Y defnydd o alltudio yn y 18fed a鈥檙 19eg ganrif
Mae alltudio, neu drawsgludo, yn golygu anfon rhywun o鈥檙 wlad a dechreuwyd alltudio fel math o gosb yn ystod y 18fed ganrif.
Roedd trawsgludo yn ddewis arall i鈥檙 gosb eithaf. Yn ystod cyfnod y Cod GwaedlydYr enw a roddwyd ar system gyfreithiol Prydain yn ystod y 18fed ganrif oherwydd bod nifer o鈥檙 troseddau yn droseddau鈥檙 gosb eithaf., roedd barnwyr eisiau cosb llai llym na鈥檙 gosb eithaf. Ystyriwyd bod alltudio yn gosb dda oherwydd bod y troseddwr yn cael ei anfon o鈥檙 wlad, a felly fyddai methu cyflawni mwy o droseddau.
Roedd alltudiaeth yn rhatach na charcharu, a bu hynny鈥檔 gymorth hefyd i Brydain ennill rheolaeth o Awstralia, i drin y tir ac i鈥檞 gwladychu. Cyn i Gapten Cook ddarganfod Awstralia yn 1770, roedd carchardai a llongau carchar yn orlawn iawn. Rhwng 1787 ac 1867, cafodd 160,000 o droseddwyr eu trawsgludo i Awstralia.
Nid oedd alltudio yn gosb garedig oherwydd roedden nhw鈥檔 ddedfrydau o saith neu 14 blynedd, neu am oes. Roedd yr amodau ar y daith ac ar 么l cyrraedd yn llym. Roedd yr awdurdodau鈥檔 dal i obeithio y byddai alltudio鈥檔 atal pobl rhag troseddu, ond hefyd byddai cyfle iddynt gael eu diwygio gan y gwaith caled. Mae hyn yn dangos newid mawr yn yr agweddau o gymharu 芒 dienyddio.
Daeth trawsgludo i ben fel math o gosb yn 1868. Roedd agweddau yn newid yn gynyddol ac ystyriwyd y dylai cosb diwygioGwneud newidiadau i rywbeth neu rywun, er mwyn ei wella. ac ailgymhwysoAdfer rhywun i fywyd normal. Gwneud rhywun yn well, neu i gael rhywun i wella o rywbeth. troseddwr yn hytrach na鈥檜 halltudio. Ystyriwyd bod anfon troseddwyr i Awstralia yn annheg oherwydd bod nifer cynyddol o bobl o Brydain yn talu i ymfudo yno i ddechrau bywyd newydd. Roedd y setlwyr rhydd yn Awstralia yn gynyddol anniddig bod miloedd o droseddwyr yn cael eu hanfon atyn nhw.