Pum mlynedd ar hugain yn ôl, ar Ebrill 12, 1980, fe gychwynnodd Terry Fox ar ei daith ar draws Canada. Hwn oedd y Marathon of Hope. Y mis hwn, mae Terry Fox yn y newyddion unwaith eto, fel y Canadiad cyntaf i ymddangos ar ddarn o arian mewn cylchrediad yng Nghanada.
Chwalu'r freuddwyd Ganwyd Terry Fox yn Winnipeg, Manitoba, ym 1958. Symudodd ei deulu yn gyntaf i Surrey, Vancouver, ym 1966 ac yna i Port Coquitlam ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Yr oedd yn hôff iawn o'r ysgol ac yn cymryd diddordeb mawr mewn athletau gan roi ei fryd ar fod yn athro ymarfer corff.
Ond ym1977 ac yntau'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Simon Fraser, daeth ei freuddwyd i ben oherwydd canser yr asgwrn.
Collodd Terry Fox ei goes, chwe modfedd uwchben ei benglin.
Ar ôl dod dros y llawdriniaeth a chael coes artiffisial penderfynodd redeg ar draws Canada er mwyn casglu arian ar gyfer pobl eraill yn dioddef o ganser.
Felly, ar Ebrill 12, 1980, dechreuodd ei Marathon of Hope gan gychwyn o St. John's, Newfoundland.
Ei obaith oedd casglu un doler gan bob Canadiad.
Trwy law ac eira, fe redodd Terry gymaint a 42 km / 26 milltir bob dydd.
Ond ar ôl 143 o ddiwrnodau, 5,373km/ (339 o filltiroedd) bu'n rhaid i'r gŵr ifanc dewr roi'r gorau i'r daith, gan fod y canser wedi ymledu i'w ysgyfaint.
Dewrder Terry Bu farw Terry Fox ar Fehefin 28, 1981 yn 22 oed. Oherwydd dewrder Terry Fox, llwyddodd y Marathon of Hope gyntaf i gasglu $24.17 miliwn tuag at ymchwil canser ac erbyn heddiw, mae $360 miliwn wedi ei gasglu o gwmpas y byd drwy'r Terry Fox Run flynyddol.
Bydd gwedd wahanol felly ar wyneb y Loonie, sef ein doler ni ac mae breuddwyd Terry Fox yn fyw o hyd.
"Dydw i ddim yn freuddwydiwr - ond yr ydw i'n credu mewn gwyrthiau. Rhaid imi," meddai.
|