Tyger y ci dewr
Yr awdur Dafydd Meirion yn cofio stori am gi dewr a achubodd ei feistr rhag boddi yn y m么r ger Ynys M么n.
Mae hanes Tyger y ci dewr i'w weld mewn llyfr o deithiau cerdded, "Anturio ar Ynys M么n gan Dafydd Meirion a gyhoeddir gan Wasg Carreg Gwalch. 拢4.50
Y stori Bron i ddau gan mlynedd yn 么l, roedd llong fechan yn hwylio ar hyd arfordir Ynys M么n ar ei ffordd i Lerpwl.
Ar ei bwrdd roedd capten, dau longwr, bachgen i helpu yn y gegin a chi retriever o'r enw Tyger.
Roedd hi'n niwl trwchus ac roedd y capten yn cael trafferth i weld i ble'r oedd o'n mynd.
Yn sydyn, dyma glec. Roedd y llong wedi taro creigiau Maen Piscar, ynys fechan tua thri-chwarter milltir i'r gorllewin o Ynys M么n. Doedd dim modd gwneud dim byd, felly dyma'r capten yn penderfynu aros i'r niwl ddiflannu.
Daeth y llanw i mewn a chodi'r llong oddi ar y graig, ond doedd y capten ddim wedi sylweddoli fod y graig wedi gwneud twll yng ngwaelod y llong. Pan gafodd ei chodi oddi ar y graig, daeth y dwr i mewn ac mi ddechreuodd y llong suddo. Ond gan ei bod yn dal yn niwl trwchus, doedd neb yn gwybod ym mha gyfeiriad yr oedd y lan.
Roedd Tyger, hefyd, wedi sylweddoli eu bod mewn peryg. Roedd o'n gallu dweud ble'r oedd y lan ac mi neidiodd i'r m么r a dechrau nofio. Penderfynodd y capten, hefyd, mai dyma fyddai orau i'r pedwar ohonyn nhw. Rhoddodd orchymyn i bawb neidio dros ochr y llong a dilyn Tyger.
Roedd y capten yn nofiwr cryf ond doedd y lleill ddim. Cydiodd y bachgen yng ngholer Tyger ac mi gafodd ei dynnu'n raddol tuag at y creigiau ar y lan. Gwelodd y capten fod un o'r llongwyr mewn trafferth ac wedi i Tyger ollwng y bachgen o fewn cyrraedd i'r lan, gwaeddodd ar y ci i fynd i'w helpu.
Trodd Tyger yn ei 么l a chydiodd yng ngholer y dyn 芒'i geg a'i lusgo yn 么l am y lan. Aeth yn 么l unwaith eto i helpu ei feistr a'r llongwr arall i ddiogelwch y creigiau.
Roedd y pump yn gorwedd yn flinedig a gwlyb ar y traeth creigiog. Fesul un ac un, mi gododd y pedwar - ond nid Tyger. Roedd o wedi blino gormod. Cododd ei ben a llyfodd law y capten cyn marw ar y traeth oer.
Heb ddewrder Tyger bydden nhw i gyd wedi boddi ac er mwyn diolch iddo mi dalodd y capten i garreg gael ei gosod gydag enw Tyger a'r dyddiad y bu farw arni a'i gosod ar y clogwyn uwchben y traeth ble glaniodd y criw'n ddiogel.
Ac mae'r garreg yn dal yno ac arni'r ysgrifen - Tyger, September 17th, 1819.
Y Daith: O Draeth Borthwen ger Rhoscolyn ar hyd yr arfordir heibio Ffynnon Gwenfaen ac at garreg Tyger cyn troi'n 么l ar hyd lwybr arall yn 么l i Borthwen. 5 milltir - 2 awr Map yn y llyfr. Ewch i bentref Rhoscolyn a chwiliwch am yr eglwys. Rhyw ganllath i'r gorllewin, mi welwch arwydd yn eich cyfeirio i'r traeth. Mae'n bosib cael bws i Roscolyn ond yna bydd raid ichi gerdded tuag at yr eglwys a chychwyn eich taith oddi yno.
Ewch i lawr i'r traeth ble mae yna doiledau a lle i barcio car. Mae hi'n llawn iawn yma yn yr haf, ond efallai y cewch chi le i barcio wrth yr eglwys, a dechrau'r daith oddi yno.
O Draeth Borthwen, cerddwch i'r dde ac at y wal goncrit a'r llwybr. Ewch ar hyd y llwybr yma sy'n dod 芒 chi'n 么l i'r traeth ac yna'n mynd 芒 chi heibio hen adeilad y bad achub. Cerddwch i fyny at y t gwyn ble gwelwch saethau melyn yn eich cyfeirio i'r dde tuag at d o'r enw Yr Allt.
Yna, ymlaen ar hyd y traeth, heibio gwylfan gwylwyr y glannau ar y chwith i chi a gwylfan arall a sedd arni ar y dde. O fewn dipyn o beth mi ddewch at Ffynnon Gwenfaen. Santes oedd Gwenfaen ac, medden nhw, pe byddech chi'n taflu dwy garreg wen i ddwr y ffynnon, byddech chi'n cael eich gwella.
Ymlaen 芒 chi, drwy gi芒t mochyn, ac ar hyd y llwybr sy'n rhedeg ar hyd ochr wal uchel. Mi ddewch chi rwan at Borth Saint. Croeswch y bont fechan ac ymlaen ar hyd y llwybr.
Gyda hyn, mi welwch d mawr gwyn o'ch blaen. Does dim angen mynd mor bell 芒 hyn. Wedi i chi fynd heibio bae bychan, mi welwch bum carreg i'r chwith i chi. Y gyntaf o'r rhain yw carreg goffa Tyger y ci dewr.
Pan fo'r llanw allan, mi welwch Faen Pisgar allan yn y m么r ble tarodd y llong a suddo.
Wedi seibiant, trowch yn 么l am Borth Saint. I'r chwith mi welwch gamfa, ewch drosti ac ar hyd y cae at gamfa arall a dilynwch yr hen l么n drol nes dewch at ffermdy gwyn. Dilynwch y saethau melyn o gwmpas y t nes dewch at gi芒t mochyn ac arwydd llwybr cyhoeddus.
Drwy'r gi芒t ac i'r chwith ac ar hyd y l么n nes dewch at Eglwys Gwenfaen (ble, efallai, mae rhai ohonoch wedi dechrau'r daith). Ewch i weld yr eglwys.
Yna, chwiliwch am yr arwydd i'r traeth ar y dde. I lawr y ffordd heibio'r dafarn ac ar hyd y ffordd droellog yn 么l i'r maes parcio.
Beth am geisio ateb y cwestiynau hyn ar eich taith? 1. Beth sydd ddim yn cael ei ganiatau yn y maes parcio?
2. Beth yw'r dyddiad ar hen adeilad y bad achub?
3. Faint o seddi sydd yng nghorneli Ffynnon Gwenfaen?
4. Beth yw'r llythrennau ar y llawr ger y gi芒t mochyn wedi mynd heibio Ffynnon Gwenfaen?
5. Llun pa ddau o ddisgyblion Iesu Grist sydd ar ffenestri lliw cyntedd Eglwys Gwenfaen?
6. Pa aderyn sy'n gysylltiedig 芒'r dafarn sydd ar y ffordd i lawr i'r traeth?
|
|