Cefnogaeth ryngwladol i forfil
Idris Hughes o Ynys Vancouver, Canada, yn sôn am y digwyddiadau diweddaraf yn hanes Lwna yr Ocra
Mae Lwna yr Orca o Gold River, Ynys Fancwfyr, wedi dal sylw 29 o gymdeithasau amgylchedd rhyngwladol.
Mae'r cymdeithasau yn cefnogi cynllun y Cenhedloedd Cyntaf i arwain Lwna at ei deulu trwy gyfrwng ceufadau.
Nid yw'r DFO (Department of Fisheries and Oceans) yn cytuno a'u cynllun nhw ydi dal Lwna a'i gludo mewn tryc i dde'r Ynys ac yna ei ollwng yn rhydd pan ddaw 'pod' heibio.
Mae pobl yn sylweddoli erbyn hyn, os na dderbynnir Lwna gan ei deulu yna cyn belled ag y mae'r DFO yn y cwestiwn, mewn acwariwm y bydd yn diweddu ei oes. Hen syniad ffiaidd i'r mwyafrif ohonom.
Y dydd o'r blaen fe ddaliwyd Lwna gan y DFO a'i ddenu i mewn i gorlan ond fel yr oeddynt yn cau y rhwyd dros y fynedfa daeth yr holl bentref yn eu ceufadau i ganu i Tsu 'Xiit (Lwna) ar iddo ddychwelyd atynt hwy.
Yn eu plith roedd gweddw ac wyres Ambrose Maquinna yr hen bennaeth.
Dyma beth ddywed Briony Penn yn y Weekender: "Gwyliais yr Orca mawr yn torri ei ffordd rhwng cychod y DFO tuag at y ceufadau a'r cychod pysgota a oedd yn disgwyl amdano ben arall i'r bae. "Gyda'r hwyr, a'r haul yn machlud tu ôl i Yuquot, roedd y llynges fechan wedi dychwelyd Tsu 'Xiit yn ôl i fro ei hynafiaid.'
Ar hyn o bryd mae cynllun y DFO ar 'hold'. Pob lwc i Lwna. Pob lwc i'r Brodorion Cyntaf yn Gold River. A boed i synnwyr cyffredin gario'r dydd.