91Èȱ¬

Chwaraeon creulon

Un nodwedd o gymdeithas oes Elisabeth oedd mwynhau chwaraeon gwaedlyd, neu chwaraeon creulon. O’r chwaraeon mwyaf poblogaidd oedd baetio teirw, ymladd ceiliogod, a baetio eirth. Cafodd adeiladau pwrpasol fel ‘talwrn’ neu ‘Ardd Eirth’ eu hadeiladu er mwyn i gannoedd neu fwy o bobl allu gwylio. Byddai’r gwylwyr yn gamblo ar y canlyniad.

Roedd baetio teirw ac eirth yn debyg iawn. Byddai’r anifail yn cael ei gadwyno i bostyn yng nghanol yr ymryson a byddai’r cŵn yn ymosod arno. Byddai pobl yn gamblo ar ba gŵn fyddai’n goroesi hiraf neu a fyddai’r tarw neu’r arth yn marw. Roedd ymladd ceiliogod yn golygu dau geiliog yn ymosod ar ei gilydd. Unwaith eto, byddai pobl yn gamblo ar y canlyniad.

Roedd y mathau hyn o adloniant poblogaidd yn rhan o fywyd pob dydd oes Elisabeth yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig yn y trefi mwyaf.

A  plan of Bankside, London, showing  the River Thames, several streets and the location of the bull and bear baiting arenas.
Image caption,
Ymrysonau baetio teirw ac eirth, Bankside, Llundain 1560