Cerddi Rownd 1
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Cyhuddiad o Dwyll
Y Glêr
“Twyll yn Kansas, twyll yn Georgia,
A thwyll mawr ym Mhensylfania,
Twyll ym Maine ac Arizona …”
Twyll dy din di was, cer o’ma!
Hywel Griffiths 9
Crannog
Y brad yw ichi wadu y dinistr
o dan y gwyrddgalchu,
onid hardd yw’r tywod du
a holl hagrwch y llygru?
Philippa Gibson 8.5
Cynigion ychwanegol
Yn llinach y meddylwyr
O Plato i Caniwt
Mynn Trump fod ein rhifyddeg
Yn ffugio’i absoliwt.
Er cael gan y Meuryn naw o farcie
rwy’n si诺r yr aeth marc ar goll yn rhywle.
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw dalaith yn UDA
Y Glêr
Ai nes na’r pegynnau iâ
Yw ffwrnais Califfornia?
Osian Rhys Jones 9
Crannog
Hualau’r meistri milain
Sy’n Fississippi o sain.
John Rhys Evans 9
Cynigion Ychwanegol
Nid yr hen freuddwyd yw’r ha’
Yn ffwrnais Califfornia.
Brecwasta’n Nevada a fydd
Giniawa’n Efrog Newydd.ES
O Idaho i’r Deau
Yr un yw cownt y dwrn cau.
Y Cymry pur â’u dur da
Sylfaenodd Pennsylvania.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gen-i dan glo yn yr atig’
Y Glêr
Mae gen-i dan glo yn yr atig
Lawlyfrau ar sut i greu limrig,
Ond hyn fu’n reit glir
Ers amser go hir:
Mae’r allwedd, yn wir, yn guddiedig.
Hywel Griffiths 8
Crannog
Mae gen-i dan glo yn yr atig
Llond casged o lwch go arbennig
Na chafodd ei daenu
Ar lan afon Teifi
Ar ôl yr ewyllys siomedig.
Gillian Jones 8.5
Cynigion Ychwanegol
Mae gen-i dan glo yn yr atig
Un fwyell a dau otomatig,
A chofiwch chi, Ceri,
Fod gas gen i golli.
Dim ond gair, i gall, yn garedig.
Mae gen-i dan glo yn yr atig
Feirniadaeth lenyddol arbennig,
Canlyniad y Goron
Yn Steddfod Tregaron -
Fe fydd e'n gyhoeddiad dramatig.
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Milisia
Y Glêr
Ar un ochor o’r gorau
Yn nrama America mae,
Yn ôl rhai, oes, lawer un
Ffein iawn, a’r preiffion hynny’n
Warchodwyr ei hychydig
Rhag cynllwynion dyfnion dig,
Y rhai a 诺yr drwy’i air Ef
Na bu ddydd heb ddioddef,
Ac erioed eu baich o gred
A gariant yn agored.
Y lleill heno’n cwyno cur
Drwy fasgiau, sy’n derfysgwyr.
Eurig Salisbury 10
Crannog
Yes Cymru
O’r tir mudan y’u ganwyd,
o ddyfnder y llether llwyd.
Hyrddiadau sloganau’r gwynt
yw y denim amdanynt
yn y dre wrth gludo’r her
a’n hafonydd yw’r faner.
Er i briddyn glyn a glog
oedi yn rhy dawedog,
oni wyddai’r mynyddoedd
wrth wylio, heb leisio bloedd,
fod ychwaneg i’r neges
pan fo’r stryd yn dwedyd ‚Yes‘ ?
Idris Reynolds 10
5 Pennill ymson pengwin
Y Glêr
Dwn i’m ydw i’n coelio gant y cant,
ond clywais i fod adar o bant
yn bethau rhyfedd sy’n mynd mas
i hedfan yn yr awyr las.
Eurig Salisbury 8.5
Crannog
Yn Rhodfa Bro Amundsen
Ar riniog oer fy nrws
Roedd heddiw, Hywel Griffiths,
Un haid o goc-a t诺s.
Eirwyn Williams 9
Cynigion Ychwanegol
Mae’n sang-di- fang bob modedd
Heb le i bengwin orwedd;
Rwy’n meddwl mynd o’r De’n y man
A ffadlan lan i’r Gogledd.
Ar lawr yr iâ rwy’n llithrig,
i’r merched oll rwy’n ciwt,
a’r du a gwyn amdanaf
sy’n debyg iawn i siwt.
Mae’n syndod felly nad oes si
mai’r James Bond nesaf ydw i.
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Parti Nadolig y Gwaith
Y Glêr
Ar lawr y Ganolfan Gyflawni, yn Ionawr oer daeth stop,
i’r ceirw a’r corachod gael parti mawr tip-top.
Ie’n Ionawr, am nad oes amser yn Rhagfyr cyn y sioe.
Fel staff y Steddfod ddiwedd Awst, den ni’n haeddu awr o hoe.
Mae amser y warws yn cyfri, yn cael ei gyfri’n llawn.
Ni chaiff neb doriad toiled, na chinio na the pnawn.
Mae’ch wishlists oll yn hirfaith, nes pwyswch ‘Add to sleigh’,
a’ch ordors sy’n dod fewn yn drech na’n hymdrech ninnau, glei.
O warws i westy’r aethom, mewn jîns, nid ofarôls,
bî-leiniodd criw’r corachod at fwffe cîsh a sosej rôls.
A’r ceirw gwyllt a’u trwynau coch yn downio sawl JD,
Transporter, Sprinter, Transit yn feddw dwll cyn tri.
Achosodd corrach priod rhyw ffrwgwd wrth y bar
am sylw amhriodol wrth y temp o’r tîm HR.
Ni welodd neb erioed mo’r bòs, y meistr corn, y chef.
Mae’n Siôn i rai, i eraill Santa, a rhai’n ei alw’n Jeff …
Mae sôn ei fod o’r Lapdir, neu Lwcsemberg ddi-feth,
i effeithloni’n llwyr ei rwymedigaethau treth.
Doedd dim free-bar na phwdin, roedd y bwffe’n hollol sych.
Os biliwnydd yw “Siôn Corn”, mae’r boi yn ddiawl o sbrych.
Osian Rhys Jones 9
Crannog
Mi fûm yn gweini tymor flynyddoedd maith yn ôl
Yn ennill swllt a dimai at lyfrau y Town Hall.
A chefais un Nadolig, yn sgîl fy nhipyn swydd,
O brofi o’r digonedd a gerdd yn rhad a rhwydd.
A daw y gw欧s blynyddol, fel carden Dolig ffrind,
Am fod H.R. heb sylwi fy mod i wedi mynd.
Rwy’n mynd o ran dyletswydd heb nabod undyn byw
Er mwyn cael cyfle i gofio am eni Crist, fab Duw.
Af yno mewn gwisg ffansi i fod yn rhan o’r sbri
A rhag i neb fyth holi pwy gythraul ydw i.
Ond gan fod olion Covid yn dal yn rhemp drwy’r lle
Bu’r parti gwaith eleni fel popeth ar y we.
Mi fyddai braidd yn anodd i ddawnsio ar ben bwrdd
A sicrhau fod eraill yn cadw ddwylath ffwrdd.
Ond ni fu raid i’r clefyd gwtogi ar y sbort,
Roedd Cymru’n dal yn Ewrop a’i llynnoedd gwin a phort,
A’r deuoedd wrthi’n llogi stafelloedd cudd ar Teams
Er mwyn cael peth preifatrwydd i rannu’r Custard Creams.
Ac er im weled eisiau y mabolgampau ffôl,
O leiaf nid oedd problem i gyrraedd adre’n ôl.
Endaf Griffiths 9
7 – Llinell ar y pryd
Y Glêr 0.5
Hir yw'r daith ac ara' deg
O gam i gam at gemeg.
Crannog 0.5
Ara deg a hir yw’r daith
A’n hoesau mewn un noswaith.
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cyfaddawd
Y Glêr
Mi ddaethon nhw i ’ngweld rai dyddiau nôl.
Teulu yn tymheru’u tynerwch o’r lawnt,
yn stumio gwên a stemio sgwrs
trwy len o wydr anweddog
y stafell haul ar ddechrau Rhagfyr.
Yr wyres yn llunio g诺en ar y gwydr â’i bys.
Dyrchafwyd yr 诺yr o’r goets i ddangos ei fod yn prifio.
Mae rheolau’n fan hyn. Rheolau mynd yn h欧n.
Lle mae cof ar gerdded a dyfodol anghyffwrdd.
Heddiw eto ro’n i’n si诺r imi weld amlinell câr
yn codi llaw ar draws pelydrau isel y bore.
Estynnais fy maneg lawes i rwbio ffenest trwy’r ffenest.
Ond doedd neb yno. Ni welwn ond gardd wag
ac aderyn du yn genweira.
Osian Rhys Jones 9.5
Crannog
Fe wn yn iawn fod gwerth mewn golchi traed
dieithryn blin, a gwn fod hyn yn well
na’i fygwth gyda dryll a thywallt gwaed.
Fe wn fod dynion da yn gaeth mewn cell
a bod bywydau duon oll o bwys.
A gwn heb os mai trysor yw ein bro -
y dwylo parod, pob adnabod dwys,
a’r cwmwl tystion sydd yn llenwi’r co’.
Fe wn y gelli wadu hyn i gyd -
ni weli’r un olygfa a welaf i,
a gwn mai’r hyn a wyddost yn dy fyd
yw’r hyn sy’n llawn cyn wired, frawd, i ti.
A rhoddaf goel i ti a 诺yr mor glir
nad yw fy holl ddaliadau i yn wir?
Philippa Gibson 9
9 Englyn: Crud
Y Glêr
Pan wy’n teimlo siglo si hei lwli
awelon yn codi
yn wlyb hallt, mi lapia’ i
y cawodau’n flancedi.
Hywel Griffiths 8.5
Crannog
Mae’n dynged hwnt i ddwedyd,– yn hiraeth
i’w gario trwy’i bywyd
yn y fam a chawell fud
yn elor i’w hanwylyd.
Idris Reynolds 9