Main content

Cerddi Rownd 2

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Hybu Twristiaeth

Criw’r Ship

Mae croeso cynnes ichi
Ymweld â thir Eryri,
’Mond i chi gofio parcio’ch car
Mewn hangar ar Gilgwri.

Nici Beech 8.5

Caernarfon

pentre del ar lan y môr
dim twrw ar y stryd
welsh not spoken any more
dim bywyd
strydoedd mud
llonyddwch ar yr eurdraeth
Am braf
Hy! #BuTwristiaeth

Geraint Lovgreen 8

Cynigion ychwanegol

Gorllewin gwyllt mewn bwthyn clyd -
rhyw damaid bach o dramor!
Mae gennym fecws, tafarn, siop
ond does na’m un ar agor. MA

Ti ddim isio gwaith mewn ffatri,
ffarmio, bod yn entrepreneur...
Sa filwaith gwell i chdi neud gwlâu
a gweini ar Madam a Syr.SN

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘trin’

Criw’r Ship

Holaf, wrth drin a thrafod,
“Pwy 诺yr b’le daeth awen Pod?”

Sion Aled Owen 8.5

Caernarfon

Efengýl sy’n trin fy ngwallt
a Duw mae’n anystywallt.

Geraint Lovgreen 9

Cynigion ychwanegol

O drin geiriau’n berlau bach,
y gân ddaw’n em amgenach.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae hynny’n rhyw gysur o leia’

Criw’r Ship

Mae beirdd tîm Caernarfon yn hyll ia;
Amhosib deud pr’un ydy’r gwaetha’.
Ond diolch byth, eleni,
Sna’m rhaid eu wynebu.
Mae hynny’n rhyw gysur, o leia’.

Arwel Roberts 8.5

Caernarfon

Yn gaeth yn fy arch mewn amlosgfa
Dwi’n paratoi’n hun am y gwaetha’.
Mae’r llith yn aneglur
A’r organ yn segur –
Mae hynny’n rhyw gysur, o leia’...

Emlyn Gomer 8

Cynigion ychwanegol

Cael y lein wan o’r ffordd ar y dechra’.
Mae hynny’n rhyw gysur o leia’.
Gen i llinell arbennig
I gloi chwip o limrig,
Ond chwithig drybeilig ’di’r gynta’.

Mae’r meuryn yn gwbod o’r dechra’
Pa dîm gaiff y mwya’ o farcia’,
Ond ga’i wyth a dim gwaeth,
Efo stwff semi-ffraeth.
Mae hynny’n rhyw gysur o leia’

Casäodd bob un o’m nofela’,
Pob cerdd a phob cân a phob drama:
Ond carai ’nheipiadur
Ac ansawdd fy mhapur –
Mae hynny’n rhyw gysur, o leia..EG

Am rywbeth i neud dros y gaea
darllenais i lyfr Jeremeia.
O’n i’m yn ei licio
ond ’sdim wedi sdicio;
mae hynny’n rhyw gysur, o leia..GL

4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwesty

Criw’r Ship

Mae o’n hwyr. Rhaid mynd mewn awr!
Amdani amdo Ionawr
sy’n groen g诺ydd, yn ias drwyddi
dan garthen ei hangen hi.

Heb ei fwyth, ystrydeb fach
yw’r garet, rhad yw’r geriach;
o dani matres denau,
byr eu hyd yw’r llenni brau...
Hir yw’r saib, a’i phersawr sydd
yn banig ar obennydd.

Yna’r ‘clic’ a llacio’r clo’n
ei datod. Pa hyd eto?...

Annes Glyn 9.5

Caernarfon

(Ty’n Llan, Llandwrog)

Pa siâr? Ai’r sibrwd siarad?
Ai mwy na hyn? Ai’r mwynhad?
Ai gwich tynnu’r corcyn gwin?
Ai ager ffaniau’r gegin?
Ai gwawl y rhimyn golau
A geir wedi i’r llenni gau?
Ai’r hwyl oll? Ai’r drws ar led?
Ai mynwes y gymuned?
Mynnwch siâr, dewch â’ch arian,
Brysiwch, chwaraewch eich rhan;
Yn Ty’n Llan rhaid tynnu llwch
O’i far annwyl – Cyfrannwch!

Ifan Prys 9.5

5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes

Criw’r Ship

Enw bedydd cyffredin iawn
ar blant genhedlwyd yn y pnawn
wythnos Steddfod mewn lle bach tyn.
'Rhowch bob chwarae teg i Elsan Wyn.'

Sian Northey 9

Caernarfon

Clywsoch am X-Ray ym myd iechyd –
a ellid cael Covid-Ray? o, gechid.
Fydd o’m yn rhad, mi gostith fags, ia,
ond rôl gwario’n sgrins gawn ni dynnu’n masgia!
Si lwmp o belydryn, dim jaman, hwrê!
i bob co a phob bodan – Cofi Dre!

Geraint Lovgreen 9

Cynigion ychwanegol

Pwerus
Sefyllfa drist, yn wir un athrist,
ble mae d诺r yn llenwi’r ddyfrgist
ond er gwaethaf dyfal drio,
mae’r t欧 bach yn gwrthod fflyshioAR

6 Cân ysgafn i ddau lais (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Mastermind Cymru

Criw’r Ship

Mae doniau Criw’r Ship, ydyn, yn eang ac yn frith,
A dwi am dynnu sylw at rai yn hyn o lith.
Y fi ’di’r dalent leia’.”’Mond jyst?” O na, o bell –
Dwi’m ond yn gapten arnyn nhw i ’ngneud i deimlo’n well.

Sian, Annes, Manon, Nici, Siôn Aled – dyna dîm
Llaeth sgim ’di bois y Cofis. Yn fam’ma mae y crîm,
A hwnnw’n hufen deuryw, cynhwysol onidê,
Rhag ofn bod rhai yn ama’ bod ’na’m genod yn y dre.

Mae ceisio gwneud cyfiawnder â holl alluoedd rhein
Yn anodd ar y gora, anos fyth mewn ugain lein.
Ond dyma fi yn cychwyn – di’r rhestr ddim yn llawn –
Ac os ti byth yn dechra’, rhaid gorffen debyg iawn.

Dewiniaid ar drin geiriau, nofelwyr – oes wir, lot;
Cerflunio, a chyfieithu – translating, on the spot.
Pregethu, trefnu gwyliau – celfyddydol a rhai bwyd.
Mae un yn siarad iaith y nef, er bod hi’n dod o Glwyd.

Oes ’na Brifardd? Yn naturiol. Prif Lenor? Oes, bid si诺r.
Coronau a chadeiriau? Llifeirio wnânt fel d诺r.
Ac er mwyn bod yn destunol, ‘mysg yr anrhydeddau lu,
Pencampwr Mastermind Cymru. Ail Fardd y Gadair Ddu.

Arwel Roberts 9

Caernarfon

MASTERMIND CYMRU ETHOLIADOL

Mastermind Cymru Etholiadol – fersiwn lecsiwn o’r cwis clasurol;
Mastermind Cymru Etholiadol – prawf o Fî Bî Ec amhleidiol;

Croeso, gynulleidfa frwd i rifyn etholiadol
o’n cwis Cymraeg o safon gyda’i fformat hynod wreiddiol.
Dim Betsan Powys heno i chwarae rôl yr athro dosbarth:
gwaharddwyd hi am fod ei henw’r nesa peth i ranbarth.
Felly dyma fi, Bob Niwtral - dydw i ddim yn adnabyddus;
ond dwi’n lyfwr tîn eithafol, ac mae hynny’n plesio’r bosys – ffwrdd â ni!

Mastermind Cymru Etholiadol – rhaid yw ufuddhau i’r rheol;
Mastermind Cymru Etholiadol – dim tramgwyddo, dim dadleuol;

Enw? Wil Diduedd. Pwnc dewisol? Dim byd am bleidiau.
Wil Diduedd, mae’ch munud gron i brofi’ch hun yn dechrau...
...rwan. Pa blaid – o naci, rhoswch – fedrai’m gofyn hynna...
Pa etholaeth – Wei! Be sy? Etholaeth? O ia – damia...
Hwn ’ta – beth yw lliw banana? Melyn. Alla i’m derbyn.
Gwyrdd ’ta? Stopiwch enwi lliwiau ddyn, neu mi gawn ni i gyd ein herlyn!

Mastermind Cymru Etholiadol – tegwch i bob crinc anfoesol;
Mastermind Cymru Etholiadol – cyfartaledd i’r eithafol;

Reit – pa aelod o’r cynulliad (rhuo) – Mae hyn yn gachfa.
Pa Brif Weinidog (rhuo) – Ti’n anobeithiol – ymddiswydda!
Wiliam – ceisiwch fabwysiadu tôn sy’n chydig llai cwynfanllyd.
A gwrandwch arna i’n holi gyda pharch ac heb ymyrryd!
Ond ma’r funud bron ar ben a dwi’m ’di ateb cwestiwn!
Ac mae hynny’n gweithio’n berffaith tuag at gynyddu’r tensiwn – ar

Mastermind Cymru Etholiadol – chwara mewn i ddwylo’r diafol;
Mastermind Cymru Etholiadol – ffars ar raddfa ddiwydiannol;

Beth yw – dwedwch bîp Wil. Bîp. Orffennai’r cwestiwn. Pasio.
S’na’m angen pwdu. Ches i’m marc! Ond da iawn chi am drio...
Mi gwyna i wrth dy fosys, dallt – Peidiwch â thrafferthu, ylwch.
Mae nhw lot rhy brysur yn bod yn deg i chi dderbyn unrhyw degwch.
Derbyniwch, Wil, mai’r greal ydi peidio â thramgwyddo.
Ac os yw hynny ar draul dysg a sylwedd – pwy’n y byd sy’n malio?

Mastermind Cymru Etholiadol – paranoia corfforaethol;
Mastermind Cymru Etholiadol – rheoleiddio ein dyfodol;
Mastermind CymruEtholiadol

Emlyn Gomer – 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd : ‘Trwy’r iet fe ddaw yn eu tro’ neu ‘Trwy’r iet a ddaw yn eu tro’

Criw’r Ship

Trwy’r iet fe ddaw yn eu tro
dwristiaid i’w harestio.

Manon Awst 0.5

Caernarfon

Twristiaid haws eu trystio
trwy'r iet a ddaw yn eu tro

Ifan Prys 0.5

8 Cerdd yn y wers rydd (heb fod dro 18 llinell): Cip

Criw’r Ship

Weithiau a hithau’n lliwio
uncorn piws wrth fwrdd y gegin,
neu yn nyfnderoedd ei ffôn
dan luwch o Haribos,
dw i’n cael cip
ar ddynes ddeugain.
Gwraig a mam,
llawn gofalon a phrysurdeb, pryderon, pleserau, doniau,
ac ambell atgof niwlog.
Efallai bydd ganddi blat,
neu lun ohonof,
neu stori am Nain Fawr dros ginio Dolig,
dim mwy.
Ond mae hi yna, am ennyd, y ddynes ddeugain.
Mae’n ymddangos am hanner eiliad
fel Glas y Dorlan
– fflach o sicrwydd hardd
uwch llif y d诺r.

Sian Northey 10

Caernarfon

(er cof am Euryn Ogwen)

Nid darllen wna’r llygaid
sy’n sglefrio dros destun, fel rhiain y d诺r;
mi godant ambell air - ond ym mha iaith?

Beiddiodd hwn giledrych ar y machlud,
nes serio ei her dan amrannau tynn,
ac yna arlwyo gwledd o lais a llun
i’n cadw wrth fwrdd y Gymraeg,
gan agor rhaglen ar ôl rhaglen, fel torth ffres.

A gwelodd cyn neb, atynfa’r syllu
drwy dwll yn dy law ar fydoedd eraill,
a’u fflyrtian o’u ffenestri gwib
- a bod lle i’n byd ni yn eu plith.

A heddiw, mae llygaid ei gydwladwyr
yn hedfan fel cerrig, yn fwa o’r llaw,
yn adlamu lai a llai rhwng pob sgrin,
cyn suddo i’r dwfn. Nid darllen yw hyn -
ond bydd newid yn barhad, tra byddo’r Gymraeg,
a’i geiriau’n dal i dasgu…

Ifor ap Glyn 10

9 Englyn: Band

Criw’r Ship

(nosweithiau Llun G诺yl y Faenol gynt)

Hir yw’r rìff a’r tant yn frau dan y sêr,
gwres dawns wyllt yw’r cordiau;
heno ar ddisg, cân angerdd iau
haf y Faenol wyf finnau.

Annes Glyn 9

Caernarfon

(i Wyn a Rich Ail Symudiad, sydd wedi ein
diddanu ers dros ddeugain mlynedd)

Dau frawd yn difyrru’u hynt; y bysedd
ar y bas fel corwynt
a’r llais diymffrost drostynt
a’n gwna’n deulu cân fel cynt.

Ifor ap Glyn 9

CYFANSWM MARCIAU

CRIW’R SHIP 72.5
CAERNARFON 71.5