englyn: Rhestr
Aberhafren
Am bob brechiad siaradaf, – ar ei gownt
mynnu’r gân huotlaf;
di-nod yw’r cyfeiriad wnaf
at y tali tawelaf.
Llion Pryderi Roberts 9.5
Y Chwe Mil
(angladdau'r cyfnod clo; gorfod darparu rhestr o'r ychydig fynychwyr oherwydd y cyfyngiadau)
Ar riniog mwy, dyma'r hen gymêr mwyn,
y mêt, a'r ffrind tyner;
fory i'r llan aiff hanner
ei blant, gyda'r blodau blêr
Iestyn Tyne 9