91热爆

Agweddau tuag at gosbiDefnyddio carchardai i gosbi a diwygio 1800 - 1899

Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae鈥檙 hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?

Part of HanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Defnyddio carchardai i gosbi a diwygio yn y 19eg ganrif

Agweddau tuag at garchardai cyn y 19eg ganrif

Yn anaml iawn y defnyddiwyd carchardai yn y 16eg a鈥檙 17eg ganrif oherwydd ni ystyriwyd eu bod yn nac atal. Fe鈥檜 defnyddiwyd i ddal pobl cyn treial a chyn gweinyddu eu cosb corfforol neu鈥檙 gosb eithaf. Roedd yr amodau yn y carchardai yma yn wael.

Defnyddiwyd tai cywiro yn oes y Tuduriaid, ac ar brydiau fe鈥檜 gelwid yn . Roedden nhw鈥檔 ceisio diwygio cardotwyr parhaus, ac roedden nhw鈥檔 'cywiro' mamau dibriod. Roedd yno hefyd garchar ar gyfer pobl mewn dyled, ac roedd pobl yn aros yno nes yr oedden nhw wedi talu eu dyledion.

Yn ystod y cyfnod rhwng diwedd alltudio i America (1776) a dechrau alltudio i Awstralia (1787), llanwodd y carchardai. Roedden nhw hyd yn oed yn dechrau defnyddio fel carchardai. Roedd yr amodau ar y llongau carchar yn erchyll, ac roedd tua chwarter y carcharorion yn marw bob blwyddyn o ganlyniad i afiechydon neu drais.

Roedd carchardai鈥檙 18fed ganrif yn wael a dechreuodd nifer o bobl awgrymu y dylid diwygio鈥檙 carchardai. Yn 1777, cyhoeddodd John Howard adroddiad ar amodau carchardai o鈥檙 enw The State of Prisons in England and Wales. Ei brif arsylwadau oedd:

  • nid oedd carcharorion yn cael eu gwahanu yn 么l rhyw na math o drosedd
  • roedd nifer o garcharorion yn marw o salwch neu afiechydon
  • roedd ceidwaid carchardai yn aml yn llwgr
  • nid oedd digon o bobl yn cael eu cyflogi i sicrhau bod carchardai yn ddiogel
  • roedd nifer o garcharorion yn aros yn y carchar y tu hwnt i ddiwedd eu dedfrydau oherwydd nad oedden nhw鈥檔 gallu fforddio ffi ceidwad y carchar am eu rhyddhau

Roedd Howard yn argymell cadw carcharorion mewn celloedd ar eu pen eu hunain er mwyn atal pobl rhag cael dylanwad negyddol ar ei gilydd. Roedd e'n credu byddai hyn yn rhoi amser iddyn nhw feddwl am eu troseddau ac ymddygiad. Credai y gallai carchardai fod yn llefydd i ddiwygio troseddwyr. Roedd ei ymchwil a鈥檌 farn yn ddylanwad ar greu newid mewn agweddau tuag at swyddogaeth carchardai.

Dechreuodd diwygwyr carchardai eraill fynnu bod newidiadau鈥檔 digwydd er mwyn sicrhau eu bod yn fwy diogel a hylan. Dyluniodd G O Paul garchar newydd, yn seiliedig ar bedair egwyddor bwysig, sef diogelwch, iechyd, gwahanu a diwygio. Roedd yna lefydd ar wah芒n i garcharorion gwrywaidd a benywaidd, yn ogystal 芒 chapel ac ystafelloedd gweithio a iardiau ymarfer corff.

Agweddau鈥檙 19eg ganrif tuag at garchardai

Parhaodd y pwysau i ddiwygio carchardai diolch i Elizabeth Fry. Ymgyrchodd am well amodau i garcharorion benywaidd yng Ngharchar Newgate a threuliodd amser yn dysgu sgiliau i garcharorion.

Perswadiodd Fry lawer o bobl ar y pryd fod yr amodau yn y carchardai yn annynol ac yn anwaraidd. Roedd hyn yn taro tant gyda鈥檙 gymdeithas yn nechrau Oes Fictoria, ac fe wnaeth ei hymgyrch helpu i newid agweddau tuag at swyddogaeth carchardai a hawliau鈥檙 bobl oedd yn cael eu cadw ynddynt. Ymgyrchodd Elizabeth Fry hefyd dros hawliau a lles carcharorion a oedd yn cael eu halltudio.

Llun o Elizabeth Fry tu mewn i Garchar Newgate. Mae hi ar fin mynd drwy ddrws ac i mewn i ardal lle mae nifer o garcharorion yn rhannu cell.
Image caption,
Elizabeth Fry yn ymweld 芒 charcharorion yng Ngharchar Newgate, er mwyn darllen y Beibl iddyn nhw

Deddf Carchardai 1823

Arweiniodd y pwysau gan ddiwygwyr at y Ddeddf Carchardai a oedd yn nodi:

  • dylai carchardai fod yn fwy diogel
  • dylai ceidwaid carchardai gael cyflog
  • dylai carcharorion benywaidd gael eu gwahanu oddi wrth garcharorion gwrywaidd
  • dylai meddygon a Chaplaniaid ymweld 芒 charchardai
  • dylid ymdrechu i ddiwygio carcharorion

Roedd diwygwyr carchardai yn hyrwyddo'r gred y dylid cynllunio a rhedeg carchardai i ddiwygio carcharorion, a daeth hyn yn agwedd amlwg yn yr 19fed ganrif. Roedd pobl yn credu y gallai carcharorion gael eu diwygio drwy waith caled, myfyrio a chred Gristnogol yn y carchardai. Roedd carchardai鈥檔 dod i gael eu hystyried fwyfwy fel llefydd lle gellid diwygio pobl.