| |
Gw欧r Mawr M么n
Rhai o enwogion llenyddol M么n. Beth am ychwanegu at y rhestr gyda'ch dewis chi o enwogion o'r ynys?
Cybi a Seiriol: mae sawl fersiwn o'r stori am y seintiau Celtaidd Seiriol Wyn a Chybi Felyn y naill yn byw ym Mhenmon a'r llall yng Nghaergybi. Yn 么l y fersiwn fwyaf poblogaidd byddai'r ddau yn cerdded ar draws yr ynys i gyfarfod ei gilydd; Seiriol yn cerdded tua'r gorllewin yn y bore a'r haul tu cefn iddo a Chybi tua'r dwyrain gyda'r haul i'w wyneb gan gyfarfod yng Nghlorach yng nghanol yr ynys. Derfyn dydd byddai'r ddau yn dychwelyd i'w cartrefi - Cybi yn awr yn wynebu machlud haul yn y gorllewin ond Seiriol yn wynebu'r dwyrain a'r haul unwaith eto tu cefn iddo. O ganlyniad roedd wyneb Cybi (Felyn) wedi ei liwio gan yr haul ond Seiriol (Wyn) yn welw heb gyffyrddiad yr haul. Mewn fersiwn arall byddai'r ddau yn teithio mewn cwch a chyfarfod ar y Fenai - gyda'r un canlyniad wrth gwrs.
John Eilian: John Tudor Jones oedd enw iawn y newyddiadurwr a'r bardd a aned yn Llaneilian, M么n.
Ef oedd golygydd cyntaf Y Cymro pan sefydlwyd hwnnw yn 1932. Bu hefyd yn gweithio ar y Western Mail a'r Daily Mail ac ar y Times of India pan yn byw yno.
Yn ogystal 芒 bod yn olygydd cyntaf Y Cymro ef hefyd sefydlodd un o'r cylchgronau mwyaf blaengar erioed yn yr iaith Gymraeg, Y Ford Gron yn y tridegau gan ddod a ffresni nas gwelwyd o'r blaen i gylchgrawn poblogaidd Cymraeg.
Daeth ei yrfa i ben gyda phapurau'r Herald yng Nghaernarfon lle'r oedd yn brif olygydd. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd yn aelod o gomisiwn a sefydlwyd gan y Llywodraeth i edrych ar y Wasg ym Mhrydain.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1947 a'r Goron yn 1949. Er mai ar y teitl Meirionnydd yr enillodd ei Goron dywedodd mai M么n oedd ar ei feddwl wrth gyfansoddi'r gerdd a'i deimladau tuag at yr ynys sydd ynddi mewn gwirionedd.
Bu bron iddo 芒 bod yn hwyr ar gyfer ei goroni gan i'w gar orboethi ar y ffordd i'r seremoni.
Un o gampau ei gerdd a enillodd i'r gadair oedd iddo ei chyfansoddi ar 'fesur Madog' un o'i arwyr ll锚n ers ei ddyddiau yn y coleg yn Aberystwyth, T. Gwynn Jones.
Yn wleidyddol yr oedd yn Geidwadwr ac yn frenhinwr pybyr a wrthwynebai'n llwyr Blaid Cymru a dulliau mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith. Aflwyddiannus fu ei ymdrech i ennill M么n i'r Tor茂aid mewn etholiad cyffredinol fodd bynnag.
John Morris-Jones: Ganwyd y bardd ac un o ysgolheigion pennaf y Gymraeg yn Nhrefor ger Llandrygan ond ei fagu yn Llanfairpwllgwyngyll.
Er mai mewn Mathemateg y graddiodd yn Rhydychen daeth dan ddylanwad Syr John Rhys, Athro Celteg Rhydychen gan beri iddo ymddiddori mewn llenyddiaeth a gramadeg Gymraeg a sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn y coleg yn 1886.
Fel darlithydd yn y Gymraeg y daeth i Goleg y Brifysgol Bangor yn 1889 gan ddod wedyn yn bennaeth yr adran.
Byddai'n beicio o'i gartref, Ty Coch yn Llanfairpwll, dros y bont i'w waith yn y coleg.
Yr oedd ei gyfraniad mwyaf mewn diwygio a safoni orgraff y Gymraeg a'i ddadansoddiad safonol o Gerdd Dafod mewn llyfr o'r enw hwnnw a gyhoeddodd yn 1925.
Yr oedd yn delynegwr deheuig ond nid pawb a welai ragoriaeth i'w farddoniaeth gyda T Marchant Williams yn disgrifio ei gyfrol Caniadau fel, "Machine-made poetry on hand-made paper." Ef gyfieithodd benillion Omar Khayyam i'r Gymraeg.
William Jones: Nid yr un a grewyd gan T Rowland Hughes ac y methodd ei gloc larwm ond gwr a brynodd Llwydiarth Fawr, Llannerch-y-medd, yn 1889. Roedd yn cael ei adnabod fel William Klondyke Jones a daeth i enwogrwydd am wneud ei ffortiwn yn adeiladu tai yn Lerpwl. Fe'i ganwyd yn 1840 a bu farw yn 1918. Ym 1900 creodd waith brics mawr yn Llannerch-y-medd. Yr oedd Llwydiarth Fawr yn enwog am ei gysylltiad ag uchelwyr M么n yn dyddio'n 么l i ddyddiau Tegerin ap Carwed yn y ddeuddegfed ganrif.
Lewis Morris: Un o brif arweinwyr deffroad llenyddol y ddeunawfed ganrif yng Nghymru. Ganwyd ef ar Ddydd Gwyl Dewi 1700 ym Mhentref Eiriannell.
Yn 1737 cafodd swydd gyda'r Llywodraeth yn arolygu, mesur a darlunio porthladdoedd ac arfordiroedd Cymru.
Yn 1735 cyhoeddodd gylchgrawn mwyaf byrhoedlog Cymru. Tlysau yr Hen Oesoedd yn cynnwys darnau o weithiau yr hen Gymry. Ni chafodd ddim cefnogaeth ac o'r herwydd fu yna ddim ail rifyn!
Fel bardd yr oedd wedi meistroli'r mesurau caeth a chyhoeddwyd 46 o'i ganiadau mwyaf adnabyddus yn y Diddanwch Teuluaidd, 1763.
Ond at Feirionnydd, nid M么n, y mae ei linellau mwyaf cofiadwy yn cyfeirio gan gynnwys y cwpled: Glanach yw, os dweda' i'r gwir, Morwynion tir Meirionnydd.
Ac hefyd: Myned adref i mi sydd raid, -Mae'r enaid ym Meirionnydd.
Ef oedd athro dau o feirdd amlyca'r cyfnod, Goronwy Owen a Ieuan Brydydd Hir.
Bu farw yn 1765 a'i gladdu yn Llanbadarn fawr ger Aberystwyth.
Goronwy Owen: Yn fab i feddwn gwastraffus afradodd y mab hefyd ei gyfleon gan ddod i ddiwedd trafferthus ymhell o'i "F么n dirion dir" yn yr Unol Daleithiau.
Ganwyd ef Ddydd Calan 1723 ym mhlwyf Llanfairmathafarn-eithaf ac i'w fam y mae'r diolch iddo gael addysg well na'r cyffredin.
Byddai'n mynychu cartref Lewis Morris ym Mhentref Eiriannell lle derbyniai nid yn unig addysg gan Lewis ond frechdan f锚l a cheiniog gan ei fam.
Bu yn Ysgol Ffriars, Bangor ac wedyn yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.Bu'n athro mewn ysgolion ym Mhwllheli a Dinbych ac am dair wythnos bu'n gurad yn ei blwyf genedigol cyn symud yn gurad eto yng Nghroesoswallt, Donnington, Walton a Northolt yn Lloegr.
Ym mhobman fe'i dilynwyd gan dlodi a thrafferthion a hwyliodd yn y diwedd ar long yn dwyn yr enw addas, Trial, i'r America, lle treuliodd weddill ei ddyddiau yn dal ym mhen ei helynt ac mewn hiraeth dwys am Gymru, a M么n yn arbennig, gan fentro i'r diwydiant tyfu baco hyd yn oed.
Mae'n cael ei gyfrif yn fardd pennaf y ddeunawfed ganrif gyda'i gywydd yn Ateb Huw'r Bardd Coch o F么n, lle mae'n mynegi ei hiraeth am yr ynys, a chywydd arall, Y Farn Fawr, a marwnad i'w ferch, "Elin liw hinion" ymhlith ei oreuon.
Yr oedd yn cael ei adnabod fel Goronwy Ddu o F么n.
|
Grahame o Gaerdydd
Rwy'n gobeithio mynd i'r Urdd eleni.
Sion Caerdydd
Diddorol iawn!
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|
|