Be sydd mewn enw? Dewch i wybod am leoedd gydag enwau difyr ar hyd a lled Ynys M么n
Caergybi: ers y dydddiau cynnar bu sawl enw ar Gaergybi cyfuniad o Caer a'r enw sant, Cybi. Llan neu Llam y Gwyddel oedd y lle yn y cyfnodau cynharaf. Bu hefyd yn Eglwys y Beddi, Cor Cybi a Haliheved. Tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg y gwelwyd Caergybi gyntaf ond yn yr ail ganrif ar bymtheg gwelwyd hefyd y ffurf Gorffwysfa Gybi.
Corn Hir: enw ty yn wreiddiol ond yn awr yn enw ar ran o Langefni. Mae'r ystyr yn amlwg.
Glasinwen: y dwr rhwng M么n ac Ynys Cybi. Glas yn yr ystyr o wyrdd fel ag yn glas-wellt yw hwn ac yn cyfeirio at liw y dwr o bosibl.
Kingsland: ardal o Gaergybi y newidwyd ei henw o Penllechnest i gydfynd ag ymweliad George y pedwerydd yn 1821 ar ei ffordd i Iwerddon lle y rhoddodd yr un enw i Dun Laoghaire.
Llannerch-y-medd: neu yn 么l rhai, gan gynnwys Morrisiaid M么n, Llannerch-y-meddwin! Mae'n ymddangos fod medd yn cael ei gynhyrchu yma ar un adeg pan oedd M么n yn goediog a llannerch yn nodwedd i dynnu sylw ati.
Moelfre: cyfuniad o moel a bryn. Bryn llwm.
Niwbwrch: Newborough oedd yr enw a roddwyd ar y lle gan Edward I pan symudodd drigolion Llanfaes yno. Rhosyr oedd yr enw ar yr ardal cyn hynny gyda 'myr' yn hen luosog o m么r.
Porthaethwy: Yr hen goel yw i'r trigolion cyntaf gyrraedd M么n mewn dwy don. 脗'r don gyntaf wedi ymsefydlu cyrhaeddodd yr ail griw o bobol ac ar ochr Arfon i'r Fenai dyma nhw'n holi yn lle yn union y croesodd y criw cyntaf a derbyn yr ateb; "Dyna'r fan lle'r aetuhont hwy." Byth ers hynny adnabuwyd y lle fel Porth-lle'r-aethont-hwy a gywasgodd yn Porthaethwy. Wrth gwrs, celwydd noeth yw hynny ac yn 么l rhai sy'n gwybod yn well hen enw llwythol ydi Daethwy.
Pentreberw: mae'n ymddangos fod y planhigyn berw dwr yn ffynnu yn yr ardal. Enw arall ar y lle yw Holland Arms oddi wrth dy tafarn o'r enw hwnnw a enwyd at 么l teulu Holland Plas Berw gerllaw.
Porth Dafarch: er nad oes eglurhad pendant i'r enw hwn mae ysgolhieigion yn eithaf sicr nad cywasgiad o Porth Dau Farch ydyw fel y mynn rhai. Y ffurf ar un adeg oedd Porth Davagh ac awgrymwyd mai enw person yw'r ail elfen er nad yw Tafarch yn enw cyffredin iawn.
Porth Swtan: er bod rhai yn mynnu i'r fan hon gael ei henwi ar 么l y milwr Rhufeinig Suetonius Paulinus y dywedir iddo arwain ymosodiad yn erbyn y Derwyddon go brin fod hynny'n gywir ac nad yw swtan yn ddim amgen nag enw pysgodyn sy'n cael ei adnabod fel whiting yn Saesneg!
Rhosneigr: Yr oedd Yneigr yn un o wyrion Cunedda Wledig a dywedir iddo ymladd ochr yn ochr 芒 Chadwallon Lawhir ym Mrwydr Cerrig y Gwyddyl yn y bumed ganrif pryd y cafodd y Gwyddelod eu hel o'r ynys.
Rhostrehwfa: yr enw sy'n gwenud ichi feddwl am lanhau'e ty! Cyfuniad yw o Rhos, wrth gwrs, ac enw fferm, Tre Hwfa Hwfa yn enw ar berson.
Rhos y Gad: enw ar ddarn o dir comin ger Llanfairpwllgwyngyll ac er mor hwylus fyddai cysylltu'r lle a brwydrau oherwydd yr elfen 'cad' yn yr enw mae'n ymddangos mai Rhos y Gath oedd y ffurf wreiddiol gan gyfeirio at gathod gwyllt oedd yn gyffredin ym M么n rai canrifoedd yn 么l.
Llanbabo. Fel bo'r son roedd Brenin Pabo, o Lanbabo ella? A rhigwm Llanerchymedd y Bondo ble ganwyd Brenin Pabo!