| |
Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd
Mae dau o feirniaid un o brif gystadlaethau llenyddol Cymru wedi cwyno am amharodrwydd pobol ifanc i lenydda ac am safon eu sgrifennu.
Wrth draddodi'r feirniadaeth yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2004 dywedodd Gwilym Dyfri Jones ei fod ef a'i gyd feirniad, Jane Edwards, yn gweld eisiau angerdd, "angst" a beiddgarwch yr ifanc yn y gystadleuaeth.
Heb gicio Cwynodd fod amryw o'r cystadleuwyr yn "amharod iawn" i drafod y "lleng" o argyfyngau sy'n wynebu'r arddegau mewn cyfnod "anodd a dyrys" fel heddiw.
"Chwiliem am yr 'angst' yma, y cicio yn erbyn y tresi, y llais unigol sy'n gweiddi, 'weli di fi?'", meddai.
"Ar y llaw arall, gellir anghofio am yr hunan ac ysgrifennu'n wrthrychol am bobl neu ddigwyddiadau sydd wedi mynd a'u bryd.
"Ond er i ni gael stori gan sawl cystadleuydd, roedden nhw'n tueddu i fod yn arwynebol, anniddorol, amleiriog a fflat - prawf, efallai, fod yn rhaid wrth berson aeddfetach eui brofiad a mwy cyfarwydd 芒'r cyfrwng i lunio a saern茂o stori dda.
Camgymeriadau elfennol Cwynodd hefyd am 么l brys a "chamgymeriadau elfennol". Meddai: "Er ein bod yn ymhyfrydu yn y ffaith i 21 gystadlu am y Goron eleni, rhaid cydnabod mai siomedig oedd y safon at ei gilydd.
"Gwelwyd diffyg ymwybyddiaeth o iaith ysgrifenedig ar ran yr ymgeiswyr ynghyd 芒 thystiolaeth gyson o ddiffyg diddordeb yn y testunau a ddewiswyd ganddynt ac, yn wir, o ddiffyg darllen," meddai.
Yr oedd gwaith enillydd y gystadleuaeth, Sian Eirian Rees Davies, fodd bynnag, wedi hen blesio'r ddau feirniad, fodd bynnag.
"Cawsom ein gwefreiddio gan aeddfedrwydd y cyfanwaith a gallu rhyfeddol yr awdur i drin geiriau," meddai.
|
|
|