Mawrth 2006
Mae arweinydd y Cymry tramor yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd wedi beirniadu yn chwyrn y penderfyniad i wneud i ffwrdd a seremoni Cymru a'r Byd yn yr Ŵyl.
Mewn llythyr agored o'i gartref yn Vancouver, Canada, at Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol mae John O Pritchard yn erfyn am i'r seremoni gael ei hadfer.
Aelod blaenllaw Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle, treuliodd John O Pritchard y rhan fwyaf o'i fywyd yn gweithio ym myd addysg yng Nghanada lle mae'n aelod blaenllaw o gymdeithas Gymraeg gref yn Vancouver.
Ef ddewiswyd yn 'arweinydd' y Cymry tramor yn Eisteddfod Eryri y llynedd gan annerch o'r prif lwyfan yn ystod seremoni Cymru a'r Byd ar y dydd Iau.
Y seremoni hon, sy'n mynd yn ôl i 1948, yw'r un y penderfynodd Cyngor yr Eisteddfod, yn ei gyfarfod diwethaf, ei dileu.
Yn syth wedi cyhoeddi'r penderfyniad galwodd Mr Pritchard am i'r Cyngor newid ei feddwl gan gyhuddo aelodau'r Cyngor o fod heb "amgyffred" o bwysigrwydd y seremoni i Gymry oddi cartref.
Dirfawr siom Meddai yn ei lythyr sy'n cael ei gyhoeddi yn y rhifyn cyfredol o Yr Enfys, cylchgrawn Undeb Cymru a'r Byd:
"Gyda dirfawr siom a chalon drom y deallais na fydd croeso swyddogol i'r Cymry tramor yn Eisteddfodau'r dyfodol!
"Ofnaf nad oes gan aelodau'r Cyngor amgyffred pa mor angerddol bwysig yw'r seremoni groeso i ni Gymry oddi cartref.
"Bod ar lwyfan Yr Eisteddfod yn cael ein croesawu gan ein cyd Gymry yw uchafbwynt yr ŵyl i ni.
"Am y munudau emosiynol hyn y deisyfwn fwyaf yn ystod ein hymweliadau
â'r Eisteddfod.
"A oes posib edrych ar y dyfarniad eilwaith?" meddai
'Loes y diddymu' "Yn sicr hefyd, nid y Cymry tramor yn unig sydd yn dioddef loes y diddymu. Mae byddin o wirfoddolwyr yng Nghymru wedi cefnogi a hybu achos Undeb Cymru a'r Byd am bron i drigain mlynedd- ac yn enwedig felly sefydlwyr ac arweinyddion y mudiad.
"Mae amcanion y mudiad yr un heddiw ac ag oeddent yn y dechreuad: Cadw unigolion a chymdeithasau Cymreig drwy'r holl fyd mewn cyffyrddiad â'i gilydd ac â'r Famwlad - a chynnal cadwyn sefydlog rhyngddynt.
"Y seremoni croeso yw un o'r symbolau cryfaf yn y gadwyn hon.
"Ai dyma'r gair olaf?
"Fel Cymry Tramor, ymbiliwn yn daer am fywyd y seremoni croeso!!"
O'i anfodd Yn y cylchgrawn hefyd y mae cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd, Deiniol Wyn Price, Cymro Cymraeg o Birmingham, yn datgan mai penderfyniad y mae'r Undeb wedi gorfod ei dderbyn o'i anfodd yw un yr Eisteddfod Genedlaethol i ddileu'r seremoni.
Ond ychwanega y bydd yr Undeb yn gwneud popeth posibl - a hynny mewn cydweithrediad ag awdurdodau'r Eisteddfod - i sicrhau croeso teilwng i ymwelwyr o dramor ar y Maes yn Abertawe.
"Mae y Cymry hyn yn llysgenhadon brwd a gweithgar i Gymru yn eu gwahanol wledydd ac mae'n ddyletswydd arnom sicrhau croeso teilwng iddynt ar faes prif ddigwyddiad diwylliannol y genedl ac yr wyf yn falch o ddweud fod trafodaethau yn parhau rhwng yr Undeb â'r Eisteddfod i'r perwyl hwn," meddai.
|