Cerddi Rownd 2
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Risait
Ffoaduriaid
Mi ddrysais yn lân, mi fush i'n rêl clown
wrth geisio gwneud cacen yp-seid-down;
y rysait Mericanaidd fesurai mewn 'cup'
ac rywsut mi lwyddais i wneud down-seid-yp.
Gethin Wyn Davies 8.5
Dros yr Aber
#RisaitCogydd15MisOed
Dros fest lân, rho fanana. Ar y llawr,
fflich i’r llwy a’r pasta.
Ar hyd dy wep rho’r da-da.
Un sws felys. A voilà.
Rhys Iorwerth 9
Cynigion ychwanegol
#RisaitRisotto
Rho nionyn mewn menyn. Mynna dy reis,
a’i droi. Ychwanega
y gwin a’r stoc ac yna
ar ei dop, rho gaws cry’, da.
#RisaitCaptenBirdseye
I ddu ffwrn rhowch fysedd ffish os ydych
yn sydyn â famish.
O’r hoff friwsionllyd rewffish
y daw i law bryd delísh..
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘heip’
Ffoaduriaid
Mae rhai wneith heip dros deipo:
rhyw garu’r iaith mewn i’r gro.
Llyr Gwyn Lewis 9
Dros yr Aber
Mwya’r heip i’m harwr i,
mwya’r siom yw’r wers imi.
Carwyn Eckley 9
Cynigion ychwanegol
Epil heipo heb blaypen:
I mi, mae hynny’n Amen.
Wylit waed bob dydd fel tad.
I’r rhai heipo rho i-pad.
Mawr yw’r heip pan mae’r Hopwood
yn rhydd yn y Neighbourhood.
Er yr heip, mae Iwan Rhys
yn drasig heb ei drowsus.
Er yr heip, dydi rapio
ond gweiddi cerddi o’r co’.
Pam yr heip am yr hippo?
Di-flew, a rhy dew ’di o.
Er heip gwich-rech, trech bob tro
yw’r rhai sy’n tawel ruo.
Wedi heip i’m cwpled i,
sylwais fod heipio’n sili.
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Wrth lacio, mae'n bwysig iawn cofio’
Ffoaduriaid
Wrth lacio, mae'n bwysig iawn cofio
y buddion o olchi eich dwylo
i'n cadw ni'n iach
r'么l bod yn t欧 bach;
hwyrach y gwna'i ddal i'w wneud-o.
Gethin Wyn Davies 8.5
Dros yr Aber 8.5
"Wrth lacio mae'n bwysig iawn cofio
ym mhle mae dy allwedd yn cuddio"
oedd cyngor gwybodus
ei dad tra gofalus.
Nid oedd Dafydd Dafis yn gwrando.
Iwan Rhys 8.5
Cynigion ychwanegol
Wrth lacio mae’n bwysig iawn cofio
yn union pa wlad ‘da chi’n trigo.
Mae ambell un cas
yn taeru’n ddu las
mai England yw Wales doed a ddelo.GO
Wrth lacio, mae’n bwysig iawn cofio
fod peswch yn dal i ffieiddio.
Cewch wneud, os oes rhaid
ond ddim yn ddi-baid
a tarwch rhyw rech fach i’w gwato.GE
Wrth lacio mae'n bwysig iawn cofio
y dylai un lacsatif weithio.
Os llynci di wyth
i'th lacio di lwyth,
bydd angen sawl pwyth i dy stopio.
Os datod a wnei dy shorts nofio,
wrth lacio, mae’n bwysig iawn cofio,
cyn plymio yn ôl
i’r pwll i wneud crôl
ar ffurf cannon ball... wel, gwell peidio.L
4 Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Coleg
Ffoaduriaid
(Ar 么l gweld dros Facebook bod ffrind coleg i mi wedi marw drwy hunan-laddiad.)
Oedd, mi roedd yr arwyddion
yno, si诺r. Dwi’n cofio s么n
o’r blaen am y rhuo bl锚r
hyd ei ffrwd; gweld 芒 phryder
brysiog nad oedd yr hogyn
a fu ddim cweit yn fo’i hun.
Rhan o ddoe rwan oedd o
i raddau...ond mi roedd-o
eto, di danfon ataf
un hel么, fel gwennol haf
ar grwydyr… rhy hwyr gwrido,
mod i heb ei ateb o.
Gruffudd Owen 10
Dros yr Aber
(Sgwrs gyda fy chwiorydd yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard)
Mae dau wyneb i’m dinas,
Y dre’ lwyd, a’r awyr las.
Ochor hewl fy nwy chwaer iau,
A’r fan lle crwydraf innau.
Ofni bod fy hunan bach
O dan sêr dinas oerach
Ni wnes ’rioed yn fy nos rydd.
Aros mae fy chwiorydd
Ar eu llwybyr, prysuro
Trwy wyll tua phen draw’r tro
Yn nhir neb. Mae’n rhan o’u nos,
Synhwyro’r hyn sy’n aros.
Carwyn Eckley 10
5 Pennill (rhwng 4 ac 8 llinell) sy’n bathu gair Cymraeg newydd neu’n cynnig diffiniad newydd o air Cymraeg sy’n bodoli eisoes
Ffoaduriaid
Roedd rhaid cael arch XL i Wil
Cyn iddo fynd i’r ffwrn
Ac er mwyn cynnwys yr holl lwch
Bydd angen creu ‘tal-wrn’.
Llyr Gwyn Lewis 9.5
Dros yr Aber
 chi, fe garwn rannu
gwirionedd nad yw'n wâr.
Mae beirdd go ffug sy'n prynu
eu cerddi o siop Spar.
O blith y pechaduriaid
ceir gwaith amlyca’r brid
gan dîm y Ffoaduriaid –
Sparddoniaeth oll i gyd.
Marged Tudur 9
Cynigion ychwanegol
Wps, mi GeriWyniais
fel na CheriWyniwyd rioed,
yn fwy nag y CeriWynasai
Ceri Wyn ei hun, hyd yn oed.
Ond os CeriWynio
waeth CeriWynio'n iawn
felly ymrôf i GeriWyndod
a CheriWyniaf drwy'r prynhawn.GD
I-wan: rhyw wich fach ddigyhyr.
Car-wyn: mor sgleiniog 芒 modur.
Y Rhys: mae fel crys, ond heb goler;
A’r Fargiad? Cerdd ddeg marc a hanner.LlGL
Gan fod Ffrancwyr yn enwog am alw
eu tatws yn ‘afal y tir’
am hwyl, galwn afal yn ‘taten-y-coed’.
Bu’n aeaf uffernol o hir. GE
Roedd gwneud fy ngwaith mewn slipers clyd
am dipyn yn ddymunol
a gyda’r nos, cawn sgwrs dros zoom
neu gwis neu barti rhithiol.
Ond nawr, rwy’n falch am bump o’r gloch
i allu cau y clawr.
Mae’n ddiflas byw mewn byd 2D.
Rwy’n dioddef ‘sgrinder’ mawr.GE
Mae gen i PhD neu ddau,
ond ti'n dal i nghwestiynu.
Ti'n deud y dylwn ddarllen llyfr,
ond fi sydd wedi'i sgwennu.
Ti sy'n arbenigwr
ar gythruddo drwy gywiro,
ond fi yw arbenigwraig
yr holl ddynion sy'n egw欧ro.
Gocheled y cofleidr,
a’i goflaid fawr fel siôl,
wrth lithro’i law fel neidr
i boced dy ben-ôl.
Iaduriadur – dyma'i ystyr:
llyfr o bob un cyfeiriadur
wnaed gan lafur meddwl dyn.
Ond mae cwestiwn sy'n fy mlino
am yr iaduriadur: ydi-o
yn cyfeirio ato'i hun?
Os oes blew yn tyfu'n gyson
O dy glustiau fel dail moron
Tocia dy glustlysiau'n trendi
Rhag cael chwilen yn dy ben di.
6 Cân ysgafn i ddau lais (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Gwrandawiad Disgyblu
Ffoaduriaid
Mae ‘gweithio yn hyblyg’ yn gweithio i rai,
ond rwyt ti Miss Evans, yn sicr ar fai
am fod yn anwadal, yn ddiog a blin.
O galw fi’n Mami, nid Miss er mwyn dyn!
Mae’n wyrth os y byddi di’n gwisgo cyn deg.
Dwi di dal ti’n y cwpwrdd yn stwffio dy geg
â 诺y pasg cyn brecwast, heb rannu run darn.
Mae’n fater difrifol. Mae’n fater o farn.
Ti’n dweud ‘mewn dau funud’ ond yn cymryd dwy awr.
Ti’m yn hwfro’r corneli, dim ond canol y llawr.
Mae angen rhoi gwynt yn olwynion fy meic.
Job Dadi yw honno. Mae Dadi ar streic.
Cawn waffles bob noson, da selsig neu wy
neu weithie, jyst waffles, ar blât gyda llwy.
Mae’n bwysig i fwyta yr enfys i gyd.
Fe weiniais i ham gyda’r waffles rhyw bryd.
Ti’n gwneud esgusodion yn y wers cadw’n ffit
Ti byth yn dweud ‘shwgwr’ na ‘ffor ffishcêcs’ na ‘twit’.
Dwi’n fam mor ofnadwy, yr ateb sy’n rhwydd...
fy anfon am wythnos hyfforddiant mewn swydd.
Gwennan Evans 9.5
Dros yr Aber
Mae wedi dod i’m sylw eich bod chi neithiwr, Now,
’Di bod yn dwyn bisgedi o’r cwpwrdd cefn. Bow wow.
Nawr, dwedwch, ’ych chi’n deall pam fy mod i braidd yn grac?
Bow wow. Reit-o. Bow wow-wow. Bow wow-wow. Awydd snac?!
Ond roedd hi’n amser cysgu Bow wow a chithau i fod
’Di setlo yn eich basged. Bow wow. Beth oedd yn bod?
Wyff wyff-wyff! Do fe? Wyff-wyff. Ond pam? Wyff wyff, wyff wyff.
Bow wow, bow wow, bow wow-wow! Oedd, mi oedd hi’n noson ryff.
Ond ’dyw hynny ddim yn esgus, a dwyn yw dwyn. Wyff wyff!
Efallai’n wir, ond eto... Bow wow-wow, wow. Wel tyff!
Sdim rhyfedd eich bod ben bore yn ymddwyn yn ddi-wardd
Ar frys i fynd tu allan i... Bow-wow ...yn yr ardd.
[yn grac] Grrrrrrrr rrrrrrrr! Does neb i’w feio ond chi eich hunan, Now.
A nawr does dim bisgedi ar ôl ’da chi. [yn drist] Bow wooooow!
[nâd gyffrous] Mhhh mhhh! Beth yw eich cyffro? Beth sydd o dan y sinc?
Bow wow! Tu ôl i’r winwns? Mhhh mhhh! Y twba pinc?
[S诺n ysgwyd twb bisgedi, dau guriad] rrrp rrrp Wel oes, mae rhagor o fisgedi yn y twb!
Ond yn gyntaf, i’ch disgyblu, fe rof i’ch bola rwb.
Mhhh mhhh! Rwy’n si诺r eich bod chi’n mwynhau’r disgyblu, Now,
A hynny bob un bore ers blwyddyn gron. Bow wow!
Iwan Rhys 9.5
7 Ateb llinell ar y pryd
Ffoaduriaid
Gwelais fardd yn yr ardd êl
Wedyn, dewisais adel.
Gwennan Evans
Dros yr Aber
Heb ei bans, ond â’i bensel,
gwelais fardd yn yr ardd êl.
Carwyn Eckley 0.5
8 Cerdd yn y wers rydd (heb fod dro 18 llinell): Tegan
Ffoaduriaid
Doli
Sibrydaist dy gyfrinachau i glust
dy ddoli fud, fel y barbwr â’r brwyn,
cyn fy nysgu sut i’w rhoi mewn crud.
Roedd dy fam newydd gael babi newydd,
babi go iawn.
Ti oedd y fam bob tro yn y t欧 bach twt,
a minnau’n chwarae’r tad, neu’r chwaer efallai.
Fues i rioed yn h欧n na thi,
achos chdi oedd yn gwybod sut i gael babi i dyfu.
Ond aros yr un maint wnaeth hi,
ta waeth faint o gyfrinachau fu’n ei bwydo.
Sawl cyfrinach sydd gen i nawr
na chei di fyth eu gwybod?
Mi rannaf pob un gyda’r hesg i ti gael tyfu’n h欧n.
Heddiw rwy’n troi’n ddau-ddeg-un,
ac rwyt tithau o dan y brwyn yn ddoli ugain oed.
Fues i rioed yn h欧n na thi, tan heddiw.
Llio Maddocks 9
Dros yr Aber
Dwi’n teimlo’i ddwrn ar handlen y drws
a dwi’n gwybod bod nos Wener arall
yn araf wthio’i dafod i geg y dydd,
a heno, yr un ydi graen y bwrdd
sy’n gwegian dan boteli a leitars
a’i benelin sy’n mygu ceg paced risla,
yr un ydi’r rheg wrth sgipio cân,
yr un straeon sy’n driblo rhwng y slyrpio
am gwsmer sy’n dal heb ei dalu,
am notifications sy’n clogio’i ffôn,
am y pwl mae o’n gwrthod ei alw’n freakdown.
Ac yndw, dwi’n ffysian eto
wrth i ’mysedd gropian at gledr ei law
cyn iddo’u brwsio o’r neilltu
fel mam yn chwipio dwylo’i phlentyn
o’r pot siwgr mewn caffi.
Marged Tudur 9.5
9 Englyn: Tabl
Ffoaduriaid
Y tabl cyfnodol
Mynnwn ddangos a gosod natur oll
mewn trefn; ninnau’n gwybod,
er didoli’r diwaelod
na ddown byth at wraidd ein bod.
Llyr Gwyn Lewis 10
Dros yr Aber
(cyfrif marwolaethau COVID-19 Cymru)
Aeth hi'n rhwydd codi sgwyddau ar y rhif
mewn rhes o ffigurau.
Ond ym mhob cymuned mae
rhai heno’n cofio’r enwau.
Rhys Iorwerth 10