Cerddi Y Rownd Gyn-Derfynol
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb Swydd
Beirdd Myrddin
Yn eisiau, un ddaw’n ased – i gynnal
hen gân ei gymuned,
rhoi’r lôn i’r Ysgwrn ar led
a’i oriau’n ddrws agored.
Geraint Roberts 9
Y Chwe Mil
Datganiad ar damaid o daflen
a’r geiriau, ‘Profiad yn anghenrheidiol’,
yn gryd ar ei golwg.
Dwy lythyren yn unig
yw gwerth ei gradd.
Gareth Evans Jones 8.5
Cynigion ychwanegol
Dymunwn gyflogi uwch-gydlynydd
adnoddau corfforaethol
digidol cynorthwyol gyda
chyfrifoldebau gweinyddol dros dro.
(manylion yn y tweet nesaf).IT
Mae hwn yn gais llawn angerdd
i ddod o hyd i bencerdd
Dim Dafydd ap,
ond jest rhyw jap
all ’sgwennu gwell trydargerddOO
2 Cwpled caeth ar yr odl ‘ach’
Beirdd Myrddin
Eiddiledd y bysedd bach
yw’r afael na fu’i chryfach
Aled Evans 9
Y Chwe Mil
Mae amser yn troi’r geriach
yn berlau o bethau bach.
Osian Wyn Owen 9
Cynigion ychwanegol
Nid oes trysor rhagorach
na storïe’r bore bachAE
Er y loes a ddaw o’r lach,
o’r gair daw dolur garwach.AE
Bu oes yn hybu ei ach
a munud yn gwneud smonach.GR
At fy nant? Nid traws fantach:
bwlch hiriawnrhwngdauair bach.IT
Mae gennyf iaith amgenach;
yn iaith fawr gymhleth o fach.OO
Mae’r stafell yn frown bellach;
mae’r bîb ar y babi bach.OO
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Does dim wedi newid rhyw lawer’
Beirdd Myrddin
Bu’n ffasiwn gwneud pennill am ficer
yn galw â gweddw nos Wener
â’i ddwylo fe’n chwim,
mewn limrics di-ddim . . .
does dim wedi newid rhyw lawer.
Ann Lewis 8.5
Y Chwe Mil
Mi setlaf am wyth marc a hanner
(does gen i ddim gwell ar eich cyfer);
limrig ffraeth, chwim,
ni ddaw yn rhwydd im:
does dim wedi newid rhyw lawer.
Iestyn Tyne 8
Cynigion ychwanegol
Ni ruthrais i ddweud wrth y crwner
Am ddamwain fy ng诺r gyda phocer.
Mae’n sefyll yn stiff
O’i draed i’w midriff;
Does dim wedi newid rhyw lawer.AL
Er ennill y Lot’ri nos Wener,
does dim wedi newid rhyw lawer,
heblaw ‘mod i nawr
yn gyflogwr go fawr -
dwy forwyn, Y Meuryn a bwtler.AE
“Does dim wedi newid rhyw lawer,”
medd gyrrwr y trên teithio amser,
“er ei fod yn un clau
nid yw trên bore Iau
yn cyrraedd tan ddau ar ddydd Gwener.”AE
‘Sdim byd yn rhoi cymaint o bleser
 gwasgu fy hun mewn i rwber,
Dileir pob gwall
A mi’n hanner call,
Does dim wedi newid rhyw lawerAL
4 Cywydd (rhwng 12 ac 18 llinell): Hel neu Hela
Beirdd Myrddin
wrth weld y llun ‘Miraculous Draught of Fishes’ gan Raphael yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llundain. Gelwir y gyfres yma o luniau yn ‘Raphael cartoons’ a noddwyd gan y Pâb Leo X er mwyn llunio sawl tapestri i addurno’r Capel Sistine yn y Fatican. Bu farw Raphael yn 1520, pum can mlynedd yn ôl i’r llynedd yn 37 mlwydd oed.
Y mur hwn sy’n rhoi mawrhad
i’r olew ac i’r alwad
ar sgwaryn yr arlunydd,
Raphael, ei baent a’r ffydd;
cymwynas y cynfas cain
mor ufudd i ffrâm Rhufain.
Mae ei liw’n cau am y wledd,
a’r rhwydi a’u hygrededd
ger y lan yn gorlenwi;
d诺r y llyn, eneidiau’r lli,
llaw hen wyrth, a’r llawenhau
y cart诺n sy’n creu tonnau.
I’r awr fud daw s诺n tyrfâu
i oedi, ac adnodau
a rhwyfau y canrifoedd;
holi wyf yn nerth y floedd
ac yn llesgedd y weddi –
ai rhwyd wag yw fy nghred i?
Geraint Roberts 9.5
Y Chwe Mil
i Phillip Spencer
Ar rîl mae cyffro’r eiliad.
Mae’i wên yn wyllt. Mae mwynhad
gwaed oer yn ei lygaid o
ar rîl a’i lond o frolio.
Eiliad y golau’n pylu
wedi’w dal mewn gwyn a du;
un eiliad hir yn nhir neb
a danedd lond ei wyneb.
Ar y rîl mae’r dathlu, braidd
yn filain. Anifeilaidd.
Mor hir fu’r marw araf
ar rîl, yn s诺n chwerthin braf
ei falchder, sy’n fwy perig
na charw Mai’n chwarae mig.
Osian Wyn Owen 9.5
5 Parodi ar unrhyw bennill adnabyddus
Beirdd Myrddin
Fuoch chi yng Nghwm Alltcafan
Lle bu’r iaith yn oedi’n hir?
Lle mae prisiau tai y drytaf,
Naddo? Naddo wir?
Dewch da chi i Gwm Alltcafan
a chewch groeso gennyf i.
Yno mae’r olygfa orau
o jacwsi fy ail d欧.
Garmon Dyfri 8.5
Y Chwe Mil
Hen lol ydi unoli â’r gweddill
rhag i heddwch dorri!
Ewch, a llosgwch, holltwch hi!
Ewch i dynnu’i chadwynni.
Osian Wyn Owen 8
Cynigion ychwanegol
Wele rith fel ymyl rhod – o’n cwmpas,
campwaith dewin hynod,
hen linell bell nad yw’n bod
iesgob ma’r mariwana ma’n stwff da.
Si hei lwli ‘mabi
Mae’r llong yn mynd i ffwrdd
Si hei lwli ‘mabi
Mae’r capten ar y bwrdd.
Si hei lwli lwli lws
Be goblyn mae o’n da ar y bwrdd?
Si hei lwli ‘mabi
A phwy goblyn sy’n llywio’r llong?
6 Cân ysgafn: Cais Annisgwyl
Beirdd Myrddin
Daeth neges imi’n fore gan g’lomen hardd ei lliw
a deithiodd draw o Fosgo, ‘rôl stopio ym Mheriw.
Fe wisgai hon ushanka a sbectol dywyll ddu
ac awel gref o fodca yn codi hwnt o’i phlu.
O dan ei hadain gynnes roedd amlen sidan lefn
â’m henw arni’n gymen a sws mawr coch tu cefn.
Oddi mewn roedd geiriau mewn ffont sirilaidd oer
a dorrwyd mas o Pravda a’u sticio gyda phoer.
Ugain mil mewn bitcoin, cans dyna oedd y deal
petawn ni’n twlu’r ornest yn erbyn Y Chwe Mil.
Roedd syndicêt o Novg’rod bron colli’u celc i gyd
rôl dodi bet gynyddol ar bethau ‘sicra’r’ byd.
Y Dom i wenu’n hapus a galw BoJo’n fêt
Leanne a’r Barwn Tomos i drefnu mynd am ddêt.
Andrew RT Davies i gael job yn darllen niws,
Kissinger’n cymodi rhwng Gwynoro a Vaughan Hughes.
Un bet i’w digolledu oedd cais y g’lomen chwim -
fe ddes i benderfyniad - ond ni ddatgelaf ddim;
a thynged cyfoeth Rwsia a hynt y geiriau hyn
sydd bellach yn y fantol rhwng Duw a Cheri Wyn.
Aled Evans 8.5
Y Chwe Mil
Mi ges i gais annisgwyl, gan foi o Bethnal Green
i ’sgwennu cerdd am Gymru yn Saesneg mawr y Cwîn.
Mi ddwedais ‘Na’, i ddechrau, a hynny cyn i’r gent
ddatgelu’r ffi a dalai, sy’n werth chwe mis o rent.
Dydw i’n fawr o fardd, wir, ac mae’r Saesneg braidd yn crap
ond clywais fod Google Translate, bellach ’di troi yn app.
Soniais am y Preselley, Mole Dragon, Cannes Guvrwy, and Co.,
am Snowdon and her possie, Lynne E. Caddy, llefydd beaux
yng ngherddi y beirdd gorau (heb law am Ceri Wyn)
am foxes on the Sabbath, Come Ellen and Tree Ware Inn.
Am Morphith Like the Sun, to whom no one doth compare
Am Woodland Road, Kill Mary, a Mumbles-sur-la-mer
am Trouble in the Free House, a Lleyn at the end of day
am hen harvests dyddiau fu, am November and May.
Gwirionodd ar y gerdd, wir yr, a’r words in foreign speak,
a dwedodd, ‘You have inspired me, and I will come next week,
and I will buy a summer house, with nought in front of door,
but sunny Abberdarren, and it’s really rocky shore.’
Osian Wyn Owen 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd - Er fy mod ar fai, mi af
Beirdd Myrddin
‘Er fy mod ar fai, mi af’
o’r s诺n oesol drws nesaf.
Ann Lewis
Y Chwe Mil
Er fy mod ar fai, mi af
i daenu’r jam amdanaf.
Osian Wyn Owen 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Brith Gof
Beirdd Myrddin
Ymhell bell,
trwy’r llwch a’r gwyfynnod llesg,
cropiaf rhwng coesau coll corynnod
at silffoedd sy’n gwacáu.
Dewisaf deitl
ar feingefn fydd,
rhyw yfory,
yn garreg fedd fy mod,
gan bori cyhyd ag y caf
trwy’r tudalennau brau
cyn i’r cloriau gau.
Ac yno,
yn y geiriau,
yn orielau pob rhywle
fu’n rhywbeth i mi,
rwy’n dala’n dynn
yn sidan simsan un edefyn gwe
nes iddo 'ngollwng i.
Lowri Lloyd 10
Y Chwe Mil
Mae ynof, yn rhywle, yn berl bach croyw ar we pry’ cop,
yn dal i’w deimlo, o bell, fel egin ddannodd.
Caeaf fy llygaid, astudio’r perl yn fanylach.
Ystyriaf estyn bys a mentro’i gyffwrdd, ond mi wn
y chwalai’n ddim pe gwnawn; disgynnai hyd rudd heddiw,
a ddoe mor fyw â llef corn niwl.
Agoraf fy llygaid ac edrychaf ar y t欧,
yr eiddew yn siaced drwchus o’i gwmpas,
a’r to, bellach, yn fwrdd gwyddbwyll o beth.
Cofiaf fod yma, yn yr ardd yn chwarae,
yn teimlo’r tristwch yn brigo trwy’r muriau.
Cofiaf?
Ynteu straeon pobl eraill sy’n brigo?
Disgrifiadau o’r t欧, y teulu, y tawelwch?
Ond mae ynof, yn rhywle, dwi’n si诺r,
fel heulwen ar ganol cynhebrwng;
ddoe yn distaw gosi, yn siffrwd-o-bell,
fel gwyfyn dan gaead, neu fel atgof yn britho’n ddim.
Gareth Evans Jones 10
9 Englyn: Cardod
Beirdd Myrddin
Mam ifanc mewn sach gysgu ar Heol y Frenhines, Caerdydd
Rhof ddyfned â’m pocedi - yn fy hast
yn llaw’r fam, sy’ nghwmni
un llaw fach na allaf fi
â’m holl enaid mo’i llenwi.
Lowri Lloyd 10
Y Chwe Mil
(defnyddiodd tua 2.5 miliwn o bobl fanciau bwyd yn y DU yn 2020-21, dros 600,000 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol)
Mae min ar fy nghyfrinach - fiw i neb
fy nal, ond rhaid, bellach
ar anterth byd rhy grintach
daenu byw o duniau bach.
Iestyn Tyne 10
Cynigion ychwanegol
Dave Datblygu
Rhyw drysor hanner coron a gefaist
yn gyfoeth mor raslon,
yn dâl oes y genedl hon
am alaw ein hymylon.AE
Nyrs
Rhof fwy na chymeradwyaeth — i’r rhai
sydd ar reng achubiaeth:
curo fy nwylo ni wnaeth
go iawn yr un gwahaniaeth.