|
|
Y Cymry'n golffio
Idris Hughes o Ynys Vancouver, canada, yn sgrifennu am ornest golff y Cymry - lle cafodd o wobr am gamp annisgwyl:
|
Dydd Sadwrn Gorffennaf 3, 2004, cynhaliodd aelodau Cymdeithas Gymraeg Vancouver eu twrnamaint golff blynyddol.
Y tro hwn, a diolch am y trefniadau a wnaethpwyd gan Tec Roberts, penderfynwyd cynnal y twrnamaint yng nghlwb golff Poppy Estate, Aldergrove, heb fod nepell o dref Vancouver.
Yr oedd 27 o aelodau yn cymryd rhan a braf oedd clywed trefnydd y twrnamaint yn cyhoeddi'r achlysu'r ynghyd ag enwau'r chwaraewyr mewn Cymraeg glân gloyw.
Rhwng De a Gogledd Uchafbwynt y dydd oedd yr ornest rhwng y Gogs a'r Hwntws gyda phedwarawd yn cynrychioli y Gogledd a phedwarawd yn cynrychioli'r De.
Y tro hwn, y Gogs a gafodd y gorau ar y De. Ond chwarae teg, dros y blynyddoedd mae'r canlyniadau wedi bod yn weddol gyfartal.
Fy mraint i oedd bod yn weddol rhydd o gyfrifoldeb gwladgarol a mynd ati efo ugain arall o aelodau Cymdeithas Gymraeg Vancouver i fwynhau prynhawn perffaith o golff ac i waldio'r bêl fach i abergofiant.
Rhaid cyfaddef fod na chwaraewyr dawnus iawn yn ein plith; gan ganolbwyntio yn arbennig ar y merched. Mi fuasent yn berffaith abl i amddiffyn anrhydedd y De neu'r Gogledd unrhyw ddydd.
Chwaraewr golff tywydd têg ydw i - does 'na ddim dwywaith am hynny gan mai fi oedd yr unig un y pnawn godidog hwnnw i ddarganfod dau bwll, dau drap tywod a chodi peth wmbreth o dywyrch.
Gwobr i bawb! Ar ôl y miri a'r straffaglu daethom yn ôl i'r clwb i fwynhau pryd o fwyd blasus, gyda chwrw a gwin i dorri'r syched.
Cawsom siawns i ymgomio dros ergydion mawr y dydd, yr agosatrwydd at y twll, a'r 'twll mewn un' di-ddal y bydd yn rhaid disgwyl tan tro nesaf amdano!
Wrth gwrs, roedd 'na wobrwyo a llongyfarch - cwpanau a tharianau gloyw.
Yn wir, roedd rhywbeth i bawb; y gwych a'r gwantan a fy ngwobr i oedd potel o win o Ynys Sicily am mai fi oedd wedi trafeilio bella i'r ornest; yr holl ffordd o Ddyffryn Comox ar Ynys Fancwfyr. Ond coeliwch fi; mi fyddai'n barod am tro nesaf!
Yn y llun: O'r chwith i'r dde yn sefyll: Gwyn Evans, Cwmbach, o'r De. Bob Marsh, Abertawe, Rob Barclay, Casnewydd, Andrew Thomas, Wrecsam, Gwilym Evans, Nefyn, Tec Roberts, Llanrwst (Trefnydd) Chwith i'r dde yn eistedd: John Williams, Penmaenmawr a Dave Gilbert, Maerdy. Dydi Tim Williams, (Gogledd) ddim yn y llun.
|
|