| |
Cyfle i adnabod Cymru
Ap锚l am i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd barhau i deithio i wahanol ardaloedd yng Nghymru oedd un yr actores Siw Huws, llywydd yr Eisteddfod ddydd Mercher.
Wrth siarad gyda'r wasg bu'r actores sy'n chwarae rhan, Kath ym Mhobol y Cwm, yn s么n am y profiadau gwerthfawr a gafodd yn teithio i wahanol eisteddfodau'r Urdd ar hyd a lled Cymru.
Bu'n gyfle unigryw, meddai, ddod i adnobaod gwahanol acenion, tafodieithoedd a diwylliannau gwahanol rannau o Gymru.
"Yr oedd yn anhygoel cael bod yn agored i'r holl acenion newydd a thafodieithoedd gwahanol a diwylliannau gwahanol i be oeddwn i wedi arfer efo fo yn Llangefni," meddai.
Yn sg卯l hynny y gwnaeth ei hap锚l am i'r Urdd sicrhau fod yr Eisteddfod yn parhau i deithio.
"Ac er nad ydw i'n gwybod beth yw'r ateb rwy'n siwr bod yna ffordd i ddatrys y broblem letya,"meddai.
Ychwanegodd iddi hi gyfarfod plant o Grangetown a Splott yng Nghaerdydd a fu'n aros ym M么n eleni.
"Yr oedd y plant yma wedi bod yn Teneriff fwy nag unwaith ond doeddan nhw erioed wedi bod ym M么n ac yr oeddan nhw weedi gwirioni'n bot gyda'r profiad o fod yma - heb yr Urdd fydden nhw ddim wedi cael y profiad yna," meddai.
Ychwanegodd mai'r Urdd yw'r unig fudiad o'i fath sydd yn cydnabod plant o bob math o wahanol gefndiroedd a'u trin yn gyfartal gydol y flwyddyn.
"Ac yr ydw i eisiau diolch i'r Urdd am hynny ar adeg pan fo cymaint o gyfyngu ar ryddid a hawliau plant," meddai.
|
|
|