|
|
Gŵyl Dewi 2006
Hanes dathliadau Gŵyl Dewi Dyffryn Comox, Ynys Fancwfyr, gan Idris Rees Hughes.
|
Yr oedd dathliadau Gŵyl Dewi eleni nos Sadwrn Chwefror 25.
Wel dyna Swper Dydd Gŵyl Dewi drosodd am flwyddyn arall. Diolch i Gymdeithas Geltaidd Dyffryn Comox (Albanwyr y rhan fwyaf ohonynt) am gymryd Cymry 'r dyffryn dan eu hadain ac ymuno â ni i ddathlu.
A diolch i John Williams (o Lan Conwy gynt) cadeirydd y Gymdeithas am ei waith caled o'n plaid ni i sicrhau dipyn o sylw i Dewi Sant ar dramor draeth.
Wel wrth gwrs yr oedd y dathliad yn gynnar eleni ond beth wnewch chi a ninnau ar bigau'r drain i ddathlu bywyd ac esiampl ein nawdd sant.
Oedd, yr oedd dros gant ohonom wedi ymgynnull yn neuadd yr eglwys leol i falu a siarad ac i ganu a gwledda.
A beth am y bwyd? Oedd o'n dda.
Dyma gip olwg ar y meniw:
Cawl cenin
Salads o bob math
Cig eidion a phwdin swydd Efrog
Tatws mash a grefi
Llysiau cymysg
Bara/byns
Pwdin
Cystadleuaeth Pice ar y maen
Te a choffi
Diodydd o bob math.
Adloniant
Y tro yma buom yn ffodus i gael gafael ar Gwyneth Evans, telynores o Duncan ger Victoria i'n diddori gyda miwsig o Wlad y Gân ar y delyn a hefyd Nerys Haqq unawdydd o Vancouver a gyflwynodd tua hanner dwsin o ganeuon gwerin Cymreig inni.
Oedd fe roedd 'na ganu cynulleidfaol o fath: Hen Wlad fy Nhadau a Gwŷr Harlech a Chwn Rhondda.
Dewcs, mi ges i noson dda ac mi wnes i fwynhau fy hun hefyd. Gobeithio y cewch chwithau hefyd dipyn o hwyl wrth ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi pa le bynnag y b'och.
Hwyl fawr ichi o Ddyffryn Comox, Ynys Vancouver, Canada.
|
|