| |
Fel maen nhw'n dweud yn Sir F么n
Fe heidiodd pobl o bob rhan o Gymru i F么n ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd fis Mehefin 2004. Dyma restr o rai o eiriau anghyffredin yr ynys a lunion ni i'w helpu!
Baw teiliwr: rhywbeth brau, disylwedd. Dywedir; "Mae o mor frau a baw teiliwr."
Briblins: rhywbeth m芒n. "Mae'r peth a pheth cyn faned a briblins."
Byw br芒n: Byw yn fain. Gorfod byw heb lawer o arian. Cymharer 芒'r dywediad, "Fe fyddai pwy a phwy fyw lle byddai br芒n yn llwgu."
Calpio: Rhedeg yn wyllt o gwmpas y lle. O'r Saesneg 'gallop' mae'n debyg. "Paid a chalpio'n wirion o gwmpas y lle ma hogyn."
Cancar: Ebychiad yn cyfateb i 'diawl'. "Be gancar ti wneud rwan? Pwy gancar di hwnna?
Ceffyl benthyg: neu ceffyl menthyg, yn wir. Wrth ddisgrifio rhywun sy'n bwyta'n awchus dywedir ei fod, "Yn byta fel ceffyl menthyg." Hynny yw, yn gwneud yn fawr o gael rhywbeth o groen rhywun arall.
Clio: Tynged plant drwg. Hen long hwyliau wedi ei hangori ar y Fenai oedd y Clio ar gyfer dod a ieuenctid at eu coed. Y bygythiad fyddai, "Os na fyddi di'n byhafio mi fyddai'n dy anfon di i'r Clio." Cymharer 芒 "Llys Berffro."
Dinad man: lle anghysbell, pell o bobman, ydi lle dinad man neu ddinab man.
Fflachod: esgidiau salw ond cyfforddus sy'n syrthio'n ddarnau. "Welsoch chi hi, doedd ganddi hi ond rhyw hen fflachod am i thraed?" neu "Mi wnaiff yr hen fflachod ma'n iawn jyst i bicio i'r siop."
Golchi: curo rhywun, rhoi andros o gweir i rywun. Hawdd fyddai camddeall, "Mae o'n golchi'i wraig bob nos, a'r plant a'r ci hefyd."
Hogyn (lluosog = hogia): bachgen. Ond mewn rhannau o'r sir gall y lluosog olygu cymysgedd o fechgyn a merched. Pan yw mam yn dweud fod ganddi lond ty o hogia ni ellir bod yn sicr mai dim ond bechgyn sydd ganddi. Hogan ydi'r ffurf fenywaidd a lluosog arferol hwnnw ydi gennod.
Ledi'r India: llwyn tri lliw ar ddeg (hydrangea).
Llyffanta: cerdded o gwmpas heb wisgo'n ddigonol mewn oerni. Go debyg ei fod yn arfer sydd wedi peidio a bod y dyddiau hyn o dwymo canolog ond ar un adeg, pan fyddai plant yn chwarae mewn llofft heb wres ynddi yn hytrach na swatio dan y dillad yn eu gwelyau, byddent yn cael gorchymyn i "beidio a llyffanta". Fe'i defnyddir oherwydd bod llyffant yn greadur naturiol oer debyg. Awgrym arall yw mai llygriad o'r Saesneg 'flaunt' ydi o ond mae'r fersiwn llyffant yn cyfleu gwell darlun.
Llys Berffro: pen y daith i droseddwyr! "Yn Llys Berffro byddi di ar dy ben." Cof gwlad mai yma yr oedd llys hen dywysogion Gwynedd ar un adeg. Cymharer 芒 Clio.
Pegan: cael pegan yw cael eich twyllo; eich 'conio' yn iaith heddiw. "Mi gafodd o gythral o began yn prynu'r car yna."
Picadili: ffrinj gwallt.
Picio: Does yna neb ym M么n byth yn mynd i le'n byd, dim ond picio i bobman. Galwad sydyn ydi'r ystyr o gymharu ag ymweliad hirach. Jyst mynd a dod. "Mi rydw i am bicio i dy fy chwaer" neu "Dwi'n meddwl y piciai i Fangor i wneud 'chydig o siopio." Gwahoddiad fyddai; "Piciwch draw acw rhyw bnawn."
Pitar ulw: Yn ofnadwy. "Roedd o wedi gwylltio'n bitar ulw.".
Rhesal: mae'n ddywediad cyffredin o weld rhywun tew i ddweud "fod eisiau codi'r rhesal arno fo." Y rhesal oedd math o gawell i ddal gwair ar bared cwt anifeiliaid a'r ffordd o'u cael i fwyta neu sglaffio llai oedd codi'r rhesal o'u cyrraedd. .
Saesnes: pladur.
Sian dunnall: merch dew.
Taflu dagrau: yn bwrw ond ychydig ddafnau ysbeidiol o wlaw. "Rhyw daflu dagrau mae hi ond mi ddaw yn law trwm cyn diwedd pnawn."
Wats Llangefni: wats dda. "Mae'n cadw amser fel wats Llangefni."
|
|
|