91Èȱ¬

Adloniant poblogaiddAgweddau tuag at y theatr yng Nghymru a Lloegr

Roedd bywyd yn anodd i’r mwyafrif o bobl yn ystod oes Elisabeth. Roedd adloniant poblogaidd felly yn ffordd bwysig o ddianc rhag caledi bywyd. Beth oedd y mathau mwyaf poblogaidd o adloniant yn ystod oes Elisabeth?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Agweddau tuag at y theatr yng Nghymru a Lloegr

Roedd y twf ym mhoblogrwydd y theatr yn rhannu cymdeithas yn y trefi hynny lle roedd un neu fwy o theatrau. Roedd rhai yn mwynhau yr adloniant, tra roedd eraill yn ei wrthwynebu.

Roedd datblygiad y theatr yng Nghymru yn araf iawn, yn bennaf oherwydd prinder trefi mawr. Roedd y bonedd yng Nghymru yn parhau i noddi (cefnogi) mathau eraill o ddiwylliant fel barddoniaeth. Yng Nghymru, yr actorion crwydrol oedd y prif ffordd i fwynhau’r dramâu hyn mewn digwyddiadau o’r enw .

Roedd dramâu miragl a dramâu moes, fel Y Tri Brenin o Gwlen (The Three Kings from Cologne), yn cael eu perfformio’n Gymraeg, mewn theatrau a ffeiriau ar glôs tafarndai. Roedd cwmnïau gwadd hefyd yn perfformio’n Saesneg. Roedd cymeriadau Cymreig, oedd weithiau’n siarad Cymraeg, hefyd yn ymddangos mewn dramâu yn theatrau oes Elisabeth, ee Fluellen yn y ddrama Henry V gan William Shakespeare.

Adloniant da

Roedd nifer o bobl oes Elisabeth, gan gynnwys Elisabeth ei hun, yn mwynhau mynd i’r theatr, gan ei fod yn adloniant da, yn ddihangfa rhag bywyd bob dydd ac yn gyfle i gymdeithasu a chlywed y newyddion diweddaraf. Roedd nifer o uchelwyr yn mynd i’r theatr a daeth llwyfannu drama newydd yn ddigwyddiad cymdeithasol. Gwellodd ansawdd ac amrywiaeth y dramâu, ac arweiniodd hynny at ddatblygiad y theatr.

Gwrthwynebu’r theatr

Serch hynny, nid oedd y theatr yn boblogaidd gan bawb.

  • Roedd Piwritaniaid yn gwrthwynebu natur ddi-grefydd y dramâu, a allai arwain at arferion ac ymddygiad gwael. Roedden nhw’n credu bod y theatr yn cadw pobl draw o’r eglwys.
  • Teimlai arweinwyr crefyddol yng Nghymru, er enghraifft, fod gweithredoedd anfoesol ac iaith wael mewn dramâu yn bechadurus.
  • Roedd yr awdurdodau yn anhapus gan ei fod yn annog pobl i golli gwaith a diogi.
  • Teimlai’r awdurdodau hefyd fod y theatrau yn llefydd delfrydol i ladron a chardotwyr a bod theatrau yn llefydd lle gallai’r pla ac afiechydon heintus eraill ledaenu.

Er gwaetha’r gwrthwynebiad, roedd poblogrwydd y theatr yn parhau i dyfu ac yn lledaenu ymhellach i Gymru wrth i drefi ehangu o ran maint.