Rownd Gor Gynderfynol 1 Y Tir Mawr v Caernarfon
Rownd Gor Gyn Derfynol 1 Y Tir Mawr v Caernarfon
Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter,
heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Apêl am Dystion
Mae corn gwddw’r gath
Wedi’w stretshio dair llath
Oes rhywun yn fa’ma yn gwybod pwy nath?
Jôs - 8.5 pwynt
Ces lond bol ar wleidyddion
a'u gweision ffyddlon ffôl
ar stepan pob un drws yn stryd
a'u haddewidion am well byd,
Jehofas, PLÎS dowch 'nôl!
Geraint Lovgreen - 8.5 pwynt
Cwpled caeth er cof am degan
Doli glwt, deil gwawl ei hoed
Ar wên yng nghartre’r henoed.
Huw Erith - 9 pwynt
Yn un â’m dawn arlunio
Aeth fy Etch a Sketch dros go’.
Llion Jones - 8.5 pwynt
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mi glywais ryw s诺n anghyffredin’
Ar ôl bwyta pr诺ns yn Llanfyllin,
Mi glywais rhyw s诺n anghyffredin
A chythrel o straen;
Mi blygais ymlaen
A phibo fel pont dros naw shetin.
Jôs - 8.5 pwynt
Mi glywais ryw swn anghyffredin
Tu allan i Gastell Caeredin:
Ond rhoddais gryn sgwd
I'r pibydd a'i gwd -
A wnaeth y crinc rwd ddim smic wedyn.
Emyn Gomer - 8 pwynt
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Adre’r awn ni i hidio o’r newydd’
Daw, rhwng gofalon, ysfa aflonydd
I adael Cymru, i daenu adenydd
Dros dir agored, gwaraidd y gwledydd
A chael yno'r wefr heddychlon a rhydd.
Drannoeth, a'r cip ar drennydd yn corddi,
Adre'r awn ni i hidio o'r newydd.
Myrddin ap Dafydd - 9 pwynt
Mae rhywrai heno yn hawlio’r hewlydd
‘di laru coelio’r pedlerwyr celwydd
a byw drwy lymder yn ddileferydd
o law i law a chysgod arlywydd
yn oer ar draws Iwerydd; o’n syrthni
adre’ awn ni i hidio o’r newydd.
Llion Jones - 9.5 pwynt
Pennill ymson peintiwr neu beintwraig arwyddion
Rwyf yma'n y doc yn euog,
Mae'r ddedfryd eto i ddod,
Mae'r Fainc er hynny'n gefnogol –
Y Cymry gorau sy'n bod;
Hen dro bod y llys yma'n Swansea,
Dda gen i mo'r arwydd yn tôl –
Ar ôl cael fy nghosb, dwi am ofyn
Am fy mhaent a fy mrwshis yn ôl.
Huw Erith - 9 pwynt
Y fi oedd yr athrylith mwyaf celfydd
Ond bod fy sgrifen braidd yn fawr i’r arwydd:
Ac felly ganwyd Clynnog Faw, a Nefy,
Pont Llyfn, Trev, Llanaelhaia a Phlas Pisty,
Ond aeth fy ngyrfa ddisglair yn draed moch
Pan benderfynais beintio sein Gyrn Goch.
Emlyn Gomer - 8.5 pwynt
Cân (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Siopa
Ddydd Mercher es i siopa ond roedd pob un siop ‘di cau
Yn waglaw fe es adra ac mi es yn ôl ddydd Iau
Ddydd Iau fe es i siopa ac fe brynais fwyd i’r gath
Fe’i bwydais r’ôl mynd adra ond fe farwodd jesd r’un fath
Ddydd Gwener prynais wydda’ Yr oedd un o’r ddwy yn ddall
Pan es i a nhw adra yr oedd hon ‘di bwyta’r llall
Ddydd Sadwrn es i siopio i gael jîns yn ‘Flares For You’
Ond ‘d’oedd y siop ddim yno, dim ers neintîn sefnti t诺
Ddydd Sul fe fum yn siopa Prynais Bathew bodlon, tew
Ond erbyn cyrraedd adra r’oedd o wedi colli’i flew
Ddydd Llun r’ol bod yn siopa es yn sâl ar Ddraenog Môr
R’oedd y creadur ‘fath a finna wedi pasio’i besd biffôr
Ddydd Mawrth fe brynais radio Es i’w gosod yn y fan
D’oedd y radio ddim yn ffitio ond ar danc o Gazakhstan
Ddydd Mercher es i siopio Roeddwn yno erbyn dau
Ond damia unwaith eto r’oedd y siopa i gyd ‘di cau
Dwi awydd cael Fflamingo Ro’i gynnig ar y wê
O wybod sut dwi’n siopio be fedr fynd o’i le ?
Jôs - 9 pwynt
Roedd frederick chopin bob amser yn siopa,
roedd siopa'n weithgaredd a hoffai'n fawr iawn,
ac mae gen i stori am chopin a verdi
(un fer 'di) yn gwneud siopa bach un prynhawn.
Roedd liszt siopa chopin yn ei esgid - ei schu, man,
ac fe aethant i chydig o strach - ma 'ni 'noff
Fe dynnodd ei schu, byt ei draed oedd yn drewi
a'r siopwr yn gweiddi "oi, chopin, prokoffieff!"
Ar hynny rho'th chopin ei wagner gornel
a bygwth vivienne, gwraig y siopwr, yn grieg,
nes i honno gael llond bol a lluchio pawb allan
a chaeodd viv aldi mewn tymer reit big.
Ond roeddent mewn bar tok yn sgwrsio â'r barmed
"dangosa debussy" ebe chopin yn hy
a wedyn fe gawson nhw glinka o noson
yn canu carioci - wel, pa gân i ni?
A daeth amser cau ac roedd haydn hw fynd adre
a bag siopa chopin yn dynn yn ei law
ond torrodd yr handel a'r neges a chwalodd
i gwter a draens stradivarius stryd fawr.
Geraint Lovgreen - 9.5 pwynt
Llinell ar y pryd
Un gôl hwyr iawn ym Melgrâd
O na ddoi drwy ddyhead.
0.5 pwynt
Yn diwedd, 'roedd hi'n dwad
Un gôl hwyr iawn ym Melgrâd.
0.5 pwynt
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Rhestr
Yn Hamelin, mi wn,
cadwyd cofrestr
o'r holl blant bach troedrydd
nad oedd yno,
a phob tro y câi ei galw,
rhoddai'r tai di-ateb
fwy o drapiau wrth y tyllau.
Ac ymhob Hamelin ers hynny,
lle bu cynffonnau hir
o fwg ar draws yr awyr
a hwiangerddi'n tewi
dan y bomiau duon,
cadwyd yr enwau
fel paciau ar gefnau.
Myrddin ap Dafydd - 9.5 pwynt
Ar ôl ymddeol,
roedd ganddo bethau i’w gwneud;
ond rywsut, ar ôl yr ymryddhau
o fân ormes y gwaith,
ac wrth i’r dyddiadur wagio dan ei draed,
disgynnodd drwy Amser!
Nofiodd y cerrig pafin oddi wrth ei gilydd
a throi’n gerrig camu mewn cors...
Ond... roedd dal ganddo... betha... tmo...
ac âi am dro petrus i’r parc
i geisio deall y jig-sô dail ar lawr
tmo...tria’i gweld hi... y patrwm ‘lly...
y petha, ie, ie! ...Ganddo... isio’u gwneud...
a’r geiriau’n dechrau cwffio’i gilydd,
y brawddegau’n nofio ar wahân...
y petha sti ...y ...ganddo... Oedd!
a’i ddyddiau’n troi yn rhestr fantach
rhwng noson hir, a noson arall, hirach...
Ifor ap Glyn - 9.5 pwynt
Englyn: Poster
'Gwnewch Bopeth y Gymraeg'
y Lolfa, sy'n dathlu'r 50 eleni
Yn ei s诺n-hi, cusanwyd;– ei hen hud
A'r modern a rwymwyd;
Drwy lolian craff, argraffwyd
Môr o liw dros Gymru lwyd.
Gareth Williams - 9 pwynt
Synnais wrth dacluso'r droriau a gweld
hanes gig a'i grwpiau
a gedwais; o'r plygiadau
daw hen wefr a dw innau'n iau!
Ifan Prys - 9 pwynt
Enillwyr - Y Tir Mawr