Agweddau tuag at droseddwyr ifanc yn yr 20fed ac 21ain ganrif
Yn ystod canrifoedd blaenorol roedd troseddwyr ifanc yn cael eu trin yn yr un modd 芒 throseddwyr oedd yn oedolion. Ond dechreuodd yr agwedd honno newid yn yr 20fed ganrif, ac erbyn heddiw mae troseddwyr ifanc yn cael treialon gwahanol mewn llysoedd ieuenctid arbennig.
Nid yw pobl ifanc yn mynd i garchardai oedolion. Sefydlwyd Borstalau a Sefydliadau Troseddwyr Ifanc yn 1902 er mwyn delio 芒 phobl ifanc.
Ers 1909, mae pobl dan 18 oed wedi cael eu trin yn wahanol i oedolion, ac mae鈥檙 system cyfiawnder ieuenctid wedi datblygu ar wah芒n i鈥檙 system cyfiawnder troseddol i oedolion. Datblygodd hyn ochr yn ochr 芒 dealltwriaeth well o ddatblygiad yr ymennydd drwy ymchwil niwrowyddonol a seicolegol, ac ymarfer clinigol mewn seiciatreg a seicoleg.
Mae agweddau at oedran cyfrifoldeb troseddolYr oedran y gall person fod yn gyfrifol am ei weithredoedd. O dan yr oedran hwn ni all person sefyll ei brawf am drosedd gan nad yw鈥檔 gyfrifol am ei weithredoedd yn droseddol. wedi newid hefyd. Yn 1908 cyflwynwyd oedran cyfrifoldeb troseddol am y tro cyntaf, sef saith oed. Codwyd hynny i wyth oed, yna deg oed, ac yna i 14 oed yng nghanol yr 20fed ganrif. Yn 2017, yr oedran cyfrifoldeb troseddol oedd 10 oed.