|
|
Gŵyl Dewi 2005
Bu Idris Rees Hughes o Ddyffryn Comox, Ynys Fancwfyr, Canada, yn dathlu Gŵyl Dewi gyda chyfeillion o wledydd Celtaidd eraill
|
Fy mwriad oedd mynd i lawr i Victoria unwaith eto eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ond bu tro ar fy nghynlluniau.
Cefais alwad ffôn gan un o aelodau Cymdeithas Geltaidd Dyffryn Comox yn gofyn am help ac i gyfrannu ychydig o syniadau ynglŷn â dathlu Dydd Gwyl Dewi.
Ar wahân i John Williams,Glan Conwy, o'r Alban neu Iwerddon y daw y rhan fwyaf o aelodau y Gymdeithas Geltaidd fan hyn felly penderfynais ohirio fy ymweliad â Victoria a rhoi help llaw i John a gwneud rhywbeth bach dros Ddewi Sant a Chymru.
Fe ddaru ni ddathlu dydd Gwyl Dewi Sadwrn Chwefror 26 y tro hwn yn hytrach nag ar Fawrth 1 - y diwrnod traddodiadol.
Cawsom swper mawreddog yn Neuadd Eglwys Sant Ioan yn nhref Courtenay, Dyffryn Comox, gyda noson o adloniant yn dilyn.
Tyrfa dda a thua 87 o bobl wedi dod at ei gilydd i ddathlu'r ŵyl.
Amlwg i mi fod aelodau y Clwb Celtaidd wedi hen arfer a'r busnes o baratoi swper i ddathlu pob mathau o achlysuron gan gynnwys dydd Sant Andreas a'r prifardd Robert Burns.
Llwyddais i hudo tua dwsin o gyfeillion o dras Gymreig i'r noson arbennig ond mewn gwirionedd gwesteion oeddem ni yn pwyso ar garedigrwydd ein teulu Celtaidd o'r Alban ac Iwerddon.
Ond dewcs fe gawsom noson dda ac un yn llawn hwyl hefyd.
Yn rhyfedd iawn, y tro hwn ni'r Cymry gafodd yr her o fwyta'r genhinen a rhaid imi gyfaddef i nos Sadwrn Chwefror 26 fod yn noson hyfryd eithriadol i mi ac yn un o'r dathliadau Gŵyl Dewi mwyaf diddorol ers cantoedd imi brofi yr ochr hon i Fôr yr Iwerydd.
Gorchuddiwyd y neuadd a fflagiau y Ddraig Goch a thyweli lliwgar ar y muriau yn adlewyrchu pob math o bethau yn ymwneud â Chymru.
Ar y byrddau roedd llestrau o ddaffodils hardd a serfiets o liwiau Cymru.
Dyma ichi olwg ar y bwletin: Ar y dudalen flaen, Draig Goch fawr a'r geiriau: Clwb Celtaidd Dyffryn Comox. Swper Dydd Gwyl Dewi, Nawdd Sant Cymru Chwef.26ain 2005.
Tu mewn, paragraff byr yn egluro pwy oedd Dewi Sant ac wedyn: Y Meniw: Cawl cennin Salad Tatws mash Tatws rhost LlysiauBara Treiffl Cacennau Cymreig Te neu goffi Cwrw da i'r gwan-galon
A beth am yr adloniant? Wel dyma fo: Oh Canada. Hen Wlad Fy Nhadau Cwm Rhondda Côr Ceilidh:We'll Keep a Welcome
Y siaradwr gwadd oedd David Western: Llwyau Caru Cymraeg.
Côr: Eli Jenkins' Prayer ac Ar Hyd y Nos
Gŵr gwadd eto: Ron Webber, cyn Faer Courtenay yn sôn am ei ewythr, o Fro Goginan ger Aberystwyth. Enw Cyril a ddewiswyd fel enw ar adeilad newydd Maes Glanio Comox.
Bwyta'r Genhinen
Dawnswyr Ceilidh yn dawnsio: Cofi o'r dre a Dawns Croesi Drosodd.
Noson hyfryd iawn. Petaech yn gofyn imi a fyddwn yn mynd eto? Fy ateb fuasai: 'You bet!'
Idris Rees Hughes, Comox, Ynys Fancwfyr.
|
|