Dadfyddino
Yn 1945, roedd tua 5 miliwn o ddynion a merched yn y lluoedd arfog. Roedd hi鈥檔 her dod 芒鈥檙 bobl yma鈥檔 么l i fywyd sifilaidd, a elwid yn 鈥榗ivvy street鈥.
Sut oedd dadfyddino yn gweithio?
Ernest Bevin oedd prif bensaer y cynllun, a dechreuodd chwe wythnos ar 么l i鈥檙 rhyfel ddod i ben. Daeth y cynllun i rym ar 18 Mehefin 1945. Dros y deunaw mis nesaf, cafodd 4.3 miliwn o ddynion a menywod eu rhyddhau o wasanaeth milwrol.
Roedd person茅l milwrol yn cael eu rhyddhau mewn trefn, yn seiliedig ar hyd eu gwasanaeth a鈥檜 hoedran. Roedd milwyr 芒 rolau allweddol a sgiliau allweddol fyddai o fudd i鈥檙 DU yn cael eu rhyddhau cyn eu hamser. Roedd nifer yn cael eu cythruddo oherwydd arafwch y broses o ryddhau, ac arweiniodd hynny at nifer o achosion disgyblu.
Roedd pobl yn wynebu amryw o broblemau wrth ddychwelyd i fywyd sifilaidd. Roedd nifer o gartrefi a llefydd gwaith wedi eu dinistrio, oedd yn golygu bod llawer o bobl yn cael problemau dod o hyd i waith neu setlo鈥檔 么l i fywyd teuluol normal. Roedd niferoedd yr ysgariadau yn uchel ar 么l y rhyfel, a phroseswyd dros 60,000 o geisiadau yn 1947.