91热爆

Agweddau tuag at gosbiAgweddau tuag at y gosb eithaf yn yr 20fed ganrif

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae鈥檙 hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Agweddau tuag at y gosb eithaf yn yr 20fed ganrif

Diddymwyd y gosb eithaf yn Neddf Llofruddiaeth (Diddymu鈥檙 Gosb Eithaf) 1965. Roedd y ddeddf hon yn ganlyniad i newid agwedd tuag at ddefnyddio鈥檙 gosb eithaf.

Dadleuon o blaid defnyddio鈥檙 gosb eithaf

  • Roedd rhai pobl yn ystyried bod y gosb eithaf yn rhag troseddau difrifol megis llofruddiaeth.
  • Ychydig iawn o bobl oedd yn cael eu dienyddio bob blwyddyn. Roedd pawb oedd yn cael eu dienyddio wedi cael eu canfod yn euog o lofruddiaeth.
  • Dim ond pum trosedd oedd yn droseddau eithaf - llofruddiaeth, teyrnfradwriaeth, m么r-ladrad treisgar, ysb茂o a llosgi storfa arfau neu iard dociau鈥檙 llynges. Dim ond pobl a ganfuwyd yn euog o gyflawni troseddau difrifol ellid eu dienyddio. Ar 么l 1957, dim ond llofruddiaeth oedd yn drosedd eithaf. Roedd hynny鈥檔 golygu, erbyn dechrau鈥檙 1960au, mai dim ond llofruddiaethau wedi'u cynllunio oedd yn arwain at ddienyddio.

Dadleuon yn erbyn defnyddio鈥檙 gosb eithaf

  • anghywir. Bu achosion amlwg o bobl yn cael eu dienyddio ac yna鈥檔 cael eu canfod yn ddieuog, megis Walter Rowland yn 1947 a Timothy Evans yn 1950.
  • Fe wnaeth achosion Derek Bentley, a oedd mewn cysylltiad gyda llofruddiaeth yn 1952, a Ruth Ellis, sef y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y DU, berswadio llawer y dylai鈥檙 gosb eithaf ddod i ben.
  • Er gwaetha鈥檙 gosb eithaf, roedd llofruddiaeth yn dal i ddigwydd. Nid oedd yn ymddangos bod y gosb eithaf yn atal llofruddiaethau.
  • Roedd pobl yn gynyddol yn ystyried bod y gosb eithaf yn farbaraidd ac anwar. Fe wnaeth nifer o wledydd eraill hefyd ddiddymu鈥檙 gosb eithaf.