Gogs v Hwntws Tafwyl.
Gogs v Hwntws Tafwyl.
Trydargerdd: Y gwahaniaeth rhwng Gog a Hwntw neu Y gwahaniaeth rhwng Hwntw a Gog.
Mae un yn byw yn y gogledd
a'r llall yn byw yn y de
yr hwntw'n byw yn uffern
a'r gog yn byw yn y ne.
Geraint Lovgreen - 8.5 pwynt.
Mae gwahaniaeth rhwng a trowsus a ffrog,
Mae gwahaniaeth rhwng bidet a bog,
Ond run fath yn union
Ydyn ninnau, gyfellion,
Achos Cymro ’di Hwntw a Gog.
Tudur Dylan Jones - 8.5 pwynt.
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘UKIP’.
Yng nghanol pob meidrolyn
Cawn gip ar UKIP ei hun.
Gruffudd Antur - 9 pwynt.
Acw, arwyddion UKIP -
lond gwlad - sy'n gasgliad....i'r sgip.
Hywel Griffiths - 8.5 pwynt.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid ydwyf yn cofio yn union’.
Nid ydwyf yn cofio yn union
pwy’m dysgodd i sbeitio y Saeson
ond diawl dwi’n un dda
am ladd ar y pla
os nad ydw i nghanol y cnafon
Casia Wiliam - 8 pwynt.
Nid ydwyf yn cofio yn union
pwy yw’r rhain yn fy llyfr llofnodion;
Vaughan Hughes, Mici Plwm,
pawb o Bobol y Cwm
a rhyw Ceri o dîm y Taeogion.
Mari George - 8.5 pwynt.
Cywydd i ddau lais (rhwng 12 a 18 llinell): Sgwrs.
Sgwrs rhwng Stiward ac ymwelydd wrth Borth Tafwyl:
"Su mai!"
"Oh, erm, excuse me?"
"Sir, I'm extremely sorry. Come in for a look."
"I might."
"Da iawn."
"Is it a hen night?"
"A hen night?! Oh, you're funny. Oh my word, you tickle me. This is Llandaf! It's Tafwyl – a gig that's branded a g诺yl!"
"What's on, then? Is there any highlight that might interest me?"
"Well, I'll tell you. Y Talwrn!"
"Oh, bards? I would rather burn on a cross."
"But Ceri Wyn's a moreish, famous meuryn!"
"No he's not – he's a snotty little bard. I'll let you all be if that's all you have, Tafwyl."
"Fair enough, ran hynny. Hwyl!"
Gruffudd Antur - 9.5 pwynt.
Sgwrs rhwng Cadfridog a Milwr yn y rhyfel byd cyntaf.
Cadfridog:
…Ie, frawd, dos i’r frwydyr
y dydd hwn, a gwisg dy ddur,
caria fidog yr hogiau,
dos i drin y werin iau.
Fyth o hyd fe ddof, o’th ôl,
yn agos o gefnogol,
gwna dy ran, anela’n hy
yn dy flaen… cyn diflannu.
Milwr:
Fesul cam yn ddiamod
af â’m hofn, ond gwn fy mod
ar daith i ddinistrio dyn,
dynoliaeth nad yw’n elyn.
Mor ofer, ofer yw’r un
weithred gan ddau ddieithryn;
minnau ac un Almaenwr,
minnau ac yntau’n un g诺r.
Yn nhynged y bwledi
enw di-fedd ydwyf fi.
Tudur Dylan Jones - 10 pwynt.
Triban beddargraff golffiwr neu olffwraig.
Ni chlywodd ef yr alwad
bod pelen wen yn dwad
a trawyd ef ar dop ei ben
‘amen’ medd gwraig amddifad.
Casia Wiliam - 8.5 pwynt.
Ni roed ’run garreg lanwedd
I nodi man ei ddiwedd,
Mond twll mewn lawnt a fflag fach wen
Uwchben y lle mae’n gorwedd.
Tudur Dylan Jones - 8.5 pwynt.
Parodi ar ‘Yma o Hyd’ (Dafydd Iwan)
(Neges i’r tîmoedd: Gorau oll os y cenir hwn...).
Pwy sydd yn cofio Farage,
Ma’ pawb yn ei gofio fo.
‘chos mae o ar y teledu bob munud,
ac mo bron a ngyrru o ‘ngho’.
Mo’n sefyll dros annibyniaeth,
mo’n herio pwerau y fall,
‘mond un broblem sydd efo hynny,
‘di Farage ddim yn gall.
Mae o yma o hyd,
mae o yma o hyd.
Er na ‘naeth neb ei wadd o,
na gofyn iddo naddo,
neith rywun plîs ei ladd o, mae o yma o hyd.
Pobol ddaw mewn o’r dwyrain,
pobol ddaw mewn o’r môr.
Stopiwch hyn medda Nigel,
‘we just can’t take anymore’.
Da ni misho nyrsys o dramor,
dim isho meddygon o bell.
Da ni misho perthyn i Ewrop
mae popeth Prydeinig yn well.
Mae o yma o hyd,
mae o yma o hyd.
Er na ‘naeth neb ei wadd o,
na gofyn iddo naddo,
neith rywun plîs ei ladd o, mae o yma o hyd.
Cofiwn i Nigel Farage,
ddeud bysa Brexit yn grêt,
Ond beth sydd i’w ddisgwyl gan Idiot,
sy’n galw Y Donald yn fêt.
Ond er gwaethaf y ffaith fod Nigel,
mor boblogaidd a dôs o ffliw.
Fydd o yma tan ddiwedd amser,
ar Question Time yn fyw.
Mae o yma o hyd,
mae o yma o hyd.
Er na ‘naeth neb ei wadd o,
na gofyn iddo naddo,
neith rywun plîs ei ladd o, mae o yma o hyd.
Geraint Lovgreen - 9.5 pwynt.
Fydd neb yn cofio Theresa,
Hwn fydd ei hanes hi:
Dala dwylo â despots
A rhoi ffortiwn i’r DUP.
A phan aeth Theresa Minimus o Brydain
I ymladd dros yr ynys hon,
Yr unig beth cadarn a chryf
Oedd clymblaid Merkel a Macron.
[Corws:]
Ond mae hi yma o hyd,
Mae hi yma o hyd,
Er gwaetha colli(ish) etholiad,
Er gwaetha Comrade Corbyn,
Er gwaetha’i siglo a’i simsan,
Mae hi yma o hyd.
Chwythed Llafur o’r chwith
Rhued UKIP o’r dde
Hollted y blaid Geidwadol
A gwaedded y Lib Dems... siwr o fod... o rywle.
Fe alwodd Theresa etholiad
I rwygo Llafur o’r llawr
Nawr du yw’r cabinet o’i chwmpas
Am na ddaeth TORÏAID y wawr!
Ond mae hi yma o hyd,
Mae hi yma o hyd,
Er gwaetha colli(ish) etholiad,
Er gwaetha Comrade Corbyn,
Er gwaetha’i siglo a’i simsan,
Mae hi yma o hyd.
Cofiwn i Deresa Ddinesig
Adael ein gwlad yn ddarnau mân
Am floeddio gerbron y gwledydd
Fod ‘no deal’ yn well na dêl wan.
Er gwaetha pob Jaune Claude Junker
Er gwaetha Boris a’i griw,
Bydd hi yma hyd ddiwedd y mis
Cyn i Ruth Davidson ei bwyta’n fyw.
Ond mae hi yma o hyd,
Mae hi yma o hyd,
Er gwaetha colli(ish) etholiad,
Er gwaetha Comrade Corbyn,
Er gwaetha’i siglo a’i simsan,
Mae hi yma o hyd.
Gwynfor Dafydd - 9.5 pwynt.
Ateb Llinell ar y pryd.
Erbyn hyn mae'r boen yn well.
Diawl Wyn, am g诺d o linell.
Yn wely'n bu'i fabolaeth.
Erbyn hyn mae'r boen yn waeth.
Yr Hwntws - 0.5 pwynt.
Cerdd (heb fod yn hwy na 18 llinell): Pont
(Pont lechan Capal Bryn)
Caed siars i beidio chware dan y bont.
Lle llawn llygod mawr,
lle tywyll, llaith;
lle hawdd llithro, taro pen.
Y d诺r jest ddigon dwfn.
Ond mynd a wnawn.
Blas ofn yn sur a siarp
fel darn dwy geiniog ar ein tafod.
Ar ein cwrcwd yn dal gwynt
yn clywed cynffonau llygod
yn taro’r d诺r ym mhob diferyn
wrth i’r haul ein tynnu, trwy fwlch yn y brwyn
gerfydd gwallt ein pen a’n trwyn a’n crys
i’r ochor draw, at ola’ dydd ac awyr iach.
Ond rhai nosweithia’, dwi’n dal yn deffro yn y nos
y waliau’n llaith a’r dwr yn llifo drosta i’n
oer, a du.
Elan Muse - 10 pwynt.
Yn ein hergyd,
oedwn fan hyn,
i boeri ein geiriau
i’r d诺r.
Gweld ein hunain
yn grychau
yn y llif sydd wastad yn ifanc,..
A gweld,
mai’r un ergyd
sy’n mynnu ein bod
yn gafael llaw
a chamu’n fach rhwng craciau’r cerrig.
Mari George - 9.5 pwynt.
Englyn ar y pryd: Beic.
Syrthiais, ail godais, ac wedyn eto
Syrthio'n glewt yn sypyn
bach pigog nes i'r hogyn
ddalld ei simsanrwydd ei hun.
Gruffudd Antur 9.5 pwynt.
Taid yn chwarae efo'i wyres:
Er cyh欧d y bu'r cydio yn ei sedd
yn saff, er mwyn prifio.
Yn Daid ddoe gadawodd o
ei dwy olwyn o'r dwylo.
Tudur Dylan Jones - 9.5 pwynt.
Enillwyr: Yr Hwntws.