|
|
Siopau llyfrau sy'n bleser
Dewis da yng Nghanada Dydd Iau, Hydref 19, 2000
|
gan Glyn Evans Yn un o siopau llyfrau Chapters ar gyrion Toronto, Canada, y mae dynes o fy mlaen trosglwyddo cryn hanner dwsin o lyfrau i'r ferch tu ôl i'r cownter a derbyn bwndel o arian yn ôl. Cefais ar ddeall ei bod yn rhan o bolisi'r siop lyfrau anferth hon i roi eu harian yn ôl i gwsmeriaid sy'n dychwelyd llyfrau nad ydyn nhw wedi eu mwynhau. Go brin y byddai hynny'n gweithio yng Nghymru er fy mod i wedi prynu digonedd o lyfrau nad wyf wedi cael y mwynhad a ddisgwyliwn oddi wrthynt. Coffi a llyfrau Yr oedd canghennau dwy siop lyfrau fawr Toronto - Chapters ac Indigo - yn rhai a wnaeth argraff ddofn arnaf yn ystod ymweliad diweddar - fel y gwnaeth siopau tebyg yn yr Unol Daleithiau. Yn gyntaf, maen nhw'n agored o oriau cynnar y bore tan yn hwyr y nos - deg o'r gloch ac wedyn, bob dydd o'r wythnos. Yn ganolog iddynt y mae caffi gyda dewis o bob math o goffis, diodydd a byrbrydau. Wedyn, rhwng y gwahanol silffoedd o lyfrau y mae digonedd o gadeiriau esmwyth y gall rhywun ymlacio ynddynt tra'n pori trwy lyfr. Mae rhai cwsmeriaid yn treulio y rhan orau o bnawn yn pori trwy lyfrau neu'n byseddu a darllen cylchgronau. Nid yw'n ymddangos bod unrhyw bwysau ar neb i brynu. Cysgu mewn cadair Tra'r oeddwn yno gryn deirawr un pnawn yr oedd cwsmer arall yn cysgu'n sownd yn ei gadair gydol yr amser. Pan gauoedd yr ysgolion llenwodd y lle gyda phobl ifanc rhai ohonynt yn sodro eu hunain wrth fyrddau i wneud gwaith ysgol a defnyddio'r siop fel llyfrgell. Mae'r awyrgylch yn ysgaf a golau. Mae nhw'n lleoedd gwaraidd. "Gyda rhai o'r plant yma, does yna neb adref i'w disgwyl o'r ysgol felly maen nhw'n dod yma i ladd amser nes bydd eu rhieni wedi noswylio o'u gwaith," eglurwyd imi. "Mae'n well na mynd adre i dy gwag." Ac yn filwaith gwell na chicio'u sodlau ar gorneli stryd. Awran gyda'r nos Hanner awr wedi saith o'r gloch un gyda'r nos yr oeddem ninnau yn brin o rywbeth i'w wneud. "Beth am bicio i Indigo am ryw awran?" awgrymwyd a ffwrdd a ni i grwydro rhwng y silffoedd a mwynhau sgwrs, coffi a myffin. Ar ben hynny, prynodd y tri ohonom lyfr yr un er nad oedd yn fwriad gan yr un ohonom i brynu dim pan gyrhaeddom - dim ond edrych. Beth bynnag, yr hyn a wnaeth argraff arnaf i oedd yr awyrgylch waraidd, braf - hefyd y cymorth oedd ar gael. Yn Indigo gall y cwsmer ddefnyddio un o nifer o gyfrifiaduron i gael gwybodaeth am lyfrau dim ond o roi enw awdur neu deitl neu eiriau allweddol i mewn. Ar amrantiad dywedir a yw ar y silffoedd neu allan o brint neu ar gael o'i archebu gan nodi faint o ddyddiau a gymer iddo gyrraedd. Mae'r siopau hyn yn rhai y mae'r Canadiaid eu hunain yn ymfalchio ynddynt a'r ddau gwmni yn rhai o'r wlad ei hun yn gwrthsefyll cyrch siopau tebyg o'r Unol Daleithiau dros y ffin. Angau i siopau bychain Ochr arall y geiniog yw i'r ddau gwmni mawr fod yn angau i nifer o siopau llyfrau llai - yn enwedig rhai sy'n gwerthu llyfrau arbenigol mwy cyfyng eu hapêl. "Y mae nifer o'r siopau hyn wedi gorfod cau. Fedran nhw ddim cystadlu - a'r drwg yw nad ydi pob un o'r llyfrau oeddan nhw,n eu gwerthu ar silffoedd y siopau mawr sydd â'u llygaid ar farchnad eangach." Mae hynny yn rhywbeth yr ydym ni yng ngwledydd Prydain yn gwybod yn iawn amdano. Diddordeb mewn llyfrau eang iawn eu hapêl yn unig yw diddordeb y siopau llyfrau mawr. Ewch i chwilio am lyfrau Cymraeg ynddyn nhw er enghraifft.
|
|