Rownd 1 Tir Iarll v Derwyddon
Rownd 1 Tir Iarll v Derwyddon.
Trydargerdd: Gair o Groeso
Eira nad oes mo’i oerach ddaw o hyd,
ond doist ddoe yn wynach
allan i fyd sydd bellach
mor ddyrys, fy eirlys fach.
Tudur Dylan - 9 pwynt.
Haia Don, fi ‘di Daniel ,go to guy Y Ty Gwyn mewn rhyfel. Ie’r coch yw’r un i’w ochel, ar y pen chwith o’r panel.
Gwynant Hughes - 8 pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys ‘da’ a ‘drwg’
Yn wastadol i'r golwg
Daw'r da ar waith wedi'r drwg.
Gwynfor Dafydd - 8 pwynt.
Byw drwy glwy’ y drwg mwya’
a’n dwg yn nes at y da.
Siw Jones - 8 pwynt.
Limrig: Mae rhywun yn rhywle yn honni
Mae rhywun yn rhywel yn honni
Mai ond chwedl yw’r holl Fabinogi.
Ond fed daw Bendigeidfran
i’w sortio nhw allan
ac wedyn fe fyddan nhw’n sori.
Dafydd Emyr - 8.5 pwynt.
Mae rhywun yn rhywle yn honni
Bod Donald yn gweud lot o gelwy’,
Ond Jawch, gweud y gwir
Ma’r boi a’r gwallt hir,
Mae hynny mor glir erbyn heddi!
Peter Hughes Griffiths - 8.5 pwynt.
Cerdd ar fesur yr Englyn Milwr: Dihiryn
Un milain yw’r ymwelydd;
Heibio daw’n fwy slei bob dydd
A galw’n ddigywilydd.
I’n drws daw’r lleidir oesol
Gan sleifio eto’n ei ôl
A’r eiddo’n mynd yn raddol.
Dwyn urddas a dwyn harddwch;
Yn eu lle, dim ond y llwch
A drysu ar ben dryswch.
Llarpio’r cof a’r atgofion
A strywo oes o straeon –
Eu dwyn oll wna’r bioden hon.
Ymhen dim, er mynd ymaith
Nid yw'n un sy'n dwyn un waith,
Daw'n ei hôl a dwyn eilwaith.
Emyr Davies - 10 pwynt.
Ddoe â’i baent fe fu’n ddi-baid
yn arwain hen anwariaid,
yn un â hwliganiaid,
a heddiw deil yn ddi-dor
i oddef dros egwyddor
â chariad. Mae’n garcharor.
Euog oedd o ddweud y gwir,
o wrando llais y crindir
a’i alwad taer i ddal tir.
Euog o gael un awydd,
ac euog yn dragywydd
o roi’i oes dros eiriau rhydd,
rhoi i’r iaith enau’i pharhad,
troi ei gell yn gartre’r gad,
a’n herio a’i gorn siarad.
Meirion Jones - 9.5 pwynt.
Pennill ymson golygydd
Mae’n awdur tra toreithiog,
mae’n enwog ym mhob man,
ond mae’i sillafu’n garbwl
a’i baragraffu’n wan.
Dwi di gweithio ar ei rybish
yn drwm ers bore Llun,
byddai’n llawer haws pe bawn-i
wedi sgwennu’r llyfr fy hun.
Emyr Davies - 8 pwynt.
Mae’r sc诺p yn dweud â sicrwydd
beth yn union sydd ar ddigwydd,
ond ‘fory rhaid bydd adrodd
pam yn union na ddigwyddodd.
Meirion Jones - 8 pwynt.
Cân Ysgafn – Y Ras Traws Gwlad.
‘Roedd y beirdd I gyd yn eu gwyn, gwyrdd a glas,
Yn barod mewn lein i gychwyn y ras.
‘Roedd Ceri Wyn Jones yn nyrfys rec,
Achos ar daniad y gwn fel glywodd ddwy glec.
Aeth R.Williams Parry ar d-tour gynddeiriog,
Wedi dweud ei fod isho dilyn ryw lwynog.
Roedd trainers T.H. fel dwn’i’m be’,
Gyda darnau ar wasgar dros y lle.
R’oedd Dewi Emrys yn perfformio yn well,
‘roedd o’n gwybod lle ‘roedd yr hen linell bell.
Aeth Dic Jones ar goll dros wlad a thre’,
Achos fe redai ymlaen er na wyddai ymhle.
Orffennodd T.Gwyn ddim mor ornest hon,
‘roedd o ‘di diflannu draw dros y don.
Byddai T.Llew Jones wedi ennill yn glir,
Pe byddai heb aros i oedi’n hir.
Dyw Dafydd ap Gwilym ddim yn rhedeg yn awr,
Mi drawodd ‘i ben wedi trafferth mawr.
Daeth ras y beirdd i ben ar hynny,
A’r cwbl allai ddeud yw digwyddodd…..darfu.
Tudur Dylan Jone - 9.5 pwynt.
Mae’n Ras Traws Gwlad Arlywyddol Cymru,
Rw i’n ymgeisydd. Mae’n rhaid ichi barchu
Fy holl syniade. Gwnaf, Gwnaf unwaith eto
Godi’r henwald ‘nei hol ‘da’m maniffesto.
Mi goda i wal ar hyd Clawdd Offa,
Caiff neb ddod miwn heb fod ganddo fisa.
Nol a’r ymfudwyr i’w gwlad ‘u hunen
A phob t欧 haf? Nyni fydd ei berchen.
Cymry Cymraeg Caerdydd, peidwch wherthin,
Symuda’i chi nol i gyd i’r gorllewin,
Cwmrag fydd iaith pob ysgol a choleg,
Caiff pawb ei drwytho’n rheolau gramadeg
Er mwyn cael gwared ar ‘so’ a ‘rili’
A cham dreiglo Tomo ar Radio Cymru!
Dim ond un sianel ar ga’l i wrando,
S4C yn unig fydd honno.
Ac os daw Teresa i grafu cytundeb -
Dim cydio llaw, bydd hynny’n drychineb
Ennill y ras, ac Arlywydd bodlon,
Rwy’n addo cadw fy addewidion.
Peter Hughes Griffiths - 9 pwynt.
Ateb llinell:
O dan slogan y faner
O floedd i floedd aeth hi’n fler.
0.5 pwynt.
Telyneg mewn mydr ac odl: Prysurdeb
Draw dros y môr yn rhywle
y mae dwy aden fraith,
a phig yn dechrau’u twtio
i gael cychwyn ar y daith.
Ac yma y mae rhywun
gyda’r t欧 bach lleia rioed
yn ei osod rhwng y blagur
ar gangen ucha’r coed.
Ni wn ymhle mae’r wennol
yn nawns yr awel rydd,
ond pan ddaw Mai i’w chyfarch,
mi wn ymhle y bydd.
Tudur Dylan Jones - 9 pwynt.
(Ar lan y bae yn Aberystwyth)
Pan ddaw yr hwyr a’i flinder llwyr
i doddi c诺yr canhwyllau,
daw hedd i mi ym min y lli
wrth wrando cri y glannau.
Ac ildio’n rhydd mae cân y dydd
mewn ffydd yn gollwng gafael,
a hirddydd haf sy’ nawr yn glaf
a’i dyrfa braf yn gadael.
Ar lan y bae, y dydd sy’n llai
a’r môr ar drai, daw cysgod
y miloedd caeth i hawlio’r traeth,
a’u trydar ffraeth sy’n warchod.
Un cwmwl du sy’n gwylio’r lli,
un dorf wahanol bellach -
uwchben y bae, patrymau’n gwau
a’u cyffro’n hau cyfrinach.
Siw Jones - 8.5 pwynt.
Englyn: Llw
‘I am going to build a wall, and they’re going to pay for it.” Donald J. Trump
Rwy’n ddiflino fy ngofal yn y ffydd,
ac at ffin rhy feddal
y dof â’m harfau dyfal
gyda Duw... i godi wal.
Tudur Dylan Jones - 9.5 pwynt.
Rwyf wedi ‘nal yn ei chalon – yn gaeth
yn ei gwên a’i pherson,
awn i lawr ar hyd ein lôn,
a’i rhodio’n hen gariadon.
Matthew Tucker (Englyn i’w gariad Ebony)
Gwynant Hughes - 9 pwynt.
Enillwyr - Tir Iarll.